- Cyflogwr:
- Lleoliad:
- R C T Council Offices, Oldway House, Porth Street, CF39 9ST, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Isafswm cyflog cenedlaethol
- Oriau yr wythnos:
-
31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
-
Coleg y Cymoedd
- Lefel:
- Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2)
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 02 September 2024
- Dyddiad cau:
- 22 May 2024
- Safbwyntiau ar gael:
-
1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 5305
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Bydd y prentis yn datblygu sgiliau a galluoedd o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth staff â chymwysterau addas, ac yn helpu'r adran i wneud y canlynol:
1. Cwblhau'r Fframwaith prentisiaeth a manteisio ar unrhyw hyfforddiant arall sy'n berthnasol i'r swydd, gan gynnwys hyfforddiant gan oruchwyliwr a hyfforddiant wrth y gwaith.
2. Mynd i gyfarfodydd carfan yn rheolaidd, yn ogystal â chyfarfodydd adolygu rheolaidd gyda'r rheolwr llinell ac ati, a chymryd rhan ynddyn nhw.
3. Gweithio tuag at gwblhau cymhwyster AAT mewn cyfrifeg.
4. Gweithio mewn modd proffesiynol a phortreadu delwedd gadarnhaol o'r Cyngor yn y gweithle.
5. Helpu i sicrhau bod amcanion Cynllun Busnes a chynlluniau gweithredu'r Uned yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
6. Rhoi cymorth â gwaith cynnal a chau cyfrifon y Cyngor a phroses rheoli cyllidebau yn ystod y flwyddyn.
7. Mewnbynnu cofnodion y dyddiadur i System Gwybodaeth Ariannol y Cyngor (Ledger).
8. Ymgymryd â chysyniadau sylfaenol o fantolen a chyfrifon rheoli.
9. Cynorthwyo gydag arferion a chyfrifoldebau cyffredinol y swyddfa gan gynnwys dyletswyddau yn yr ystafell bost, llungopïo, ffeilio a mewnbynnu data.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaethau sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.
Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu, a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.
Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Mae'r Gwasanaeth Cyfrifeg yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig a threfnus iawn sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu da, sy'n fanwl, ac sy'n gweithio'n dda'n rhan o garfan.
Bydd y swydd yn cynnig cyfle i weithio law yn llaw ag aelodau o staff profiadol, datblygu gwybodaeth a sgiliau cyfrifeg, a chwarae rhan bwysig wrth gyflawni gwasanaethau cymorth cyfrifeg i ansawdd uchel.
Gofynion Mynediad:
Rhaid i'r ymgeisydd feddu ar 5 TGAU A–C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc gwyddonol, neu gymwysterau cyfatebol.
Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Bydd yr holl brentisiaid yn cael eu cefnogi i gyflawni cymhwyster Lefel 2 a 3 Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) drwy ddarparwr hyfforddiant neu goleg lleol.
Faint byddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog
Cenedlaethol ar sail eich oedran:
• 21 oed neu'n hŷn £11.42
• 18–20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40
Pecyn buddion
• Cewch eich talu wrth ddysgu
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant yn y gwaith
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn
Rhondda Cynon Taf
• Cerdyn gostyngiadau Vectis
O ganlyniad i feini prawf y Cynllun Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.
Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.
Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk
Gofynion
Sgiliau
Y gallu i gyflawni cymhwyster FfCCh trwy goleg/ddarparwr hyfforddiant.
Dealltwriaeth o wasanaethau'r Cyngor.
Hyder wrth ddefnyddio TGCh (e.e. e-bostio a phrosesu geiriau).
O leiaf 5 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu bwnc cyfatebol.
Cymwysterau
O leiaf 5 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu bwnc cyfatebol.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- No
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- No
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
-
Coleg y Cymoedd
- Training provider course:
-
Lefel 2 AAT
Ynglŷn â'r cyflogwr
R C T Council Offices, Oldway House
Porth Street
Porth
Rhondda Cynon Taf
CF39 9ST
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld.
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now