Skip to main content

Bridgend County and Borough Council

Bridgend County and Borough Council Logo
Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Bydd y lleoliad yn dibynnu ar rôl y Brentisiaeth – felly gallai fod yn unrhyw le ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Sector:
Gwasanaethau Cyhoeddus

Trosolwg o'r cwmni

Mae’r cyngor yn darparu ystod eang o wasanaethau allweddol i oddeutu 133,000 o bobl ac mae wedi ymrwymo i wneud y fwrdeistref sirol yn lle y mae pobl am weithio ynddi.

Cyfleoedd a gynigir

Nid yw’r rhestr ganlynol yn cynnwys pob enghraifft: Gweinyddu Busnes, TGCh, Dysgu a Datblygu, Rheoli, Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Cyfleusterau, Rheoli Adeiladau, Priffyrdd, Cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau trwm, Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Caffael - Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi, Rheoli Prosiect, AAT, Marchnata ac ati.

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Er y bydd y cyfrifoldebau yn amrywio yn dibynnu ar y rôl, rydym yn disgwyl i’n prentisiaid feddu ar sgiliau TG da, sgiliau cyfathrebu a threfnu da a’r gallu i weithio fel rhan o dîm.

Byddwch yn dysgu yn y swydd ac yn dilyn cymhwyster perthnasol yn unol â’r rôl.

Buddion sydd ar gael

Ymrwymo’n llwyr i fuddsoddi mewn Prentisiaid, gallant ddisgwyl derbyn cymorth gan eu rheolwr, eu tîm a chyfleoedd datblygu wedi’u teilwra gan y Tîm Dysgu a Sefydliadol. Mae cwmpas i ddatblygu sgiliau ac mewn sawl achos cael cyflogaeth yn y dyfodol.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth drwy ein prosesau recriwtio; cael y gwerthoedd, ymddygiad ac agweddau iawn i weithio’n effeithiol. Ymrwymiad i ddysgu a datblygu sgiliau a gwybodaeth. Brwdfrydedd a chymhelliant i lwyddo.

Y cam cyntaf yw dangos y priodweddau hyn a’r rhai yn y fanyleb swyddi yn eich datganiad personol ar y ffurflen gais.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Mae rolau pob prentis yn cael eu gwerthuso a’u talu yn unol â Strwythur Tâl a Gradd y Cyngor.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Nid oes dyddiadau penodol ar gyfer recriwtio prentisiaid – mae’n dibynnu ar pryd fydd swyddi ar gael.

Lleoliad

Civic Offices
Angel Street

CF31 4WB

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .