- Cyflogwr:
- Dacoll Group
- Lleoliad:
- Velindre Hospital, Whitchurch, CF14 2TL, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Arall
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Technoleg Ddigidol
- Llwybr:
- Peiriannydd Seilwaith Digidol
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 02 February 2026
- Dyddiad cau:
- 31 January 2026
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6776
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Darparu cymorth i gwsmeriaid ar y safle o fewn amgylchedd ysbyty er mwyn cynrychioli Philips a sicrhau bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu. Byddwch hefyd yn gweithio ar draws sawl safle ledled Cymru.
• Cefnogi'r tîm o bell i ganfod namau.
• Cofnodi Logiau ar y System a chynnal adolygiadau lefel gyntaf
• Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o atebion gwybodeg Radioleg a ddefnyddir i sicrhau dealltwriaeth glir i gynorthwyo’r broses o roi diagnosis o namau
• Gweithio gyda gwerthwyr Caledwedd i ddefnyddio seilwaith newydd (Gorsafoedd Gwaith Clinigol)
• Cefnogi gweithgarwch Sicrhau Ansawdd Clinigol Gorsafoedd Gwaith
• Ymgymryd â gwaith Cynnal a chadw rhagweithiol mewn perhtynas â gorsafoedd gwaith.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd hyfforddiant ar gymhwyso gwasanaeth a’r cynnyrch yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hyfforddi Ewropeaidd Philips yn yr Eidal.
Cerbyd cwmni
22 diwrnod o wyliau ynghyd ag 8 diwrnod statudol
Pensiwn a chofrestriad awtomatig yn y gweithle
Platfform buddion gweithwyr
Prentisiaeth Peiriannydd Seilwaith Digidol (Lefel 3)
Ar ôl cwblhau'r cynllun prentisiaeth, bydd eich addasrwydd yn cael ei asesu ar gyfer cyflogaeth amser llawn fel Arbenigwr Cymorth Gwybodeg Philips.
Gofynion
Sgiliau
Gweithio mewn tîm ymroddedig o beirianwyr o fewn y sector Gwybodeg Radioleg ledled Cymru. Darparu system wybodeg i bob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth ledled Cymru. Fel Peiriannydd Cymorth Gwasanaeth (Prentis), mae eich rôl yn chwarae rhan bwysig yn nyfodol technegol y sector, a byddwch yn cynorthwyo Peirianwyr, gan ddysgu mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Yn ogystal, byddwch yn ennill sgiliau bywyd a fydd yn eich datblygu tuag sicrhau dyfodol ym maes systemau meddygol.
Sgiliau cyfathrebu cryf a’r gallu i ganolbwyntio ar gwsmeriaid
Sgiliau meddwl yn rhesymegol ac awydd i ddechrau gyrfa mewn rôl peirianneg feddalwedd ymarferol Sgiliay datrys problemau
Diddordeb mewn TG, rhwydweithio, a chysylltedd systemau, ynghyd â sgiliau cyfathrebu da
Siaradwr hyderus ac aelod brwd o dîm.
Yn siarawr Saesneg rhugl ar llafar ac yn ysgrifenedig
Sgiliau Cymraeg (Ysgrifenedig a Llafar) – dymunol.
Cymwysterau
O leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Ffiseg (Graddau A-C neu gyfwerth).
O leiaf 2 Lefel A, BTEC neu gyfwerth, gan gynnwys pwnc sy'n gysylltiedig â Thechnoleg Gwybodaeth
Diddordeb mewn sicrhau gyrfa mewn TG, rhwydweithio, a chysylltedd systemau
Trwydded yrru lawn - hanfodol
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Training provider course:
- Prentisiaeth Peiriannydd Seilwaith Digidol (Lefel 3)
Ynglŷn â'r cyflogwr
Dacoll GroupVelindre Hospital
Whitchurch
Cardiff
Cardiff
CF14 2TL
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Wyneb yn wyneb; dyddiadau i’w trefnu.
Sut i wneud cais
E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon