Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Busnes a Rheoli a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 19/02/2018 ACW Fframwaith Rhif. FR04154
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
60 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 5 Rheoli Adnoddau Dynol.
Gofynion mynediad
Mae'r Llwybr Prentisiaeth Rheoli Adnoddau Dynol ar agor i rai sydd heb brofiad AD blaenorol yn ogystal â rhai sy'n gweithio ym maes AD.
Bydd angen i brentis AD feddu ar lefelau da o rifedd a llythrennedd, yn ogystal â diddordeb cryf yn yr hyn sy'n peri i fusnes lwyddo, a sut i gael y gorau o bobl. Mae sgiliau dadansoddi da a'r gallu i weithio gyda chydweithwyr i ennyn eu hymddiriedaeth a'u parch hefyd yn bwysig.
Mae'r CIPD wedi nodi wyth ymddygiad sy'n allweddol er mwyn llwyddo mewn AD. Dyma nhw:
- chwilfrydedd
- meddyliwr pendant
- dylanwadwr medrus
- ysgogiad i gyflawni
- yn gallu cydweithio
- dewrder i herio
- bod yn esiampl
- hygrededd personol
Wrth recriwtio prentisiaid AD, dylid defnyddio prosesau sy'n asesu addasrwydd ymgeisydd i weithio ym maes AD, yn ogystal â'i gyflawniadau addysgol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 5: Rheoli Adnoddau Dynol
Lefel 5: Rheoli Adnoddau Dynol Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 5 Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
CIPD | C00/4145/3 603/5959/6 | 42 | 420 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Lefel 5 Diploma mewn Dysgu a Datblygu Sefydliadol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
CIPD | C00/4155/3 603/5960/2 | 42 | 420 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymwysterau cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 5: Rheoli Adnoddau Dynol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 5: Rheoli Adnoddau Dynol | 437 | 280 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Diploma Lefel 5 CIPD Cysylltiol mewn Rheoli Pobl - 42 credyd
Diploma Lefel 5 CIPD mewn Dysgu a Datblygu Sefydliadol - 42 credyd
Isafswm yr oriau hyfforddi ar gyfer y Brentisiaeth Rheoli Adnoddau Dynol yw 717 o oriau.
Disgwylir i'r Brentisiaeth fod yn 12 mis o hyd o leiaf.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Mae Diploma Lefel 5 CIPD yn mynnu bod dysgwyr yn 18 oed o leiaf. Sefydlwyd y gofyniad hwn oherwydd lefel yr aeddfedrwydd sydd ei hangen i reoli materion AD sensitif.
Dilyniant
Lefel 5: Rheoli Adnoddau Dynol
Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio nifer fawr o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli Adnoddau Dynol.
Llwybrau dilyniant i'r Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli AD ar Lefel 5:
- Prentisiaeth Uwch mewn Busnes a Gweinyddu neu Reoli;
- Prentisiaeth Uwch mewn Busnes a Gweinyddu neu Reoli Proffesiynol;
- Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio AD neu feysydd yn gysylltiedig â busnes; cymwysterau TGAU;
- Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys unrhyw un o'r Cymwysterau Prif Ddysgu ar lefel sylfaen a lefel uwch;
- cymwysterau Safon Uwch neu gyfwerth;
- cymwysterau CIPD blaenorol, fel Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 neu Ddiploma mewn
- Ymarfer Adnoddau Dynol.
Llwybrau dilyniant o'r Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli Adnoddau Dynol ar Lefel 5:
- Graddau israddedig ac ôl-radd mewn Rheoli AD neu feysydd yn gysylltiedig â busnes;
- Diploma Uwch Lefel 7 CIPD mewn Rheoli AD;
- Rolau rheolwr/cynghorydd AD, cyffredinol neu arbenigol;
- Aelodaeth siartredig o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, merched yw dros ddeuparth o weithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol y DU, a dynion yw ychydig yn llai na thraean ohonynt.
Mae CIPD yn gweithio i fynd i'r afael â chanfyddiadau mai gyrfa i ferched yw gyrfa ym maes AD, drwy ddangos esiamplau o yrfaoedd gweithwyr proffesiynol AD o amrywiaeth o gefndiroedd. Bydd y dull hwn yn parhau wrth hyrwyddo'r brentisiaeth uwch.
Mae AD yn gynyddol yn troi'n yrfa i raddedigion. Bydd y brentisiaeth uwch yn agor llwybr newydd i'r proffesiwn i unigolion talentog nad ydynt eisiau mynd i'r brifysgol, ond sydd am ganlyn gyrfa broffesiynol mewn AD.
Nid yw'r amodau er mwyn cael mynediad i'r Llwybr hwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolion, ac mae'r Llwybr ar agor ac yn hygyrch i bob darpar brentis.
Bydd mentora hefyd yn cael ei hyrwyddo o fewn y brentisiaeth, er mwyn cynnig cymorth ychwanegol a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn aros.
Mae Instructus Skills yn monitro cyflawniad a'r defnydd o'r holl brentisiaethau, a bydd yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n atal defnydd a chyflawniad (Chwefror 2018).
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Ceir rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 5: Rheoli Adnoddau Dynol
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
C00/4155/3 Mae Diploma Lefel 5 CIPD mewn Dysgu a Datblygu Sefydliadol yn cynnwys unedau gwybodaeth a chymhwysedd.
Modiwlau Craidd
- Perfformiad a diwylliant sefydliadol ar waith (5CO01)
- Arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth (5CO02)
- Ymddygiad proffesiynol a gwerthfawrogi pobl (5CO03)
Unedau Dysgu a Datblygu Arbenigol
- Cefnogi dysgu hunangyfeiriedig a chymdeithasol (5LD01)
- Dylunio dysgu a datblygu i greu gwerth (5LD02)
- Hwyluso dysgu wedi'i bersonoli sy'n canolbwyntio ar berfformiad (5LD03)
Unedau dewisol
- Cyfraith cyflogaeth arbenigol (5OS01)
- Datblygiadau ym maes dysgu a datblygu digidol (5OS02)
- Rheoli pobl mewn cyd-destun rhyngwladol (5OS04)
- Amrywiaeth a chynhwysiant arbenigol (5OS05)
- Datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth (5OS06)
- Llesiant yn y gwaith (5OS07)
Dyma'r elfennau a hepgorwyd o fersiwn flaenorol y cymhwyster:
- Cyfraith Cyflogaeth = 5OS01 Cyfraith cyflogaeth arbenigol
- Dylunio a Datblygu Datrysiadau Dysgu Digidol a Chyfunol = 5OS02 Datblygiadau ym maes dysgu a datblygu digidol
C00/4145/3 Mae Diploma Lefel 5 Cysylltiol y CIPD mewn Rheoli Pobl yn cynnwys unedau gwybodaeth a chymhwysedd.
Modiwlau Craidd
- Perfformiad a diwylliant sefydliadol ar waith (5CO01)
- Arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth (5CO02)
- Ymddygiad proffesiynol a gwerthfawrogi pobl (5CO03)
Unedau AD arbenigol
- Rheoli perthnasoedd cyflogaeth (5HR01)
- Rheoli talent a chynllunio'r gweithlu (5HR02)
- Gwobrwyo am berfformiad a chyfraniad (5HR03)
Unedau dewisol
- Cyfraith cyflogaeth arbenigol (5OS01)
- Datblygiadau ym maes dysgu a datblygu digidol (5OS02)
- Hanfodion dysgu a datblygu (5OS03)
- Rheoli pobl mewn cyd-destun rhyngwladol (5OS04)
- Amrywiaeth a chynhwysiant arbenigol (5OS05)
- Datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth (5OS06)
- Llesiant yn y gwaith (5OS07)
Dyma'r elfennau a hepgorwyd o fersiwn flaenorol y cymhwyster:
- Datblygiadau Cyfoes mewn Cysylltiadau Cyflogaeth = 5HR01 Rheoli perthnasoedd cyflogaeth
- Cynllunio Adnoddau a Thalent = 5HR02 Rheoli talent a chynllunio'r gweithlu
- Rheoli Gwobrwyo = 5HR03 Gwobrwyo am berfformiad a chyfraniad
- Cyfraith Cyflogaeth = 5OS01 Cyfraith cyflogaeth arbenigol
- Dylunio a Datblygu Datrysiadau Dysgu Digidol a Chyfunol = 5OS02 Datblygiadau ym maes dysgu a datblygu digidol