Skip to main content

Prentis Dros Dro – Cymorth i Blant Anabl

Cyflogwr:
Lleoliad:
Rhondda Cynon Taff Council, Unit 1-2, Maritime Industrial Estate, CF37 1NY, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Isafswm cyflog cenedlaethol
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Dyddiad cychwyn posibl:
02 September 2024
Dyddiad cau:
22 May 2024
Safbwyntiau ar gael:
1
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
5308
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

Cynorthwyo i ymateb i anghenion sydd wedi'u nodi mewn asesiad gan y garfan Plant Anabl ag Anghenion Cymhleth, trwy ddarparu cefnogaeth arbenigol a hyblyg i blant ag anghenion gofal cymhleth a'u teuluoedd.

Cefnogi aelodau'r garfan gyda'u llwyth gwaith unigol

Cefnogi teuluoedd i oresgyn rhwystrau i newid fel sydd wedi'i nodi yn y Cynllun Gofal a Chymorth. Rhoi cymorth iddyn nhw fagu'r hunanhyder a'r sgiliau i gyflawni hynny.

Rhoi gwybod i'r Rheolwr Gofal am unrhyw anghenion teuluol sy’n dod i’r amlwg.

Gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Achosion i adolygu cynlluniau gyda theuluoedd a gwerthuso ymyraethau yn ôl yr angen gan gyfrannu at y broses gynllunio gofal a chymorth.

Cynorthwyo'r Rheolwr Achosion i fynd i gyfarfodydd rhyngasiantaethol, e.e. grwpiau craidd, cynadleddau achos a chyfarfodydd strategaeth yn ôl yr angen.

Gweithio yn unol â gofynion Fframwaith Sicrhau Ansawdd y Gwasanaethau i Blant

Cynnig gwasanaeth hyblyg o safon sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a dathlu amrywiaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion gofal cymhleth a'u teuluoedd, gan nodi gwahaniaethau diwylliannol teuluoedd a gwneud trefniadau priodol i fodloni anghenion (e.e. cyfieithydd).

Cyflawni unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy'n gymesur â'r swydd yn unol â gofynion rhesymol Pennaeth y Gwasanaeth.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaeth sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Mae'r Garfan Plant Anabl yn darparu rhaglenni ymyrraeth wedi'u targedu i blant anabl a'u teuluoedd i feithrin sgiliau, gwella dealltwriaeth a chefnogi integreiddio ac annibyniaeth. Caiff hyn ei ddarparu trwy gynllun gwaith sydd â chyfyngiad amser a model sgiliau wedi'i achredu. Caiff hyfforddiant ei ddarparu ar ei gyfer.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant. Mae sgiliau cyfathrebu da yn hollbwysig ar gyfer y swydd yma a bydd gofyn ichi gydweithio'n effeithiol â phob math o unigolion, gan gynnwys plant anabl, aelodau o'u teuluoedd, staff mewn asiantaethau partner ac aelodau o'r cyhoedd.

I ymgeisio am y swydd yma, rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn
Beth fyddwch chi'n ei astudio?

Bydd pob prentis yn cael cymorth i gwblhau cymhwyster FfCCh (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, NVQ yn flaenorol) Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) drwy ddarparwr hyfforddiant neu goleg lleol.

Faint fyddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

• 21 oed neu'n hŷn £11.42
• 18–20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40

Pecyn buddion
• Cewch eich talu wrth ddysgu
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant mewnol
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden o fewn
Rhondda Cynon Taf
• Cerdyn gostyngiadau Vectis

O ganlyniad i feini prawf y Cynllun Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.

Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.

Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk

Gofynion

Sgiliau

Dealltwriaeth o wasanaethau'r Cyngor.
Y gallu i gwblhau tasgau o fewn cyfnod amser y cytunwyd arno a gweithio i derfynau amser.
Gwybodaeth am ddatblygiad plant a phobl ifainc.

Cymwysterau

Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc).

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
No
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
No

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Training provider course:
Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc)

Ynglŷn â'r cyflogwr


Rhondda Cynon Taff Council, Unit 1-2
Maritime Industrial Estate
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 1NY

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now