- Cyflogwr:
- Flynn’s Delicatessen
- Lleoliad:
- Flynn’s Delicatessen, 27 Walter Road, SA1 5NN, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Arall
- Oriau yr wythnos:
- 16-30 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Technoleg Ddigidol
- Llwybr:
- Rheoli Cynnwys Digidol
- Dyddiad cau:
- 25 April 2025
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6211
E-bostwich eich CV i - hello@flynnsdeli.co.uk
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Cyfrifoldebau Allweddol – Clerc Deli:
• Gweini cwsmeriaid a rhoi cyngor iddyn nhw ar amrywiaeth o
gigoedd, cawsiau, a chynnyrch deli o ansawdd uchel.
• Paratoi eitemau ffres i’r deli, fel brechdanau, salad, a byrddau charcuterie.
• Gweithredu peiriannau sleisio ac offer eraill y deli (darperir
hyfforddiant).
• Cynnal gweithle glân a threfnus, gan ddilyn safonau diogelwch bwyd.
• Cynorthwyo i llenwi silffoedd, rheoli stoc, ac arddangos cynnyrch.
Cyfrifoldebau Allweddol – Cynorthwyydd Marchnata Digidol:
• Helpu i reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Flynn, creu postiadau, straeon, ac ymgysylltu â dilynwyr.
• Tynnu lluniau o gynhyrchion newydd, bwydydd arbennig, ac eiliadau ‘tu ôl i’r llenni’, ac ysgrifennu amdanynt i’w rhannu ar-lein.
• Cyfrannu at y cylchlythyr, ysgrifennu cynnwys diddorol am ddigwyddiadau sydd ar ddod, digwyddiadau hyrwyddo, a ryseitiau’r tymor.
• Diweddaru’r wefan gyda bwydydd arbennig dyddiol a disgrifiadau o gynhyrchion.
• Cefnogi ymgyrchoedd marchnata ar gyfer digwyddiadau yn y siop, gweithdai, a digwyddiadau hyrwyddo.
• Monitro adborth gan gwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol ac adolygu platfformau, gan roi gwybodaeth i’r tîm rheoli.
Gwybodaeth ychwanegol
Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig -
Yn Flynn’s, rydyn ni’n edrych yn ôl ein tîm cystal ag yr ydyn ni’n edrych ar ôl ein cwsmeriaid. Dyma beth byddwch chi’n ei fwynhau:
• 6 wythnos o wyliau blynyddol y flwyddyn (neu pro-rata i staff rhan-amser).
• Diwrnod bant ar eich pen-blwydd bob blwyddyn, wedi’i dalu’n llawn.
• Cinio am ddim bob sifft, gydag opsiynau o’n bwydlen caffi neu ddeli.
• Disgowntiau ar bob cynnyrch deli, fel y gallwch fynd â’ch ffefrynnau gartref gyda chi.
• Cadw 100% o’ch cildyrnau.
• Prawf llygad am ddim.
• Cyfleoedd i ddysgu a datblygu, gan gynnwys hyfforddiant
mewn charcuterie, gwerthu caws, paratoi bwyd, a sgiliau
marchnata digidol.
• Cynllun rhannu elw — wrth i Flynn dyfu, felly hefyd mae’ch gwobrwyon.
• Buddion lles, gan gynnwys te a choffi am ddim drwy gydol y
dydd a mynediad i ardal ymlacio tawel.
• Cyfleoedd dilyniant gyrfa, gan gynnwys pontio i rolau
marchnata, cymorth busnes, logisteg, neu weinyddol.
Gofynion
Sgiliau
Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano -
Rydyn ni’n gwerthfawrogi personoliaeth ac angerdd yn fwy na phrofiad. Os ydych chi’n gyfeillgar, yn greadigol neu’n awyddus i ddysgu, byddwch chi’n addas iawn. Yn ddelfrydol, bydd gennych:
• Cariad at fwyd a diddordeb mewn dysgu am fwyta tymhorol a chynaliadwy.
• Sgiliau cyfathrebu gwych a dawn o wneud i gwsmeriaid deimlo’n gartrefol
• Meddylfryd creadigol a brwdfrydedd dros farchnata digidol a’r cyfryngau cymdeithasol.
• Manylder, yn enwedig wrth baratoi bwyd ac ysgrifennu cynnwys ar-lein.
• Sgiliau sylfaenol mewn ffotograffiaeth, ysgrifennu, neu reoli cyfryngau cymdeithasol (yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol).
• Parodrwydd i dorchi llewys a helpu pan fydd angen.
Cymwysterau
Dim gofynion mynediad. Cymwysterau TGAU mewn TGCh a Saesneg yn ddymunol.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Training provider course:
- Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol
Ynglŷn â'r cyflogwr
Flynn’s DelicatessenFlynn’s Delicatessen
27 Walter Road
Swansea
Swansea
SA1 5NN
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Wyneb yn wyneb; dyddiadau i’w trefnu.
Sut i wneud cais
E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon
E-bostwich eich CV i - hello@flynnsdeli.co.uk