Skip to main content

Gweithiwr Cymorth Ymyrraeth Dros Dro dan Brentisiaeth – Prosiect Meisgyn

Cyflogwr:
Lleoliad:
Glyncornel Centre, Nant-y-gwyddon Road, CF40 2JF, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Isafswm cyflog cenedlaethol
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Dyddiad cychwyn posibl:
02 September 2024
Dyddiad cau:
22 May 2024
Safbwyntiau ar gael:
2
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
5339
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

Mynd i gyfarfodydd carfan yn rheolaidd, yn ogystal â chyfarfodydd adolygu rheolaidd gyda'r rheolwr llinell ac ati, a chymryd rhan ynddyn nhw.
Gweithio mewn modd proffesiynol a chyfleu darlun cadarnhaol o Brosiect Meisgyn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Gweithio gyda gweithwyr achosion Prosiect Meisgyn i annog a chefnogi rhieni/gwarcheidwaid, a gweithio'n uniongyrchol â phlant a phobl ifainc, drwy yrru defnyddwyr sy wedi’u cefnogi gan Brosiect Meisgyn i ganolfannau/mannau penodedig a'u dychwelyd.
Cynorthwyo â chadw storfeydd offer Prosiect Meisgyn yn lân ac yn hawdd i'w defnyddio.
Cynorthwyo â chynnal a chadw, storio a pharatoi offer gweithgareddau awyr agored.
Cynorthwyo â monitro defnydd offer (hynny yw, cofnodi offer sy'n cael ei fenthyca a'i ddychwelyd gan eraill, cofnodi defnydd o offer diogelwch ac ati).
Cynorthwyo Arweinwyr Gweithgareddau Antur Awyr Agored sy'n rhan o Brosiect Meisgyn i gynnal gweithgareddau gyda phlant a phobl ifainc.
Cynorthwyo arweinydd y grŵp i gludo a defnyddio offer diogelwch pan fo'n briodol ac o dan oruchwyliaeth hyfforddwr y gweithgaredd.
Cynorthwyo â goruchwylio teithiau dros nos neu benwythnos preswyl oddi ar y safle neu wersylla gyda grwpiau o bobl ifainc pan fo angen.
Ymgymryd â gwaith uniongyrchol wyneb yn wyneb ac arwain gweithgareddau grŵp gyda phlant a phobl ifainc pan fo'r cymwysterau/profiad addas gan yr ymgeisydd

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaethau sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu, a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Bydd Gweithiwr Ymyrraeth dan Brentisiaeth - Meisgyn yn gweithio yng Nghanolfan Glyncornel, sy'n rhan o wasanaethau sy'n hyrwyddo sefydlogrwydd lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifainc ledled Rhondda Cynon Taf sy'n wynebu anawsterau yn eu bywydau. Mae gan y garfan staff ymroddgar dros ben sy'n gweithio mewn partneriaeth â phlant, pobl ifainc, eu teuluoedd ac eraill i gynllunio a gweithredu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan ganolbwyntio ar y teulu a gan gadw at amserlen ddwys a phenodol. Mae'r gwasanaeth ar gyfer plant sydd ar fin dod o dan adain y Cyngor, neu sydd o dan adain y Cyngor ar hyn o bryd ac ar fin dychwelyd adref.

Mae'r garfan yn chwilio am brentis brwdfrydig a fyddai'n mwynhau'r her o weithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifainc a'u teuluoedd. O'ch penodi i'r swydd, byddwch chi'n rhan o garfan gefnogol sy'n ymrwymo ac yn eich meithrin i gyflawni'r deilliannau gorau ar gyfer plant a phobl ifainc. Yn ddelfrydol, bydd gyda chi'r gallu i ennill ymddiriedaeth a hyder plant a phobl ifainc a'u rhieni/cynhalwyr. Byddwch chi'n meddu ar sgiliau ardderchog o ran cyfathrebu ac ymagwedd hyblyg a llawn dychymyg a'r gallu i 'feddwl y tu allan i'r bocs'.

Bydd gyda chi brofiad o gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau antur awyr agored, yn ogystal â phrofiad o ddilyn dull hyblyg o ymdrin ag oriau gwaith, gan gynnwys gyda'r nos, ar benwythnosau ac ar deithiau preswyl, pan fo angen.
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
I ymgeisio am y swydd yma, rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn.

Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Bydd pob prentis yn cael cymorth i gwblhau cymhwyster FfCCh (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc), Lefel 3 drwy ddarparwr hyfforddiant neu goleg lleol.

Faint byddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

• 21 oed neu'n hŷn £11.42
• 18–20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40

Pecyn buddion

• Cewch eich talu wrth ddysgu
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant yn y gwaith
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn
Rhondda Cynon Taf
• Cerdyn gostyngiadau Vectis


O ganlyniad i feini prawf y Cynllun Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.

Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.

Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk

Gofynion

Sgiliau

Dealltwriaeth o wasanaethau'r Cyngor
Profiad o gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored e.e. canŵio/caiacio, dringo creigiau, ogofa, cerdded mynyddoedd, beicio mynydd neu chwaraeon eraill. Er nad yw'n hanfodol, bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan ym mhob agwedd ar gynllun gwaith grŵp yn yr awyr agored ac annog a chefnogi pobl ifainc.
Cymwysterau mewn gweithgareddau awyr agored neu hyfforddi chwaraeon.
Y gallu i gwblhau tasgau o fewn cyfnod amser y cytunwyd arno a gweithio i derfynau amser.
Gwybodaeth am ddatblygiad plant a phobl ifainc

Cymwysterau

Y gallu i gyflawni cymhwyster FfCCh trwy goleg/ddarparwr hyfforddiant

Hyder wrth ddefnyddio TGCh (e.e. e-bostio a phrosesu geiriau)

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
No
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
No

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Training provider course:
Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh) Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc).

Ynglŷn â'r cyflogwr


Glyncornel Centre
Nant-y-gwyddon Road
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2JF

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld.

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now