- Cyflogwr:
- Lleoliad:
- Rhondda Cynon Taf, Ty Trevithick, Abercynon, CF45 4UQ, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Isafswm cyflog cenedlaethol
- Oriau yr wythnos:
-
31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
-
Coleg y Cymoedd
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 02 September 2024
- Dyddiad cau:
- 22 May 2024
- Safbwyntiau ar gael:
-
1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 5311
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Rhoi cymorth i'r gweithiwr cymorth gofal plant penodedig â gwaith uniongyrchol sy'n seiliedig ar gryfderau gyda phlant a'u teuluoedd mewn modd hyblyg, h.y. yn y cartref neu'r gymuned, gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Bod yn rhan o'r garfan sy'n cefnogi teuluoedd (rhieni ac aelodau ehangach y teulu) i oresgyn rhwystrau i newid fel sydd wedi'i nodi yn y Cynllun Gofal a Chymorth. Rhoi cymorth iddyn nhw i fagu'r hunanhyder a'r sgiliau i gyflawni hynny.
Rhoi cymorth i'r rheolwr achosion neu'r gweithiwr cymorth gofal plant penodedig i gyflawni’r agweddau a nodwyd ar y Cynllun Gofal a Chymorth.
Cefnogi'r ddarpariaeth o amser teulu dan oruchwyliaeth ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r garfan.
Nodi os oes unrhyw anghenion teuluol yn dod i'r amlwg yn yr achos a allai effeithio ar yr ymyrraeth sydd wedi'i gynllunio, a rhoi gwybod amdanyn nhw i'r rheolwr achosion.
Tynnu sylw'r gweithiwr cymdeithasol sy'n atebol i'r achos a'r rheolwr carfan at unrhyw bryderon uniongyrchol ynghylch diogelwch y plentyn neu berson ifanc.
Gweithio'n agos gyda'r rheolwr achosion i adolygu cynlluniau gyda theuluoedd a gwerthuso ymyraethau yn ôl yr angen gan gyfrannu at y broses gynllunio gofal a chymorth.
Mynd i gyfarfodydd rhyngasiantaethol, e.e. grwpiau craidd, cynadleddau achos a chyfarfodydd strategaeth yn ôl yr angen.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaethau sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.
Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.
Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Mae ein carfan Ymyrraeth Ddwys yn cynnig y cyfle i weithio gyda phlant ag ystod eang o anghenion, sy'n cynnwys plant sy'n destun cynlluniau gofal a chymorth, Plant sy'n Derbyn Gofal a'r rhai ym maes amddiffyn plant.
Mae'r garfan yn chwilio am berson brwdfrydig a fyddai'n mwynhau'r her o weithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifainc a'u teuluoedd. O'ch penodi i'r swydd, byddwch chi'n rhan o garfan gefnogol sy'n ymrwymo ac yn eich meithrin i gyflawni'r deilliannau gorau ar gyfer plant a phobl ifainc.
Yn ddelfrydol, bydd gyda chi'r gallu i ennill ymddiriedaeth a hyder plant a phobl ifainc a'u rhieni/cynhalwyr. Byddwch chi'n meddu ar sgiliau ardderchog o ran cyfathrebu ac ymagwedd hyblyg a llawn dychymyg a'r gallu i 'feddwl y tu allan i'r bocs'. Byddwch chi'n arfer eich profiadau bywyd eich hunan yn rhan o'r swydd.
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
I ymgeisio am y swydd yma, rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn
Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Bydd pob prentis yn cael cymorth i gwblhau cymhwyster FfCCh (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, NVQ yn flaenorol) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc), Lefel 3 drwy ddarparwr hyfforddiant neu goleg lleol.
Faint byddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:
• 21 oed neu'n hŷn £11.42
• 18–20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40
Pecyn buddion
• Cewch eich talu wrth ddysgu
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant mewnol
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn
Rhondda Cynon Taf
• Cerdyn gostyngiadau Vectis
O ganlyniad i feini prawf y Cynllun Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.
Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.
Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.
Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Gofynion
Sgiliau
Dealltwriaeth o wasanaethau'r Cyngor.
Y gallu i gwblhau tasgau o fewn cyfnod amser y cytunwyd arno a gweithio i derfynau amser.
Gwybodaeth am ddatblygiad plant a phobl ifainc.
Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifainc
Cymwysterau
Y gallu i gyflawni cymhwyster FfCCh trwy goleg/ddarparwr hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'r swydd.
Hyder wrth ddefnyddio TGCh (e.e. e-bostio a phrosesu geiriau).
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- No
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- No
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
-
Coleg y Cymoedd
- Training provider course:
-
Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc)
Ynglŷn â'r cyflogwr
Rhondda Cynon Taf, Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
Rhondda Cynon Taf
CF45 4UQ
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now