Skip to main content

Prentis Dros Dro – Peirianneg Sifil

Cyflogwr:
Lleoliad:
Rhondda Cynon Taff County Borough Council, 1, Llys Cadwyn, CF37 4TH, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Isafswm cyflog cenedlaethol
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Dyddiad cychwyn posibl:
02 September 2024
Dyddiad cau:
22 May 2024
Safbwyntiau ar gael:
2
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
5307
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

Byddwch chi'n datblygu sgiliau a galluoedd o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth staff â chymwysterau addas, ac yn helpu'r adran i wneud y canlynol:

Mynd i gyfarfodydd carfan yn rheolaidd, yn ogystal â chyfarfodydd adolygu rheolaidd gyda'r rheolwr llinell ac ati, a chymryd rhan ynddyn nhw.

Cynnal gwaith ar y safle gyda pheiriannydd cymwys.

Darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid wrth ddelio ag ymholiadau dros y ffôn ac wyneb yn wyneb gan gwsmeriaid/cleientiaid mewnol ac allanol y gwasanaeth.

Cefnogi carfanau o arolygwyr, technegwyr a pheirianwyr wrth ddatblygu a rheoli prosiectau a gwasanaethau ym maes peirianneg traffig a sifil.

Darparu cymorth o ansawdd uchel i'r maes gwasanaeth gan gynnwys prosesu geiriau, taenlenni a thasgau TGCh perthnasol eraill.

Rhoi cymorth gweinyddol ar brosiectau, gan gynnwys cynnal cofnodion.

Gweithio'n broffesiynol a chyfleu delwedd gadarnhaol o'r Cyngor yn y gweithle.

Mynd i gyfarfodydd ac achlysuron yn ôl yr angen.

Ymgymryd ag unrhyw swyddogaethau eraill, yn unol ag anghenion penodol y swydd.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaethau sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu, a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Mae adran Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd a Chynlluniau Strategol y Cyngor yn gyfrifol am werthuso, dylunio, adeiladu, goruchwylio a rheoli amrywiaeth eang o brosiectau cyffrous a heriol. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau adfer tir, draenio, sefydlogi tir, cludiant, rheoli traffig, a strwythurau'r priffyrdd, yn ogystal â phrosiectau ar dir wedi'i lygru a phrosiectau eraill yn ymwneud â'r priffyrdd.

Rydyn ni eisiau penodi dau Brentis Peirianneg Sifil i ymuno â'n carfanau Traffig a Phrosiectau Strategol. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, bod yn drefnus ac yn gallu gweithio'n rhan o garfan.

Dyma gyfle arbennig i ymuno â'n carfan sy'n tyfu, gan dderbyn hyfforddiant wrth i chi weithio ar ystod eang o brosiectau peirianneg sifil ledled y Fwrdeistref. Byddwch chi'n cael eich mentora a'ch cefnogi gan beirianwyr profiadol er mwyn datblygu eich gyrfa rhagor yn ystod cyfnod y brentisiaeth.

Gofynion Mynediad:
Rhaid i'r ymgeisydd feddu ar 5 TGAU A–C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc gwyddonol, neu gymwysterau cyfatebol.

Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Yn rhan o'r brentisiaeth yma, byddwch chi naill ai'n cael eich cefnogi i gyflawni cymhwyster FfCCh (QCF) Lefel 3 Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig mewn coleg lleol neu i gyflawni gradd-brentisiaeth Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol De Cymru.

Faint byddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

• 21 oed neu'n hŷn £11.42
• 18–20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40

Pecyn buddion
• Cewch eich talu wrth ddysgu
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant mewnol
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn
Rhondda Cynon Taf
• Cerdyn gostyngiadau Vectis

O ganlyniad i feini prawf prentisiaethau, allwn ni ddim derbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg.

Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.

Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk

Gofynion

Sgiliau

Cymwysterau Safon Uwch (Lefel A), gan gynnwys Mathemateg.
Gwybodaeth am beirianneg sifil, gan gynnwys adeiladu, dylunio a rheoli prosiectau.
Dealltwriaeth am faterion Iechyd a Diogelwch.
Dangos dawn peirianneg ac arlunio ar feddalwedd e.e. Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a meddalwedd 3D eraill.
Profiad o weithio mewn amgylchedd neu ddisgyblaeth peirianneg sifil/amgylcheddol/drefol.
Y gallu i gwblhau tasgau yn ôl amserlenni a gweithio at derfynau amser.
Y gallu i feddwl yn drwyadl wrth gynllunio a threfnu rhannau o brosiectau.

Cymwysterau

5 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg.

Ymrwymiad i weithio tuag at gymhwyster sy'n ofynnol ar gyfer y swydd.

Hyder wrth ddefnyddio TGCh (e.e. e-bostio a phrosesu geiriau).

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
No
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
No

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Training provider course:
QCF Lefel 3 Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig.

Ynglŷn â'r cyflogwr


Rhondda Cynon Taff County Borough Council, 1
Llys Cadwyn
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 4TH

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld.

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now