- Cyflogwr:
- (Prentis) Sgil Cymru
- Lleoliad:
- Seren Studios Wales, Wentloog Environmental Centre, Wentloog Avenue, CF3 2GH, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Gwerth blynyddol
- Oriau yr wythnos:
- Dros 41 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Sgil Cymru
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Creadigol, Dylunio a'r Cyfryngau
- Llwybr:
- y Cyfryngau Creadigol
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 27 May 2025
- Dyddiad cau:
- 26 March 2025
- Safbwyntiau ar gael:
- Up to 10
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6227
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Mae criw cynhyrchu ffilm neu deledu yn cynnwys amrywiaeth o wahanol adrannau, a gall gael ei staffio yn gyfan gwbl gan weithwyr llawrydd sy’n symud o gynhyrchiad i gynhyrchiad. Fel Prentis CRIW, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr llawrydd o fewn pa bynnag adran, a gall gynnwys:
Cyfarwyddwyr Cynorthwyol – sicrhau cyfathrebu da ar set rhwng adrannau, gweithio gyda chast a chefnogi artistiaid.
Swyddfa Gynhyrchu – darparu cefnogaeth logistaidd trwy drefnu teithio/llety, cynhyrchu a dosbarthu gwaith papur digidol.
Lleoliadau – sicrhau bod y lleoliad neu’r stiwdio yn barod ar gyfer y saethu, cynnal a chadw trwy gydol y diwrnod saethu, paratoi lleoliadau newydd.
Adran Gelf – helpu i greu, dosbarthu a storio propiau. Cynhyrchu elfennau 'gweledol' y set: graffeg, gwaith arlunio.
Camera – darparu cefnogaeth i’r adran gamera gan gynnwys dyletswyddau rhedwr, trin y ceblau, batris a lensys.
Gwisgoedd – cynorthwyo’r adran gyda golchi, smwddio, dyletswyddau rhedwr, ymchwilio, labelu a heneiddio gwisgoedd.
Colur – sicrhau cefnogaeth i’r adran gyda chyflenwadau, glanhau a delio ag artistiaid cefnogol.
Ôl-gynhyrchu – darparu cefnogaeth ôl-gynhyrchu, gan ymwneud â ffeiliau fideo a sain.
Pa bynnag adran fyddwch chi bydd disgwyl i chi gwneud te/coffi a siarad ar y ffôn/radio a byddwch yn debygol o dreulio’r rhan fwyaf o’r dydd ar eich traed.
Gwybodaeth ychwanegol
Wedi’ch lleoli yn ne Cymru gyda’r hawl gyfreithiol i weithio yn y DU ac ar gael ac yn barod i deithio a gweithio ar gynyrchiadau ar draws ne Cymru mewn lleoliadau amrywiol yn ogystal ag yng Nghanolfan Hyfforddiant Sgil Cymru (Great Point Seren Stiwdios, Tredelerch , Caerdydd, CF3 2GH)
Dal trwydded yrru a chael trafnidiaeth personol.
Angerdd am wylio teledu a ffilmiau.
Diddordeb mawr mewn gweithio mewn rolau y tu ôl i’r llenni ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu ac yn dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant.
Gallu ymrwymo i 12 mis o’r cynllun prentisiaeth (Mai 2025-2026).
Ni ddylech fod mewn addysg amser llawn ar 27ain o Fai, 2025.
Mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer dysgu oddi ar y safle pan fo angen.
Mae cynllun prentisiaeth CRIW wedi’i anelu at bobl sydd heb gwblhau gradd. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais os mae eich gradd yn maes wahanol galwedigaethol â’r rhaglen brentisiaeth.
Nid oes angen profiad blaenorol yn y diwydiant arnoch chi.
Wrth weithio fel Prentis CRIW, byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 3, 12 mis, yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol.
Gofynion
Sgiliau
Cyfathrebwr da
Dadansoddol
Hunan-gychwynwr
Penderfynol
Trefnus
Diplomataidd
Un da am gymryd cyfarwyddyd
Sgiliau Angenrheidiol:
Sgiliau TG cryf, gan gynnwys pecynnau Microsoft, fel Word ac Excel;
Y gallu i dderbyn cyfarwyddyd ac i weithio fel rhan o dîm;
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol dda;
Menter ac ymwybyddiaeth;
Y gallu i ymateb ac i weithio’n gyflym, dan bwysau;
Mwynhau gweithio mewn awyrgylch prysur ac o dan bwysau;
Trwydded yrru lân;
Cymwyseddau Cyffredinol:
Gwaith tîm – gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm.
Rheoli cydberthnasau – gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o bobl.
Cyfathrebu – y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth.
Dylanwadu a darbwyllo – y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad.
Cynllunio a threfnu – gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
Dyfalbarhad – gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
Ysgogiad – dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
Hunanddatblygiad – dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
Hyblygrwydd – addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.
Cymwysterau
Angen o leiaf 4 TGAU graddau A* i C (Saesneg a Mathemateg a ffafrir) neu gyfwerth.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Sgil Cymru
- Training provider course:
- Prentisiaeth Level 3 Cyfryngau Creadigiol a Digidol
Ynglŷn â'r cyflogwr
(Prentis) Sgil CymruSeren Studios Wales, Wentloog Environmental Centre
Wentloog Avenue
Cardiff
Cardiff
CF3 2GH
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Yn dilyn llunio rhestr fer o geisiadau, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i weithdy recriwtio. Yma cewch gyfle i gwrdd â thîm Sgil Cymru a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Bydd y sesiynau yn cynnwys tasgau grŵp ac unigol a bydd cyfleoedd i chi ofyn cwestiynau.
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now