Mae GOV.WALES yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Gall gwasanaethau llywodraeth osod cwcis ychwanegol, ac os felly, bydd ganddynt bolisi a baner cwcis ar wahân. Gallwch newid eich gosodiadau cwci ar unrhyw bryd.
Abertawe, Sir Caerfyrddin, Powys, Caerdydd, Sir Benfro, Swydd Amwythig, Swydd Nottingham, Swydd Northampton
Mae Perthyn yn sefydliad nid er elw sy’n cynnal Gwasanaethau Byw â Chymorth ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth eraill. Rydym yn cyflogi dros 800 aelod o staff ac yn cefnogi 250 o bobl ledled Cymru a Loegr.
Rydym yn gwmni sy’n tyfu ac sy’n gosod a chynnal systemau Tresmaswyr, Tân a Theledu Cylch Cyfyng (CCTV). Rydym yn gwmni achrededig Aur NSI a BAFE, sy’n weithgar iawn ac yn teimlo’n gryf dros ddiogelwch a safonau, gan geisio dysgu a symud ymlaen bob amser.
Recriwtio prentisiaid yn: Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu
Busnes masnachol yw Phs, a’r prif ddarparwr gwasanaethau hylendid yn y DU, Iwerddon a Sbaen. Mae Phs wedi masnachu ers 1963, gan ddarparu gwasanaethau Ystafelloedd Ymolchi, Gofal Iechyd a Gofal Llawr, ynghyd ag amrywiaeth o wasanaethau Arbenigol.
Prif nod Ymddiriedolaeth Gymunedol Sblash yw rheoli’r ffordd y mae Canolfan Hamdden Plas Madog yn cael ei rhedeg, asedau allanol ac unrhyw gyfleuster arall y mae’r Cyfarwyddwyr yn ystyried sy’n darparu lles cymdeithasol, hamdden, addysg, neu weithgareddau diwylliannol, iechyd a lles.
Recriwtio prentisiaid yn: Teithio, Twristiaeth a Hamdden
Rydym yn arbenigo mewn dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu modiwlau, systemau a chynhyrchion optronig ar gyfer cymwysiadau amddiffyn ac awyrofod. Mae gennym swyddi allweddol ym maes gwerthu, marchnata, ymchwil a datblygu, peirianneg, gweithgynhyrchu, araenu a chymorth i gwsmeriaid.
Mae Quality Pipe Supports (QPS) Ltd yn adnabyddus fel un o arweinwyr y farchnad ym maes gweithgynhyrchu Systemau Cynnal Pibelli cyflawn. Mae ein sectorau yn y farchnad yn cynnwys Niwclear, Petrocemegol, Cyfleustodau, Ffarmacolegol, Alltraeth, Prosesu Olew a Nwy.
Rydym yn angerddol dros wneud i’r pethau symlaf flasu’n wych, a bellach rydym yn cynhyrchu ystod eang o gynhyrchion mewn cartonau plastig, gwydr a Tetra Pak, gan gynnwys ein dŵr ffynnon pur ein hunain, suddoedd ffrwythau, dŵr â blas, diodydd iach i blant a gwasgiadau premiwm i oedolion.