Skip to main content

Prentis Cyfleusterau

Cyflogwr:
National Resources Wales
Lleoliad:
Rivers House, St Mellons Business Park, CF3 0EY, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Arall
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Gower College Swansea
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Sector:
Gwasanaethau Eiddo
Llwybr:
Rheoli Cyfleusterau
Dyddiad cychwyn posibl:
12 October 2026
Dyddiad cau:
06 October 2026
Safbwyntiau ar gael:
2
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
7240
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

• Cefnogi'r tîm Ystadau a Chyfleusterau i gwblhau tasgau sy'n helpu i gynnal amgylchedd gwaith diogel ac iach i staff, cwsmeriaid a chontractwyr.
• Byddwch yn cymhwyso'r sgiliau y byddwch yn eu dysgu o'ch prentisiaeth i sefyllfaoedd go iawn, gan fagu profiad mewn meysydd fel gwirio cydymffurfiaeth o ran adeiladau, cefnogi gweithgareddau cynnal a chadw, rheoli contractwyr a thasgau eraill ar y safle.
• Byddwch yn meithrin perthynas waith dda gyda chydweithwyr, cwsmeriaid a chontractwyr, gan gynnig gwasanaeth cwsmeriaid defnyddiol a chyfeillgar a gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau Cyfleusterau.
• Byddwch yn cefnogi’r broses o weinyddu cyfleusterau, gan gynnwys mewnbynnu data, diweddaru cofnodion a defnyddio systemau TGCh o dan arweiniad eraill.
• Byddwch yn helpu'r tîm i fodloni safonau iechyd, diogelwch a lles trwy ddilyn gweithdrefnau, nodi materion a riportio pryderon i staff cymwysedig.
• Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
• Bod yn ymrwymedig i Bolisi Cyfle Cyfartal a CHydraddoldeb, Gyfoeth Naturiol Cymru, gan ddod i ddeall sut maen cael ei weithredu
• Bod yn ymrwymedig i ddatblygiad eich hun trwy ddefnyddio eich cynllun datblygu personol yn effeithiol (Sgwrs).
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel cyfrifoldeb y rôl hon.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae CNC yn chwarae rôl hanfodol wrth ddiogelu, gwella a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy. Fel prif reoleiddiwr amgylcheddol, cynghorydd a rheolwr tir mwyaf blaenllaw Cymru, rydym yn gweithio i sicrhau defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol er budd pobl, natur a'r economi.
Mae ein tîm Cyfleusterau yn cefnogi'r gwaith pwysig hwn trwy ddarparu gweithleoedd diogel, effeithiol a chynaliadwy ar draws y sefydliad. Trwy ymuno â'r tîm, byddwch yn cael cyfle i ddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol, gan wneud cyfraniad gwirioneddol at ddarparu ein gwasanaethau ledled Cymru.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gorfod ymgymryd â gwiriad DBS. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu cynnig nawdd ar gyfer fisa. Er bod gennym drwydded noddi fisa Gweithiwr Medrus, mae’n berthnasol i rolau penodol sy'n bodloni meini prawf cymhwysedd a gofynion cyflog Llywodraeth y DU o dan lwybr fisa Gweithiwr Medrus.

Bydd gan y rôl nifer o fanteision, gan gynnwys:
1. Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy'n cynnig cyfraniadau cyflogwr o 28.97% (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
2. 28 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 33 diwrnod
3. Gwyliau blynyddol sy’n diwallu eich anghenion
4. ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
5. buddion a chymorth iechyd a lles
6. awr lles wythnosol
Manylion llawn am fanteision gwethwyr.

Yn eich cais a'ch cyfweliad, bydd gofyn i chi arddangos sgiliau a phrofiad gan ddefnyddio dull STAR.

Gofynion

Sgiliau

Ydych chi yn dymuno cymryd eich cam cyntaf i yrfa werth chweil mewn Rheoli Cyfleusterau?
Mae gennym ddau gyfle Prentis Cyfleusterau ar gael, gydag un swydd yn Llandarsi ac un yn Llaneirwg, Caerdydd. Fel rhan o'n tîm Cyfleusterau'r De, byddwch yn ennill profiad ymarferol eang gan weithio tuag at Brentisiaeth Rheoli Cyfleusterau Lefel 3.
Mae hyn yn fwy na phrentisiaeth. Mae'n gyfle i ddysgu gan weithwyr proffesiynol a phrofiadol, datblygu sgiliau ymarferol a chwarae rôl allweddol wrth gefnogi'r gweithleoedd sy'n galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu gwasanaethau hanfodol. O helpu i gynnal adeiladau diogel i gefnogi cwsmeriaid, cydweithwyr a chontractwyr, byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ym mhob agwedd ar Reoli Cyfleusterau.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm cefnogol a gwybodus er mwyn adeiladu'r sgiliau, yr hyder a'r profiad sydd eu hangen i ddatblygu gyrfa lwyddiannus ym maes Rheoli Cyfleusterau.
Bydd gofyn i chi deithio i safleoedd CNC ledled De Cymru fel rhan o’r rôl i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau. O ganlyniad, mae'n rhaid i chi feddu ar drwydded yrru lawn, gyfredol yn y DU a bydd angen i chifod yn barod i deithio'n annibynnol rhwng lleoliadau.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas ar ôl yr apwyntiad. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb yn cael eu cynllunio ymlaen llaw

Cymwysterau

1. Bydd angen i chi feddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol, ynghyd â gradd C / Lefel 2 (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg TGAU.
2. Bydd genncyh sgiliau TGCh sylfaenol a'r gallu i ddysgu systemau newydd, gan y byddwch yn defnyddio offer a meddalwedd i gwbbhau tasgau.
3. Ymwybyddiaeth o sut mae gwasanaethau Cyfleusterau yn cael eu cynllunio, eu darparu a'u gwella, gan gynnwys iechyd a diogelwch, gwasanaeth cwsmeriaid, cynaliadwyedd a gweithrediadau adeiladu.
4. Mae diddordeb mewn Rheoli Cyfleusterau, rheoli eiddo, gwasanaeth cwsmeriaid neu gynnal a chadw adeiladau yn ddymunol, ynghyd â pharodrwydd i ddatblygu gwybodaeth am iechyd a diogelwch yn y gweithle.
5. Mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da yn bwysig, gan y byddwch chi'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr, contractwyr a chwsmeriaid i gwblhau gwaith o ddydd i ddydd.
6. Y gallu i drefnu amser, dilyn cyfarwyddiadau a defnyddio eich menter eich hun pan fo'n briodol.
7. Trwydded yrru lawn yn y DU.
8. Gofyniad Cymraeg: Lefel A1 - Lefel Mynediad.

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
Na
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
Na

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Gower College Swansea
Training provider course:
Rheoli Cyfleusterau

Ynglŷn â'r cyflogwr

National Resources Wales
Rivers House, St Mellons Business Park, CF3 0EY, Y Deyrnas Unedig

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Wyneb yn wyneb; dyddiadau i’w trefnu.

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now