Skip to main content

Prentis Dros Dro – Goleuadau Strydoedd ac Arwyddion Traffig

Cyflogwr:
Lleoliad:
Rhondda Cynon Taff County Borough Council, 1, Llys Cadwyn, CF37 4TH, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Isafswm cyflog cenedlaethol
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Dyddiad cychwyn posibl:
02 September 2024
Dyddiad cau:
22 May 2024
Safbwyntiau ar gael:
1
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
5342
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

Mynd i gyfarfodydd carfan yn rheolaidd, yn ogystal â chyfarfodydd adolygu rheolaidd gyda'r rheolwr llinell ac ati, a chymryd rhan ynddyn nhw.

Darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid wrth ddelio ag ymholiadau dros y ffôn ac wyneb yn wyneb gan gwsmeriaid/cleientiaid mewnol ac allanol y gwasanaeth.

Gweithio mewn modd proffesiynol a chyfleu delwedd gadarnhaol o'r Cyngor yn y gweithle.

Paratoi dyluniadau gan ddefnyddio meddalwedd goleuadau strydoedd arbenigol ac 'AutoCAD'.

Cynorthwyo i gynnal profion manwl ar ôl gosod goleuadau strydoedd newydd.

Cynorthwyo'r garfan Goleuadau Strydoedd a'r contractwr cynnal a chadw i ganfod goleuadau strydoedd sydd ddim yn gweithio.

Rhoi gwybod am ddiffygion goleuadau strydoedd a diweddaru'r gronfa ddata i sicrhau bod yr holl gofnodion ac asedau'n cael eu diweddaru.

Cydgysylltu â staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cynghorwyr lleol ac aelodau o'r cyhoedd ynghylch ymholiadau a diffygion goleuadau strydoedd.

Cymryd rhan mewn hyfforddiant, yn ôl yr angen, i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth.

Yn cefnogi'r garfan bresennol o Beirianwyr Goleuadau Strydoedd wrth ddatblygu a rheoli prosiectau a gwasanaethau mewn perthynas â maes gwasanaeth Goleuadau Strydoedd yr Awdurdod.

Gweithio yn unol â chyfarwyddyd Rheolwr Goleuadau Strydoedd a Signalau Traffig

Cynnal cyfrinachedd ar bob adeg

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaethau sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Mae'r garfan Goleuadau Strydoedd yn gyfrifol am gynnal a chadw holl asedau goleuadau strydoedd yr awdurdod lleol gan gynnwys dylunio, adeiladu a goruchwylio prosiectau.

Rydyn ni'n chwilio am berson brwd ac awyddus. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, bod yn drefnus ac yn gallu gweithio'n rhan o garfan.

Gofynion Mynediad:
O leiaf 5 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu bwnc cyfatebol.

Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Yn rhan o'r brentisiaeth yma, byddwch chi'n gweithio tuag at gymhwyster Peirianneg Drydanol ac Electronig Lefel 3 mewn coleg lleol.

Faint byddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

• 21 oed neu'n hŷn £11.42
• 18–20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40

Pecyn buddion

• Cewch eich talu wrth ddysgu.
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant mewnol
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn
Rhondda Cynon Taf
• Cerdyn gostyngiadau Vectis



O ganlyniad i feini prawf y Cynllun Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.

Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.

Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Gofynion

Sgiliau

Dealltwriaeth o wasanaethau'r Cyngor.
Dealltwriaeth o egwyddorion trydanol.
Profiad perthnasol o weithio mewn swyddfa gan fewnbynnu ac adfer data o systemau cyfrifiadurol.
Y gallu i gwblhau tasgau yn ôl amserlenni a gweithio at derfynau amser.

Cymwysterau

5 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu bwnc cyfatebol

Hyder wrth ddefnyddio TGCh (e.e. e-bostio a phrosesu geiriau)

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
No
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
No

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Training provider course:
Peirianneg Drydanol ac Electronig Lefel 3.

Ynglŷn â'r cyflogwr


Rhondda Cynon Taff County Borough Council, 1
Llys Cadwyn
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 4TH

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld.

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now