- Cyflogwr:
- Pisys.net
- Lleoliad:
- Pisys.net, Bruce Road, Fforestfach, SA5 4HS, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Cyfraddau prentisiaethau
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Technoleg Ddigidol
- Llwybr:
- Peiriannydd Seilwaith Digidol
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 15 May 2025
- Dyddiad cau:
- 08 May 2025
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6281
Ebostiwch eich CV i - Leia.fee@pisys.net
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Eich diwrnod nodweddiadol:
8:10am - 8:30am: Cyrraedd, paratoi coffi, a chynorthwyo gyda’r gwaith llwytho. Ymuno â'r ciw ffôn, adolygu’r dangosfwrdd ar gyfer materion brys, clirio’ch mewnflwch, a gwylio am ymatebion cwsmeriaid i docynnau agored.
9:00am - 11:00am: Delio â galwadau sy’n dod i mewn a thasgau sydd wedi’u haseinio, gan fynd i'r afael â materion fel diffygion argraffydd, dyfeisiau sydd wedi chwalu (BSODs), neu rwydwaith araf. Canolbwyntio ar ddatrys digwyddiadau yn brydlon.
11:00am - 12:00pm: Ymateb i doriadau safleoedd critigol trwy deithio i leoliadau cwsmeriaid gan ddefnyddio cerbydau trydan y cwmni i adfer gwasanaethau.
12:00pm - 1:30pm: Ailddechrau galwadau a thocynnau, datrys problemau fel diweddariadau Windows sydd wedi methu, e-byst amheus, neu broblemau o ran cysylltu â chronfa ddata trydydd parti. Egwyl ginio a mynd am dro bach.
1:30pm - 4:30pm: Monitro e-byst a dangosfyrddau am unrhyw broblemau newydd. Mynd i'r afael â cheisiadau gwasanaeth, fel trosglwyddoi galwadau, uwchraddio systemau, neu newidiadau i Microsoft 365. Galwad ddilynol i gwsmeriaid a gwerthwyr ynghylch eu tocynnau.
4:30pm: Cynnal adolygiad terfynol o'r holl docynnau i sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru, eu datrys, neu eu trosglwyddo'n briodol, gan baratoi ar gyfer y diwrnod nesaf neu'ch diwrnod bant nesaf.
Gwybodaeth ychwanegol
Os hoffech chi fod yn Ddatryswr Problemau Mwyaf y Byd byddem wrth ein bodd – ond rydym hefyd yn deall nad yw pawb eisiau gweithio ar Ddesg Gymorth am byth, felly ein cwestiwn mwyaf cyffredin yn y cyfweliad yw “ble nesaf?” Yr ateb yw ‘ym mhobman’. Mae gennym gyn-weithwyr desg gymorth ym mhob maes o'r busnes - Prosiectau, Seiberddiogelwch, Teleffoni, Arbenigeddau 365, Gwerthiant Technegol, Cyllid a Rheolaeth. Maen nhw i gyd yn dweud bod yr holl wybodaeth eang a dwfn o’r sylfaen cwsmeriaid a ddysgwyd ar y ddesg gymorth wedi eu rhoi nhw mewn sefyllfa wych ac maen nhw’n dod â'r sgiliau hynny i’w rolau newydd.
Rydym yn talu cyflog amser llawn ond yn gweithredu 4 diwrnod yr wythnos - fel prentis hwn fydd eich diwrnod coleg bob amser gydag unrhyw wythnosau nad ydych yn y Coleg yn amrywio yn unol ag anghenion y busnes.
Gofynion
Sgiliau
Byddwch chi’n rhywun sy’n dda gyda phobl (mae ein cwsmeriaid wedi arfer clywed llais cyfeillgar, hyderus ar y ffôn pan fydd TG wedi creu problemau iddyn nhw).
Byddwch chi wedi datrys problemau TG ar gyfer ffrindiau a theulu hyd yn oed os nad ydych wedi cael swydd TG eto (a byddwch wedi ei fwynhau’n fawr!).
Byddwch chi’n cael eich cymell i ddatrys pob problem sy’n dod i law, boed fawr neu fach.
Chewch chi ddim eich syfrdanu pan fydd rhywbeth nad ydych erioed wedi'i weld o'r blaen yn ymddangos yn eich tocynnau.
Byddwch chi’n ffyddiog bob amser y gallwch ddibynnu ar arferion gorau ac ymchwil cadarn os nad ydych yn gwybod rhywbeth.
Byddwch chi’n eithaf llym o ran rheoli’ch amser, rheoli’r pethau sy’n tynnu’ch sylw a rheoli’ch lles eich hun.
Byddwch chi’n benderfynol o ddod o hyd i’r achosion sylfaenol. (Ac weithiau’n benderfynol o siarad â chwsmeriaid neu werthwyr sy’n anodd cysylltu â nhw!)
Bydd gennych chi gydbwysedd emosiynol cadarn, ac ni fyddwch yn gadael i broblemau TG o ddydd i ddydd effeithio arno.
Byddwch chi’n ddibynadwy, yn weithgar a'r holl bethau arferol eraill hefyd.
Cymwysterau
Dim
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Training provider course:
- Seilwaith Digidol
Ynglŷn â'r cyflogwr
Pisys.netPisys.net
Bruce Road, Fforestfach
Swansea
Swansea
SA5 4HS
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Wyneb yn wyneb; dyddiadau i’w trefnu.
Sut i wneud cais
E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon
Ebostiwch eich CV i - Leia.fee@pisys.net