Skip to main content

Prentis Dros Dro – Maethu Cymru RhCT

Cyflogwr:
Lleoliad:
Rhondda Cynon Taff Council, Unit 1-2, Maritime Industrial Estate, CF37 1NY, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Isafswm cyflog cenedlaethol
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Dyddiad cychwyn posibl:
02 September 2024
Dyddiad cau:
22 May 2024
Safbwyntiau ar gael:
1
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
5309
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

• Cefnogi'r broses ymsefydlu rhieni maeth posibl a'u cymeradwyo
• Cefnogi plant a'u rhieni maeth, e.e. yn ystod y cyfnod ymsefydlu
• Darparu cymorth yn ymwneud â lleoliadau i rieni maeth yn ôl yr angen fesul cynllun gofal a chymorth, e.e. ar adegau o her, yn dilyn honiad
• Cefnogi anghenion dysgu a datblygu rhieni maeth
• Cefnogi achlysuron recriwtio a chadw megis Pythefnos Maethu, 'Meibion a Merched', achlysuron ymgynghori
• Tynnu sylw'r gweithiwr cymdeithasol sy'n atebol i'r achos a'r rheolwr carfan at unrhyw bryderon uniongyrchol ynghylch diogelwch y plentyn neu berson ifanc
• Cwblhau gwaith uniongyrchol gyda rhieni maeth yn unol â chyfarwyddyd Rheolwyr y Garfan
• Mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen
• Cynnal yr holl gofnodion electronig gan sicrhau bod yr wybodaeth sy'n cael ei chadw yn gywir ac yn gyfredol
• Cyfrannu at gyflawni amcanion a thargedau cyflawniad yr adran.

Cwblhau Fframwaith Prentisiaeth a manteisio ar unrhyw hyfforddiant arall sy'n berthnasol i'r swydd, gan gynnwys hyfforddiant gan oruchwyliwr a hyfforddiant wrth y gwaith.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaethau sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Mae Maethu Cymru RhCT yn rhan o Adran Gwasanaethau i Blant y Cyngor ac mae'n gyfrifol am recriwtio, asesu a chefnogi Rhieni Maeth Prif Ffrwd, Rhieni Maeth sy'n Berthnasau a Gwarcheidwaid Arbennig. Mae'r Gwasanaeth hefyd yn darparu gwasanaethau lleoli ar gyfer y Gwasanaethau i Blant.
Mae rhieni maeth a Gwarcheidwaid Arbennig yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau plant sy'n agored i niwed, gan roi ymdeimlad o sefydlogrwydd a sicrwydd iddyn nhw yn ystod cyfnodau anodd. Mae angen pob math o gymorth ar rieni maeth er mwyn iddyn nhw allu cael effaith gadarnhaol ar fywyd plant, gan eu helpu i dyfu a ffynnu mewn amgylchedd diogel a meithringar.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn creadigol, angerddol sy'n frwd dros gyflawni deilliannau cadarnhaol i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal weithio yng ngharfan Maethu Cymru RhCT. Byddwch chi'n rhan o wasanaeth maethu prysur sydd hefyd yn cefnogi ac yn goruchwylio rhieni maeth, sy'n recriwtio ac sy'n darparu gwasanaethau lleoli.

Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Bydd pob prentis yn cael cymorth i gwblhau cymhwyster FfCCh (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, NVQ yn flaenorol) mewn Gweinyddu Busnes, Lefel 3 drwy ddarparwr hyfforddiant neu goleg lleol.

Faint byddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

• 21 oed neu'n hŷn £11.44
• 18–20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40

Pecyn buddion
• Cewch eich talu wrth ddysgu.
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant mewnol
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn
Rhondda Cynon Taf
• Cerdyn gostyngiadau Vectis

O ganlyniad i feini prawf y Cynllun Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.

Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.

Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Gofynion

Sgiliau

Dealltwriaeth o wasanaethau'r Cyngor.
Dealltwriaeth o wasanaethau maethu.
Profiad perthnasol o weithio mewn swyddfa gan fewnbynnu ac adfer data o systemau cyfrifiadurol.
Y gallu i gwblhau tasgau yn ôl amserlenni a gweithio at derfynau amser.

Cymwysterau

Y gallu i gyflawni cymhwyster FfCCh trwy goleg/ddarparwr hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'r swydd.
Hyder wrth ddefnyddio TGCh (e.e. e-bostio a phrosesu geiriau).

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
No
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
No

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Training provider course:
FfCCh lefel 3 mewn Busnes a Gweinyddu.

Ynglŷn â'r cyflogwr


Rhondda Cynon Taff Council, Unit 1-2
Maritime Industrial Estate
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 1NY

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld.

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now