- Cyflogwr:
- Bridgend County and Borough Council
- Lleoliad:
- Civic Offices, Angel Street, CF31 4WB, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Gwerth blynyddol
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- T S W Training
- Lefel:
- Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2)
- Sector:
- Busnes a Rheoli
- Llwybr:
- Gweinyddu Busnes
- Dyddiad cau:
- 28 January 2026
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6772
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Cyfnod Penodol hyd at 2 flynedd
Rydym yn cynnig cyfle i rywun ymuno â Thîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol a dilyn rhaglen brentisiaeth a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ddilyn gyrfa ym maes gweinyddu busnes.
A chithau'n cael hyfforddiant mewn swydd, profiad a chymorth i gyflawni FfCCh (Fframwaith Credydau a Chymwysterau) Lefel 2 mewn gweinyddu busnes, byddwch yn dysgu am waith Tîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gan gynorthwyo ym mhob maes gweinyddu yn Nhîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo gweithgarwch dysgu a datblygu ar draws y sector gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Byddwch yn meddu ar sgiliau TGCh rhagorol eisoes, gan gynnwys prosesu geiriau a thaenlenni gyda phrofiad o ddefnyddio cynnyrch Microsoft Office neu gyfwerth. Bydd hyn wedi'i ategu gan safon dda o addysg ag isafswm o 3 TGAU, i gynnwys Saesneg a Mathemateg, ar radd C neu uwch. Bydd eich agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu a datblygu a'r gallu i weithio gydag eraill yr un mor bwysig.
Gofynion
Sgiliau
• Profiad o ddefnyddio
cynnyrch Microsoft Office yn
enwedig Word ac Excel.
• Yn gyfarwydd â phrosesau a
systemau gweinyddol.
Dymuniad cryf i gaffael rhagor
o wybodaeth a sgiliau mewn
amgylchedd gwaith.
• Sgiliau cyfathrebu da.
• Gallu ffurfio perthnasoedd
adeiladol â chydweithwyr a
staff o asiantaethau eraill.
• Gallu dangos sgiliau trefnu
da.
• Sgiliau TG gwych.
• Gallu cynnal tasgau yn dilyn
hyfforddiant a/neu
gyfarwyddyd.
• Gallu bod yn gynnil a chynnal
cyfrinachedd
Cymwysterau
O leiaf 3 TGAU gan gynnwys
Saesneg a Mathemateg ar
radd C neu uwch neu
gyfwerth.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- T S W Training
- Training provider course:
- Prentis Gweinyddu Busnes - Lefel 2 - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
Ynglŷn â'r cyflogwr
Civic Offices
Angel Street
Bridgend
Bridgend
CF31 4WB
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Dyddiad Cau: 28 Ionawr 2026 Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 02 Chwefror 2026 Dyddiad y Cyfweliad: 27 Chwefror 2026
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now