Mae ScreenSkills wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Diwydiannau Creadigol, Dylunio a'r Cyfryngau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
75 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Cyfryngau Sgrin a Chreadigol.
77 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Cyfryngau Sgrin a Chreadigol.
Entry requirements
Mae'n rhaid i newydd-ddyfodiaid i’r Diwydiannau'r Cyfryngau Creadigol ddeall a gwerthfawrogi gwahanol dechnolegau, ochr yn ochr â gwybodaeth gyffredinol a sgiliau 'meddal', gan gynnwys y capasiti i weithio'n effeithlon ac mewn timau. Mae cyflogwyr yn chwilio am unigolion parod am waith, gweithgar a chanddynt yr agwedd gywir, sgiliau cyfathrebu a TG cryf a dealltwriaeth dda o'r hyn sydd ei angen er mwyn gwneud cynnydd yn Niwydiannau'r Cyfryngau Cymdeithasol, sy'n sector lle mae llawer o weithwyr yn gweithio'n hunangyflogedig. Er mwyn llwyddo yn Niwydiannau'r Cyfryngau Creadigol, mae angen teimlo'n angerddol dros y pwnc dan sylw, a gallu rhwydweithio a marchnata eich cyflawniadau a'ch sgiliau personol yn hyderus.
Ac eithrio hyder y cyflogwr a'r darparydd hyfforddiant yng ngallu'r ymgeisydd i ffynnu a gwireddu ei botensial o fewn y Brentisiaeth, nid oes unrhyw amodau mynediad penodol, ond dyma rai cymwysterau a allai fod yn sail ddefnyddiol ar gyfer y Brentisiaeth:
• Cymwysterau ym Magloriaeth Cymru
• Sgiliau Hanfodol Cymru
• Prif Ddysgu (Creadigol a'r Cyfryngau), a gynigir gan OCR neu CBAC
• Darpariaeth o fewn Piler Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd
• FfCChC; TGAU, Safon Uwch neu Ddiplomas Cenedlaethol mewn pynciau'n gysylltiedig â'r cyfryngau
• Cyfleoedd am ddilyniant uniongyrchol neu i drosglwyddo credyd o gymwysterau galwedigaethol neilltuol, fel:
• Tystysgrif Lefel 2 neu 3 mewn Paratoi am Waith yn y Cyfryngau Creadigol a chymwysterau eraill a gynigir gan lawer o sefydliadau dyfarnu, gan gynnwys AIM Awards ac UAL.
• Mae cymwysterau ar lefel mynediad, lefel 1 a lefel 2 yn llwybrau dilyniant a anogir, yn enwedig y rhai hynny sy'n ymgorffori datblygiad sgiliau creadigol a digidol
• Prentisiaethau Sylfaen, yn enwedig mewn pynciau datblygu sgiliau creadigol neu ddigidol.
Ar gyfer Prentisiaeth Uwch Cyfryngau Sgrin a Chreadigol (Lefel 4), yn ogystal â'r enghreifftiau a restrir uchod, gallai'r canlynol hefyd fod yn berthnasol:
• Wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol neu Farchnata Cymdeithasol a Digidol neu TG Proffesiynol;
• Wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas ar Lefel 3 mewn pynciau'n gysylltiedig â'r Cyfryngau.
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 3: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol
Lefel 3: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod.
Lefel 3 Diploma mewn Creu a Chynhyrchu Cyfryngau a Chymorth Crefft | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
AIM Awards | C00/0771/6 601/8449/8 | 63 | 630 | Cymhwysedd | Saesneg a Chymraeg |
Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 3: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 3: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol | 375 | 418 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Isafswm o 360 awr - Elfen gymhwysedd y cymhwyster Cyfun (B1). Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir; Isafswm o 14 awr - Amser penodol a dreulir gyda'r cyflogwr/mentor i wella hyfforddiant prentis; gan gynnwys sefydlu. Hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith Isafswm yr hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yw 418 o oriau. - isafswm o 268 o oriau - Elfen wybodaeth y cymhwyster Cyfun (B1). Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir; - 60 awr - Lefel 2 Cymhwyso rhif (Sgiliau Hanfodol Cymru); - 60 awr - Lefel 2 Cyfathrebu (Sgiliau Hanfodol Cymru); - 15 awr - Sefydlu, gan gynnwys ymdriniaeth berthnasol â hawliau cyflogaeth; - 15 awr - Mentora, adolygiadau, gofal bugeiliol. Isafswm o 63 credyd / Isafswm o 268 awr - Elfen wybodaeth y cymhwyster Cyfun. |
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
-
6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol
Lefel 4: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod.
Lefel 4 Diploma mewn Cyfryngau Rhyngweithiol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Aim Awards | C00/0561/6 | 65 | 650 | Cymhwysedd | Saesneg a Chymraeg |
Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 4: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 4: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol | 175 | 393 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 12 mis yw 65 credyd/568 o oriau.
Isafswm yr amser hyfforddi yn y gwaith ar gyfer llwybr Lefel 4 yw 175 o oriau, sy'n cynnwys y canlynol:
Isafswm o 160 awr - Elfen gymhwysedd y cymhwyster cyfun. Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;
15 awr - Gweithgarwch hyfforddi heb ei achredu; mentora, adolygiadau cynnydd, gofal bugeiliol.
Hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith
Isafswm o 65 credyd/Isafswm o 243 awr - Elfen wybodaeth y cymhwyster Cyfun.
Isafswm yr hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yw 418 o oriau.
- Isafswm o 243 o oriau - Elfen wybodaeth y cymhwyster Cyfun (B1). Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;
- 60 awr - Lefel 2 Cymhwyso rhif (Sgiliau Hanfodol Cymru);
- 60 awr - Lefel 2 Cyfathrebu (Sgiliau Hanfodol Cymru) ;
- 15 awr - Sefydlu, gan gynnwys ymdriniaeth berthnasol â hawliau cyflogaeth;
- 15 awr - Mentora, adolygiadau, gofal bugeiliol.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Other additional requirements
Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol eraill yn gysylltiedig â'r llwybr hwn.
Job roles
Dyma rolau swydd nodweddiadol ar gyfer y llwybrau hyn:
Lefel 3
- Rhedwr/Cynorthwyydd Cynhyrchu
- Rhedwr Ôl-Gynhyrchu
- Cynorthwyydd Darlledu
- Cynorthwyydd Archif
- Cynorthwyydd Animeiddio
- Ymchwilydd
- Cydgysylltydd y We
- Ysgrifennydd Cynhyrchu
- Cynorthwyydd Sain
- Is-gynhyrchydd cynnwys/Is-gynorthwyydd cynnwys
- Cynorthwyydd Golygu
- Ymdrinwyr Data a Thechnegwyr Delweddau Data
- Cynorthwyydd digidol; Cynorthwyydd Dylunio Digidol; Cynorthwyydd Cyfryngau Digidol
- Hyfforddai Camera
- Gweithiwr Adran Adeiladu
- Cynorthwyydd Propiau
- Gwneuthurwr modelau dan hyfforddiant
- Cynorthwyydd Gwallt a Cholur
- Cynorthwyydd Gwisgoedd a'r Cwpwrdd Dillad
Lefel 4
- Rheolwr y gymuned ar-lein
- Cydgysylltydd profiad defnyddwyr
- Is-ddylunydd cynnyrch rhyngweithiol
- Is-ddatblygwr cynnyrch rhyngweithiol
- Cydgysylltydd y Cyfryngau Cymdeithasol
Gellir gweld fersiwn ddiweddaraf y rolau swydd a'r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer y Llwybr hwn yn
Progression
Yr amod sylfaenol er mwyn cael mynediad yw hyder y cyflogwr a'r darparydd hyfforddiant yng ngallu'r ymgeisydd i ffynnu a gwireddu ei botensial o fewn y Brentisiaeth. Mae gwaith hunangyflogedig yn gyffredin yn Niwydiannau'r Cyfryngau Creadigol, felly bydd angen i brentisiaid ystyried y math hwn o gyflogaeth er mwyn symud ymlaen yn eu gyrfa.
Yn dibynnu ar rôl y Brentisiaeth, gall y cyflogwr bennu gofynion penodol ar gyfer mynediad; er enghraifft, efallai bydd disgwyl i Gynorthwywyr Criw Camera gario eitemau trwm.
Yn dibynnu ar y cyflogwr, gallai'r Brentisiaeth hon gynnwys gwaith afreolaidd neu waith y tu allan i oriau, neu deithio.
Lefel 3: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol
Llwybrau dilyniant i:
- Dysgu blaenorol heb ei achredu yn gysylltiedig â Diwydiannau'r Cyfryngau Creadigol
Dilyniant o:
- Gyda phrofiad pellach yn y diwydiant, swydd fel cynorthwyydd Cynhyrchu i Ymchwilydd; Ysgrifennydd Cynhyrchu i'r Cydlynydd Cynhyrchu; Is-gynhyrchydd Cynnwys i Gynhyrchydd Cynnwys neu Gydgysylltydd y Cyfryngau Cymdeithasol.
- Addysg Bellach/Uwch - cyrsiau lefel 4 neu ddiploma neu raddau uwch
Lefel 4: Cyfryngau Sgrin a Chreadigol
Llwybrau dilyniant i:
- Diploma Lefel 3
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn llwybrau sy'n gysylltiedig â'r Cyfryngau
- Cymwysterau perthnasol fel Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol UAL ar lefel 3
Dilyniant o:
- Gyda phrofiad pellach o fewn y diwydiant, cyflogaeth fel Uwch Ddatblygwr, Uwch Ddylunydd, Cynhyrchydd Digidol, Uwch Godydd, Ysgrifennydd Copi Digidol a Rheolwr Prosiect Digidol neu Gydgysylltydd y Cyfryngau Cymdeithasol.
- Addysg Bellach/Uwch - Datblygiad proffesiynol pellach neu ddiploma neu raddau uwch
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Mae Diwydiannau Cyfryngau Creadigol Cymru yn gwasanaethu ac yn manteisio ar ddoniau a sgiliau poblogaeth amrywiol. Mae'r amrywiaeth yn cynnwys gwahaniaethau y gellir, ac na ellir, eu gweld. Drwy harneisio'r gwahaniaethau hyn, byddwn yn creu diwydiannau creadigol a chynhyrchiol sy'n llwyddo ar raddfa fyd-eang. Mae 80,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru (fel cyflogeion a gweithwyr llawrydd). Mae 98% o gwmnïau yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn fach, ac yn cyflogi llai na 50 o bobl. Mae 8,000 o fusnesau'n weithredol yn niwydiannau creadigol Cymru. Mae 500 o fusnesau newydd yn ymuno â'r diwydiannau creadigol yng Nghymru bob blwyddyn, gan olygu mai dyma un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Mae 80% o weithgarwch y diwydiannau creadigol wedi'u lleoli yn Ne Cymru yn bennaf - â Chaerdydd yn ganolbwynt i hynny. Mae 15% o'r holl fusnesau yng Nghaerdydd yn y diwydiannau creadigol, sy'n llawer uwch na chyfartaledd Cymru o 11%. Ceir 3,210 o weithwyr yn sector ffilm, teledu, fideo, radio a ffotograffiaeth Caerdydd; 4,174 o weithwyr yn sector TG, meddalwedd a gwasanaethau cyfrifiadurol Caerdydd; a 2,403 o weithwyr yn sectorau cerddoriaeth, perfformio a chelfyddydau gweledol Caerdydd. [i][1] Yn Adroddiad Blynyddol Ffilm Cymru 2018/19, roedd 51% o'r ymatebwyr yn nodi eu bod yn Fenywod, 8% yn nodi eu bod yn anabl, 15% yn nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu Leiafrifol Ethnig ac 18 yn nodi eu bod yn LGBT+.[2] Ar y ddwy lefel, mae'r llwybrau prentisiaeth yn anelu i:
Mae angen cefnogi a rhoi gwerth barhaus ar gydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn yr agenda sgiliau, ar draws Diwydiannau'r Cyfryngau Creadigol. Mae llwybrau'r Cyfryngau Sgrin a Chreadigol yn cael eu defnyddio fel mecanwaith i ddenu cronfa fwy amrywiol o ddoniau, a dylai ei hyblygrwydd a'i strwythur gynnig dewis i brentisiaid ag amrywiaeth o ddiddordebau a chefndiroedd. Mae ScreenSkills yn angerddol ynghylch hyrwyddo amrywiaeth, a bydd yn ceisio sicrhau hynny a rhannu arfer da ar draws y partneriaid darparu, er mwyn amlygu enghreifftiau cadarnhaol o ddeunyddiau marchnata a chyfathrebu, a strategaethau a gweithgareddau eraill a ddefnyddir i chwalu rhwystrau o ran mynediad a sicrhau sylfaen fwy amrywiol o ddoniau. Mae ScreenSkills yn ymwneud â nifer o weithgareddau i gynyddu amrywiaeth a chydraddoldeb o fewn y diwydiant, fel:
[1] Ffynhonnell CLWSTWR CREATIVE INDUSTRIES REPORT NO 1 THE SIZE AND COMPOSITION OF THE CREATIVE INDUSTRIES IN WALES Mai 2020 |
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Responsibilities
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
Atodiad 1 Lefel 3: Diploma mewn Creu a Chynhyrchu Cyfryngau a Chymorth Crefft
https://www.qiw.wales/qualifications/C0007716?lang=cy
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r cymhwyster cyfun yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Bydd y rhaniad rhwng y credydau gwybodaeth a chymhwysedd a enillir yn amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir.
Bydd isafswm o 10 o gredydau gwybodaeth ac isafswm o 14 o gredydau cymhwysedd yn cael eu hennill o ddilyn yr unedau gorfodol i fodloni gofynion credyd SASW.
Asesir Gwybodaeth a Chymhwysedd ar wahân o fewn y cymhwyster. Gallai enghreifftiau o asesiadau gwybodaeth fod ar ffurf gwaith technegol yn yr ystafell ddosbarth, sesiynau gweithdy technegol penodol ac astudiaethau ar lwyfannau ar-lein. Gallai asesiad cymhwysedd fod ar ffurf portffolio o gynnyrch sy'n cael eu datblygu, darpariaeth ar-safle 1-1 ac ymweliadau asesu cynlluniedig yn y gweithle.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ennill isafswm o 63 credyd (258 GLH) o'r unedau a restrir isod ar gyfer y llwybr Creu a Chynhyrchu Cyfryngau a Chymorth Crefft:
Unedau gorfodol - 24 credyd (112 GLH)
- Cyflwyno syniadau a gwybodaeth i eraill yn y diwydiannau creadigol - 6 chredyd (2 gwybodaeth, 4 cymhwysedd);
- Cydweithio'n effeithiol ag eraill yn y diwydiannau creadigol - 4 credyd (2 gwybodaeth, 2 cymhwysedd);
- Datblygu eich arfer proffesiynol eich hun yn y diwydiannau creadigol - 6 chredyd (2 gwybodaeth, 4 cymhwysedd );
- Eich rheoli a'ch marchnata eich hun fel gweithiwr llawrydd yn y diwydiannau creadigol - 6 chredyd (3 gwybodaeth, 3 cymhwysedd);
- Sicrhau bod eich gweithredoedd eich hun yn lleihau risgiau i iechyd a diogelwch - 2 gredyd (1 gwybodaeth, 1 cymhwysedd).
Unedau dewisol - isafswm o 39 credyd (146 GLH) i'w cymryd o'r unedau a restrir yn llawlyfr y cymhwyster y gellir ei weld drwy'r ddolen isod:
Bydd unedau pellach yn cael eu datblygu yn y dyfodol, i adlewyrchu anghenion y diwydiant.
D.S. Lle bo rolau swydd wedi'u pennu ar gyfer y Brentisiaeth hon, dylid cofio ei bod hi'n debygol iawn y bydd prentisiaid yn cael eu hyfforddi mewn amrywiaeth o sgiliau sy'n cynnwys tasgau o sawl rôl swydd draddodiadol, mewn diwydiannau sy'n cydgyfeirio'n gynyddol. Adlewyrchir hyn yn hyblygrwydd y cymhwyster Cyfun ac Elfennau Cymhwysedd a Gwybodaeth y llwybr.
Sylwch fod y Brentisiaeth hon hefyd yn berthnasol i gyflogwyr y tu allan i'r 'Cyfryngau Creadigol', o bosib rhai a chanddynt aelodau tîm sy'n gyfrifol am ddefnyddio technoleg ddigidol i ddibenion creadigol. Pan fydd prentisiaid wedi ennill y nifer a'r cyfuniad gofynnol o gredydau, byddant yn derbyn eu Diploma, ac yn hawlio eu tystysgrif cwblhau Prentisiaeth gan yr Awdurdod Ardystio, ScreenSkills.
Atodiad 2 Lefel 4: Diploma yn y Cyfryngau Rhyngweithiol
https://www.qiw.wales/qualifications/C0005616?lang=cy
Mae'r cymhwyster cyfun yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Bydd y rhaniad rhwng y credydau gwybodaeth a chymhwysedd a enillir yn amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir.
Bydd isafswm o 10 o gredydau gwybodaeth ac isafswm o 6 o gredydau cymhwysedd yn cael eu hennill o ddilyn yr unedau gorfodol; bydd gweddill y credydau gwybodaeth a chymhwysedd sy'n ofynnol, fel y nodir yng ngofynion SASW, drwy'r unedau dewisol.
Asesir Gwybodaeth a Chymhwysedd ar wahân o fewn y cymhwyster. Gallai enghreifftiau o asesiadau gwybodaeth fod ar ffurf gwaith technegol yn yr ystafell ddosbarth, sesiynau gweithdy technegol penodol ac astudiaethau ar lwyfannau ar-lein. Gallai asesiad cymhwysedd fod ar ffurf portffolio o gynnyrch sy'n cael eu datblygu, darpariaeth ar-safle 1-1 ac ymweliadau asesu cynlluniedig yn y gweithle.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ennill isafswm o 65 credyd (403 GLH) o'r unedau a restrwyd isod:
Unedau gorfodol - 16 credyd (105GLH):
- Ymwybyddiaeth o gyflogaeth yn sector y cyfryngau creadigol L/600/9037 (Gwybodaeth 4 credyd, Cymhwysedd 2 gredyd);
- Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch yn sector y cyfryngau creadigol D/600/8510 (Gwybodaeth 1 credyd, Cymhwysedd 1 credyd);
- Gweithio yn y cyfryngau rhyngweithiol K/504/6294 (Gwybodaeth 5 credyd, Cymhwysedd 3 credyd).
Grŵp Dewisol A - 46 credyd i'w cymryd, isafswm o 25 ar Lefel 4 (280GLH):
Grŵp Dewisol B - isafswm o 3 chredyd i'w cymryd (18GLH):
I'w cymryd o'r unedau a restrir yn llawlyfr y cymhwyster y gellir ei weld drwy'r ddolen isod:
Llawlyfr Diploma Lefel 4 y Cyfryngau Rhyngweithiol:
Llawlyfr Diploma Lefel 4 y Cyfryngau Rhyngweithiol V7.pdf (aim-group.org.uk)