Skip to main content

Prentis Dros Dro - Swyddog Cyllid (Refeniw a Budd-daliadau)

Cyflogwr:
Lleoliad:
R C T Council Offices, Oldway House, Porth Street, CF39 9ST, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Isafswm cyflog cenedlaethol
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Dyddiad cychwyn posibl:
02 September 2024
Dyddiad cau:
22 May 2024
Safbwyntiau ar gael:
2
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
5341
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

Cwblhau'r Fframwaith prentisiaeth a manteisio ar unrhyw hyfforddiant arall sy'n berthnasol i'r swydd, gan gynnwys hyfforddiant gan oruchwyliwr a hyfforddiant wrth y gwaith.

Bydd y prentis yn datblygu sgiliau a galluoedd o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth staff â chymwysterau addas, ac yn helpu'r adran i wneud y canlynol:

Mynd i gyfarfodydd carfan yn rheolaidd, yn ogystal â chyfarfodydd adolygu rheolaidd gyda'r rheolwr llinell ac ati, a chymryd rhan ynddyn nhw.

Cynorthwyo â thasgau a chyfrifoldebau gweinyddu cyffredinol yn unol â'r gofynion penodol sydd wedi'u nodi yn y disgrifiad swydd.

Ymgymryd â gwaith mewnbynnu data yn rheolaidd, a chynnal cofnodion electronig yn systemau'r Cyngor, yn benodol y System Treth y Cyngor a'r System Budd-dal Tai.

Cyfathrebu â holl weithwyr, rheolwyr a gwasanaethau mewnol eraill y Cyngor.

Cynnal 'gwasanaeth i gwsmeriaid' o safon uchel i bawb sy'n ffonio ac sy'n galw heibio'r
swyddfa.

Ymgymryd â dyletswyddau swyddfa cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys prosesu'r holl ohebiaeth drwy'r post ac unrhyw ohebiaeth electronig, gan sicrhau bod gwaith yn gywir ac yn cael ei gyflwyno i'r safon orau.

Gweithio'n broffesiynol a chyfleu delwedd gadarnhaol o'r Cyngor yn y gweithle.

Darparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel i'r maes gwasanaeth.

Ymgymryd ag unrhyw swyddogaethau eraill, yn unol ag anghenion penodol y swydd.

Cynnal cyfrinachedd ar bob adeg.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaethau sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu, a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Ydy gweithio'n rhan o garfan frwdfrydig a llawn cymhelliant yn apelio atoch chi? Ydych chi'n awyddus i gael gyrfa yn rhan o'r garfan Refeniw a Budd-daliadau? Rydyn ni am benodi dau swyddog dan brentisiaeth i ymuno â'r carfanau. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn rhagweithiol, llawn cymhelliant ac yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol a llygad craff.

Mae ein carfanau Refeniw a Budd-daliadau'n gyfrifol am waith gweinyddu dydd i ddydd cofnodion Treth y Cyngor, Ardrethi Annomestig a Budd-dal Tai.

Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Bydd pob prentis yn cael cymorth i gwblhau cymhwyster FfCCh (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, NVQ yn flaenorol) mewn Gweinyddu Busnes, Lefel 3 drwy ddarparwr hyfforddiant neu goleg lleol.

Faint byddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

• 21 oed neu'n hŷn £11.42
• 18–20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40

Pecyn buddion

• Cewch eich talu wrth ddysgu
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant yn y gwaith
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn
RhCT
• Cerdyn gostyngiadau Vectis


O ganlyniad i feini prawf y Cynllun Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.

Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.

Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk.gov.uk

Gofynion

Sgiliau

Dealltwriaeth o wasanaethau'r Cyngor

Gweithio mewn amgylchedd swyddfa prysur

Y gallu i gwblhau tasgau yn ôl amserlenni a gweithio at derfynau amser

Cymwysterau

Does dim angen unrhyw brofiad uniongyrchol ond mae diddordeb mewn meithrin sgiliau a phrofiad yn y maes yma yn hanfodol
Ymroi i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol
Gallu gweithio'n rhan o garfan
Y gallu i gyfathrebu'n dda ar lafar ac yn ysgrifenedig
Y gallu i ddilyn rhaglen hyfforddi strwythuredig
Y gallu i gyflawni cymhwyster FfCCh trwy goleg/ddarparwr hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'r swydd
Hyder wrth ddefnyddio TGCh (e.e. e-bostio a phrosesu geiriau)

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
No
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
No

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Training provider course:
FfCCh (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, NVQ yn flaenorol) mewn Gweinyddu Busnes, Lefel 3

Ynglŷn â'r cyflogwr


R C T Council Offices, Oldway House
Porth Street
Porth
Rhondda Cynon Taf
CF39 9ST

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now