The content
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer:
Lefel 3 - Datblygu Cynnwys Digidol yw 90 credyd.
Lefel 4 - Rheoli Cynnwys Digidol yw 124 credyd
Gofynion mynediad
Lefel 3: Datblygu Cynnwys Digidol
Mae mwyafrif y cyflogwyr yn y maes hwn yn gofyn am ymgeiswyr sydd:
- yn ddysgwyr rhagweithiol, cyflym;
- yn gallu gweithio mewn tîm ac weithiau ar eu pen eu hunain, yn gallu canolbwyntio ar helpu cwsmeriaid a chydweithwyr i ganfod atebion i broblemau
- yn gallu gweithio'n rhesymegol ac fesul cam, yn aml o dan bwysau yn erbyn dyddiadau terfyn llym
- yn gallu gwneud yr hyn sydd ei angen, pan fo angen
- yn agored i newid ac yn canolbwyntio ar ofynion y busnes ar bob achlysur
Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd mewn technolegau digidol a rhywfaint o brofiad o adeiladu a chynnal presenoldeb ar y we.
Croesewir ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol, ac mae Instructus yn disgwyl i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr gydymffurfio â darpariaethau'r Ddeddf Cydraddoldeb i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r sector, a dyrchafiad o fewn y sector.
Dylai'r holl bartïon sy'n ymwneud â darparu Prentisiaethau sicrhau cyfle cyfartal i bawb, ac yr ymdrinnir ag unrhyw rwystrau (gwirioneddol neu ganfyddedig) er mwyn helpu unrhyw un sy'n ceisio cael swydd a chwblhau Prentisiaeth.
Lefel 4: Rheoli Cynnwys Digidol
Yn ogystal â'r gofynion mynediad Cyffredinol, bydd angen i ymgeiswyr sydd am gael mynediad i Brentisiaeth Uwch fod wedi cyflawni un o'r canlynol:
- Cymwysterau Safon Uwch, neu gyrhaeddiad addysgol cyfwerth, gan gynnwys y Diploma TG Lefel 3
- Bagloriaeth Cymru neu'r Fagloriaeth Ryngwladol neu Dystysgrif Dechnegol Lefel 3 berthnasol.
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Cyflogaeth o fewn y diwydiant technoleg/telathrebu ers rhai blynyddoedd, ac wedi dangos i'w gyflogwr y gellir disgwyl yn rhesymol iddo gyflawni deilliannau gofynnol y Brentisiaeth Uwch. Gellir ategu hyn drwy dystiolaeth neu ddangos ei fod wedi cyflawni neu berfformio yn y rôl cyn cychwyn y Brentisiaeth Uwch.
Dylai darpar brentisiaid gofio bod Prentisiaeth Uwch yn cyfuno heriau addysg lefel uwch â chyflogaeth amser llawn, a dylent fod yn barod am fwy o waith astudio, a hynny ar lefel uwch, nag a gafwyd yn y Brentisiaeth neu mewn unrhyw gymhwyster arall Lefel 3.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Datblygu Cynnwys Digidol
Lefel 3: Datblygu Cynnwys Digidol Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Lefel 3 -Diploma mewn Datblygu Cynnwys Digidol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Agored Cymru | C00/1184/7 | 72 | 720 | Cymhwysedd | Cymraeg-Saesneg |
Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Datblygu Cynnwys Digidol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Datblygu Cynnwys Digidol | 416 | 240 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
90 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Lefel 3 - Diploma mewn Datblygu Cynnwys Digidol (Cyfun)
656 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Datblygu Cynnwys Digidol, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4: Rheoli Cynnwys Digidol
Lefel 4: Rheoli Cynnwys Digidol Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr ennill y cymhwyster cyfun isod.
Lefel 4 - Diploma mewn Rheoli Cynnwys Digidol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Agored Cymru | C00/1184/8 | 127 | 1270 | Cymhwysedd | Cymraeg-Saesneg |
Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 4: Rheoli Cynnwys Digidol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 4: Rheoli Cynnwys Digidol | 535 | 60 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
143 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Cynnwys Digidol (Cyfun)
595 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Uwch Rheoli Cynnwys Digidol, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd / 60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Amh
Dilyniant
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3 hon mewn Datblygu Cynnwys Digidol:
Mae'r Rhaglen Brentisiaeth Lefel 3 yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus gael astudio ymhellach a mynd rhagddynt i ddilyn rhaglen gradd gysylltiedig. Gallent ddewis gradd Baglor, gradd Sylfaen, cymhwyster Cenedlaethol Uwch neu gymhwyster lefel uwch arall. Gall prentisiaid hefyd ddewis parhau o fewn eu rôl swydd a dysgu drwy ddilyn hyfforddiant a chymwysterau technegol, busnes neu reoli ychwanegol.
Bydd prentisiaid sydd wedi cwblhau rhaglen brentisiaeth Lefel 3 yn aml wedi symud ymlaen o fewn eu gyrfa i swydd arweinydd tîm neu lefel uwch, gan ddefnyddio eu harbenigedd technegol cynyddol - a llywio a hyfforddi eraill o fewn y sefydliad.
Bydd y Diploma Rheoli Cynnwys Digidol ar Lefel 4 yn cynnig llwybr dilynol i'r rhai sy'n cwblhau Lefel 3, ac yn cynnig llwybr mynediad uniongyrchol i rai nad ydynt yn raddedigion i'r diwydiant TG, gan gynnig llwybr i rolau mwy arbenigol a thechnegol.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 4 hon mewn Rheoli Cynnwys Digidol:
Ar ôl cwblhau llwybr Prentisiaeth Uwch Lefel 4, bydd prentisiaid llwyddiannus yn gallu parhau â'u hastudiaethau gwybodaeth a symud ymlaen i gwblhau:
Graddau Sylfaen
- Tystysgrifau / Diplomas Cenedlaethol Uwch
- Graddau Anrhydedd BA
- Cyrsiau proffesiynol cysylltiedig.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Nid oes unrhyw rwystrau o ran mynediad i'r Llwybrau Datblygu Cynnwys Digidol a Rheoli Cynnwys Digidol, a bwriedir iddynt gynnwys pob dysgwr waeth beth fo'i ryw, ei oedran, ei anabledd neu ei darddiad ethnig.
Er mwyn bodloni gofynion dysgwyr, gellir defnyddio nifer o wahanol arddulliau dysgu i gyflwyno'r cynnwys sy'n ofynnol ar gyfer dysgu i ffwrdd o'r gwaith.
Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r sector, a dyrchafiad o fewn y sector, ar sail y nodweddion gwarchodedig.
Mae'r adrannau canlynol wedi'u cynnwys i ddisgrifio demograffeg cyfredol y gweithlu (Mae data'n cyfeirio at y DU gyfan ac at y sector TG a Thelathrebu cyfan, y mae Diogelwch Gwybodaeth yn rhan ohono)
CYDRADDOLDEB RHYW
Mae diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn broblem sylweddol o fewn y sector TG a Thelathrebu. O edrych ar rolau swydd proffesiynol ym maes TG a Thelathrebu ar draws yr holl sectorau, gostyngodd y gynrychiolaeth o ferched o 22% yn 2001 i 18% yn 2011. Dylid cymharu hyn â'r gyfran o 48% o ferched a geir yng ngweithlu cyfan y DU.
Fel sy'n wir mewn diwydiant, mae'r diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau i weld yn amlwg ar draws cyrsiau'n gysylltiedig â TG, ac mae'n gwaethygu dros amser drwy'r holl system addysg. Merched yw 15% o'r ymgeiswyr ar gyrsiau gradd Cyfrifiadura, a 6.5% yw cyfran y merched a wnaeth sefyll Safon Uwch Cyfrifiadura yn 2013, a oedd 1.3% yn is nag yn 2012. Ceir sawl rheswm pam bod merched wedi'u tangynrychioli ar draws y sector TG a Thelathrebu, gan gynnwys:
- diffyg ymwybyddiaeth (ymhlith unigolion a chynghorwyr gyrfa) ynghylch yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael
- dryswch wrth addysgu TGCh mewn ysgolion rhwng rolau Defnyddiwr TG a rolau TG proffesiynol
OED Y GWEITHLU
Mae dadansoddiad o'r cyfnod 2001-2011 yn dangos tuedd newidiol ym mhroffil oedran gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu. Gostyngodd cyfran y bobl 16-29 oed o 33% yn 2001 i 19% yn 2011.
Amcangyfrifir mai 39 yw oed cyfartalog gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu sy'n gweithio yn y DU, o gymharu â 41 oed ar gyfer gweithwyr yn fwy cyffredinol. Mae ychydig llai na hanner (47%) y gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu yn 40 oed neu'n hŷn ac mae llai nag un o bob pump (19%) yn y grŵp oedran 16-29.
Ffactor allweddol sy'n cyfrannu at y ddeinameg newidiol ym maes TG a Thelathrebu yw effaith globaleiddio. Bydd cynnal rhaglenni prentisiaeth cryf yn y sector yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gellir rhoi terfyn ar y duedd hon, neu ei gwrthdroi yn y blynyddoedd nesaf, gan sicrhau drwy hynny fod gan y sector gyflenwad o'r gweithwyr proffesiynol medrus sydd eu hangen arno i symud i rolau swydd lefel uwch mewn 5-10 mlynedd.
ETHNIGRWYDD AC ANABLEDD
Mae'r diwydiant technolegau gwybodaeth a chyfathrebu ymhlith diwydiannau mwyaf amrywiol y DU o ran ethnigrwydd, gyda 13% o'r gweithlu (cynnydd o gymharu ag 8% o'r gweithlu yn 2002) yn bobl Ddu, Asiaidd neu Leiafrifol Ethnig o gymharu â 9% ar draws yr economi gyfan.
Ceir darpariaeth sylweddol i unigolion ag anableddau drwy'r holl sector TG a Thelathrebu gyda llawer o gyfleoedd amrywiol am yrfaoedd boddhaus ar bob lefel. Mae hyn yn ei dro'n golygu bod prentisiaethau ar gael mewn ystod eang o feysydd i rai â lefelau amrywiol o anabledd.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
Annex 2 Digital Content Management Level 4
Relationship between competence and knowledge qualifications
Agored Level 4 Diploma in Digital Content Management - Qualification Specification can be found at:
https://www.agored.cymru/Units-and-Qualifications/Qualification/127679
QW Approval/Designation No: C00/1184/8
Total credits required: 127
Guided learning hours (GLH): 780
Total qualification time (TQT): 1270 hours
Annex 1 - Level 3: Digital Content Development
Relationship between competence and knowledge qualifications
Agored Level 3 Diploma in Digital Content Development - Qualification Specification can be found at:
https://www.agored.cymru/Units-and-Qualifications/Qualification/127678
QW Approval/Designation No: C00/1184/7
Total credits required: 72
Guided learning hours (GLH): 565
Total qualification time (TQT): 720 hours
Annex 2 - Level 4: Digital Content Management
Relationship between competence and knowledge qualifications
Agored Level 4 Diploma in Digital Content Management - Qualification Specification can be found at:
https://www.agored.cymru/Units-and-Qualifications/Qualification/127679
QW Approval/Designation No: C00/1184/8
Total credits required: 127
Guided learning hours (GLH): 780
Total qualification time (TQT): 1270 hours