- Cyflogwr:
- Torfaen County Borough Council
- Lleoliad:
- Civic Centre, Glantorvaen Road, NP4 6YB, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Cyfraddau prentisiaethau
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Apprenticeship Learning Solutions Ltd
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Busnes a Rheoli
- Llwybr:
- Rheoli Adnoddau Dynol
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 15 January 2026
- Dyddiad cau:
- 12 December 2025
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6707
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
• Ennill profiad o'r holl swyddogaethau AD trwy gylch bywyd y gweithiwr gan gynnwys:
o Recriwtio a Dethol
o Croesawu
o Tâl a Gwobrwyo
o Systemau AD
o Contractau
o Gwaith Achos Adnoddau Dynol
o Dysgu a Datblygu
o Iechyd a Diogelwch.
• Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o bolisïau cyflogaeth, arferion a rhwymedigaethau cyfreithiol.
• Ymateb i ymholiadau arferol gan weithwyr a rheolwyr.
• Cynnal ymchwil a rhoi cefnogaeth ar gyfer prosiectau tîm a phrosiectau’r sefydliad cyfan, a chyfrannu atynt.
• Rheoli dogfennaeth gweithwyr a chysylltu â gweithwyr a rheolwyr yn ôl yr angen.
• Cefnogi'r tîm AD i reoli perfformiad, ymddygiad a phresenoldeb a gwaith achos gweithwyr.
Gwybodaeth ychwanegol
Hoffech chi weithio i Sefydliad mawr, blaengar a fydd yn eich herio ac yn eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa, a hefyd yn rhoi cyfle i chi ennill cyflog wrth i chi ddysgu? Os felly, dewch i ymuno â Rhaglen Datblygu Gyrfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Fel Prentis, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol yn dysgu sgiliau sy’n benodol i’r swydd wrth ennill cyflog a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol.
Gwerthoedd y Cyngor yw Teg, Cefnogol, Effeithiol ac Arloesol sy'n bwysig iawn i ni. Os ydych chi eisiau llwyddo, bydd gofyn i chi ymddwyn mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r gwerthoedd hyn.
Rydym yn chwilio am Brentis AD gofalgar a gwydn i ymuno â'n Tîm AD prysur. Bydd gennych ddiddordeb gwirioneddol mewn ymgysylltu â phobl a chael effaith gadarnhaol, gan ddarparu gwasanaeth AD cynhwysfawr ar draws ein pum adran.
Gallwch ddisgwyl gweithio ar draws yr ystod o ddisgyblaethau AD gan weithio tuag at y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i fod yn weithiwr proffesiynol AD rhagorol. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau trefnu cryf i roi cymorth gweinyddol ac effeithiol i'n Tîm Adnoddau Dynol a’n Tîm Dysgu a Datblygu.
Wrth i chi symud ymlaen trwy eich prentisiaeth, byddwch yn cael cyfle i fod yn rhan o’r gwaith i gefnogi rheolwyr llinell a gweithwyr gyda thasgau fel recriwtio a dysgu i roi cyngor a chynorthwyo gyda gweithgareddau dysgu a datblygu.
Mae'r swydd hon wedi'i lleoli mewn tîm cyfeillgar lle byddwch yn derbyn cefnogaeth ardderchog a hyfforddiant yn y swydd yn ogystal â’r cyfle i astudio ar gyfer cymhwyster AD. Byddwch hefyd yn magu sgiliau gwaith a bywyd gwerthfawr i'ch helpu i lansio gyrfa yn y maes o'ch dewis.
Mae'r buddion yn cynnwys rhaglen sefydlu wedi'i theilwra, cefnogaeth barhaus gan staff ymroddgar, oriau gwaith hyblyg, gweithio hybrid, hawl i wyliau hael, cyfle i gyfrannu at gynllun pensiwn, cynllun buddion staff a chefnogaeth gyda'ch datblygiad personol a phroffesiynol.
Gofynion
Sgiliau
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig
Gallu i drin gwybodaeth sensitif, gyfrinachol am weithwyr gyda disgresiwn a chywirdeb.
Dealltwriaeth sylfaenol o egwyddorion AD
Sylw i fanylder.
Sgiliau llythrennedd digidol
Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd swyddfa
Agwedd gadarnhaol wrth fynd ati i ddatrys problemau, mynd i'r afael â materion yn y gweithle a chefnogi polisïau AD
Gallu gweithio yn rhan o dîm a/neu ar eich pen eich hun dan oruchwyliaeth
Parodrwydd i hyfforddi ac i ddatblygu sgiliau a galluoedd newydd yn rhan o ddatblygiad personol a phroffesiynol er mwyn gwella'n barhaus.
Gallu cwblhau tasgau o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt a gweithio i derfynau amser.
Cymwysterau
Byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster Tystysgrif Sylfaen CIPD mewn Ymarfer Pobl Lefel 3.
Sgiliau Llafar Cymraeg - Dymunol ond nid yn hanfodol.
Sgiliau Ysgrifenedig Cymraeg – Dymunol ond nid hanfodol.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Apprenticeship Learning Solutions Ltd
- Training provider course:
- Prentisiaeth Adnoddau Dynol Lefel 3 CIPD
Ynglŷn â'r cyflogwr
Civic Centre, Glantorvaen Road
Pontypool
Torfaen
NP4 6YB
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Cyfweliad wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Ddinesig os byddwch yn llwyddiannus ar y rhestr fer. Ystyrir addasiadau rhesymol.
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now