- Cyflogwr:
- Lleoliad:
- Ty Glantaf, Treforest, CF37 5TT, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Isafswm cyflog cenedlaethol
- Oriau yr wythnos:
-
31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
-
Coleg y Cymoedd
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 02 September 2024
- Dyddiad cau:
- 22 May 2024
- Safbwyntiau ar gael:
-
1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 5343
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Cwblhau'r Fframwaith Prentisiaeth a manteisio ar unrhyw hyfforddiant arall sy'n berthnasol i'r swydd, gan gynnwys hyfforddiant gan oruchwyliwr a hyfforddiant wrth y gwaith.
Bydd y prentis yn datblygu sgiliau a galluoedd o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth staff â chymwysterau addas, ac yn helpu'r adran i wneud y canlynol:
Mynd i gyfarfodydd carfan yn rheolaidd, yn ogystal â chyfarfodydd adolygu rheolaidd gyda'r rheolwr llinell ac ati, a chymryd rhan ynddyn nhw.
Cynorthwyo i sicrhau bod fflyd gerbydau'r Cyngor yn cael ei chynnal, ei gwasanaethu a'i thrwsio mewn modd economaidd ac effeithlon.
Cynorthwyo i gynnal arolygiadau o'r fflyd gerbydau.
Cynorthwyo i gynnal a chadw offer, cyfarpar a cherbydau mewn cysylltiad â Gwasanaethau Cerbydau'r Cyngor.
Ymgymryd â hyfforddiant a gymeradwywyd ym maes cynnal, gwasanaethu a thrwsio cerbydau, drwy fanteisio ar gyrsiau hyfforddi yn fewnol ac yn allanol.
Ymgymryd â hyfforddiant mewn perthynas â defnyddio a thrin peiriannau'r gweithdy yn ddiogel.
Cynorthwyo i sicrhau glendid y gweithdy, a sicrhau iechyd a diogelwch eich hun a gweithwyr eraill.
Cymryd rhan yn y cynllun galw allan brys, yn ôl yr angen.
Ymgymryd â dyletswyddau glanhau a seimio o dan oruchwyliaeth.
Cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill dan oruchwyliaeth sy'n gymesur â dyletswyddau mecanydd dan brentisiaeth.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaethau sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.
Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.
Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Oes gyda chi ddiddordeb mewn cerbydau? Ydych chi'n ymddiddori mewn dysgu sut mae pethau'n gweithio? Mae Gwasanaethau Cerbydau'r Cyngor yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig a threfnus iawn sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu da, yn fanwl, ac sy'n gweithio'n dda mewn tîm i ymuno â'u carfan.
Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Bydd pob prentis yn cael cymorth i gwblhau cymhwyster FfCCh (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau [NVQ yn flaenorol]) Lefel 3 mewn Atgyweirio a Gwasanaethu Cerbydau Trwm drwy ddarparwr hyfforddiant neu goleg lleol.
Faint byddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:
• 21 oed neu'n hŷn £11.42
• 18–20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40
Pecyn buddion
• Cewch eich talu wrth ddysgu.
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant mewnol
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn
Rhondda Cynon Taf
• Cerdyn gostyngiadau Vectis
O ganlyniad i feini prawf y Cynllun Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.
Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.
Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.
Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk.
Gofynion
Sgiliau
Dealltwriaeth o wasanaethau'r Cyngor.
Y gallu i gwblhau tasgau yn ôl amserlenni a gweithio at derfynau amser.
Ymroi i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol.
Gallu gweithio'n rhan o garfan.
Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Y gallu i ddilyn rhaglen hyfforddi strwythuredig.
Cymwysterau
Does dim angen unrhyw brofiad uniongyrchol ond mae diddordeb mewn meithrin sgiliau a phrofiad yn y maes yma yn hanfodol.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- No
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- No
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
-
Coleg y Cymoedd
- Training provider course:
-
Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh) Lefel 3 mewn Atgyweirio a Gwasanaethu Cerbydau Trwm
Ynglŷn â'r cyflogwr
Ty Glantaf
Treforest
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 5TT
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld.
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now