- Cyflogwr:
- Natural Resources Wales
- Lleoliad:
- Rivers House St Mellons Business Park St Mellons, CF3 0EY, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Gwerth blynyddol
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Gwasanaethau Eiddo
- Llwybr:
- Rheoli Cyfleusterau
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 04 November 2026
- Dyddiad cau:
- 06 October 2026
- Safbwyntiau ar gael:
- 2
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 7237
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Cefnogi'r tîm Ystadau a Chyfleusterau drwy wneud tasgau dyddiol sy'n helpu i gynnal amgylchedd gwaith diogel ac iach i staff, cwsmeriaid a chontractwyr.
Byddwch yn rhoi’r hyn y byddwch chi’n ei ddysgu yn ystod eich prentisiaeth ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn, gan ennill profiad mewn meysydd fel gwiriadau cydymffurfiaeth adeiladau, cefnogi gweithgareddau cynnal a chadw, rheoli contractwyr a thasgau eraill ar y safle.
Byddwch yn datblygu cysylltiadau gweithio da gyda chydweithwyr, cwsmeriaid a chontractwyr, ac yn cynnig gwasanaeth cwsmeriaid defnyddiol a chyfeillgar fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau Cyfleusterau.
Byddwch yn cefnogi gwaith gweinyddu sylfaenol Cyfleusterau, gan gynnwys mewnbynnu data yn gywir, diweddaru cofnodion, a defnyddio systemau TGCh dan arweiniad.
Byddwch yn helpu'r tîm i fodloni safonau iechyd, diogelwch a lles drwy ddilyn gweithdrefnau, nodi problemau, a rhoi gwybod i staff cymwys am bryderon.
Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o'ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs).
Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Oni nodir yn wahanol yn yr adran ‘Rôl’ yn yr hysbyseb hon, ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gynnig nawdd fisa ar gyfer y swydd hon. Er bod gennym drwydded ar gyfer nawdd fisa i Weithwyr Medrus, mae ond yn berthnasol i rolau penodol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a’r gofynion cyflog a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus.
Gofynion
Sgiliau
You should have basic ICT skills and the ability to learn new systems, as you will use digital tools and software to support tasks.
An awareness of how Facilities services are planned, delivered and improved, including health and safety, customer service, sustainability and building operations.
An interest in Facilities Management, property management, customer service or building maintenance is desirable, along with a willingness to develop your knowledge of health and safety in a workplace environment.
Good communication and interpersonal skills are important, as you will work closely with colleagues, contractors and customers to support day‑to‑day activities.
Cymwysterau
Bydd angen sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol arnoch, wedi'u hategu gan radd C / Lefel 2 TGAU (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg.
Trwydded yrru lawn y DU.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Training provider course:
- Rheoli Ystadau a Chyfleusterau Lefel 3
Ynglŷn â'r cyflogwr
Rivers House St Mellons Business Park St Mellons, CF3 0EY, Y Deyrnas Unedig
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar ar wythnos sy'n cychwyn 19 o Hydref 2026 ar Microsoft Teams.
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now