- Cyflogwr:
- Mon Motors Group
- Lleoliad:
- Mon Motors, Newhouse Farm Ind Estate, NP16 6UD, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Cyfraddau prentisiaethau
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Technoleg Ddigidol
- Llwybr:
- Defnyddiwr Digidol
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 05 October 2026
- Dyddiad cau:
- 30 September 2026
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 7221
Anfonwch eich CV drwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost. Defnyddiwch deitl y swydd wag fel pwnc yr e-bost.
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
• Darparu cymorth technegol llinell gyntaf i staff ar draws y busnes, gan ymateb i dasgau a dderbynnir, galwadau ac e-byst. Byddwch yn sicrhau bod materion yn cael eu cofnodi, eu blaenoriaethu a'u datrys yn brydlon er mwyn cynnal gwasanaeth effeithiol a chyson.
• Datrys problemau a TG cyffredin gan gynnwys problemau gyda chyfrifon defnyddwyr, cysylltedd dyfeisiau, gwallau yn y feddalwedd a namau i’r rhwydwaith / caledwedd. Byddwch hefyd yn riportio unrhyw broblemau i’r ail linell pan fo angen.
• Cynnal gwiriadau i’r system a chwblhau tasgau cynnal a chadw e.e. monitro dangosfyrddau, diweddaru offer diogelwch, a sicrhau bod dyfeisiau yn parhau i fod yn ddiogel, yn gweithio ac yn cyd-fynd â pholisïau TG.
• Cefnogi prosesau cynefino ac diweddu trwy baratoi cyfrifon defnyddwyr, ffurfweddu gliniaduron a dyfeisiau symudol, defnyddio cymwysiadau penodol a sicrhau bod gan staff y mynediad a'r offer cywir.
• Cynnal dogfennaeth a chofnodion asedau, diweddaru nodiadau am dasgau a gyflwynir, stocrestrau dyfeisiau, erthyglau gwybodaeth, a chanllawiau gweithdrefnol i hwyluso’r broses o ddarparu gwasanaeth cyson a gwelliant parhaus.
• Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol trwy gyfathrebu'n glir â defnyddwyr, darparu arweiniad ar arferion gorau a sicrhau bod yr holl ryngweithiadau yn adlewyrchu proffesiynoldeb a dibynadwyedd yr adran TG.
Gofynion
Sgiliau
• Ymagwedd adddfwyn ac amyneddgar a’r gallu i ganolbwyntio ar y cwsmer wrth gefnogi cydweithwyr.
• Cyfathrebu'n glir ac yn hyderus gan esbonio materion technegol mewn termau syml i staff sydd â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth ddigidol.
• Sgiliau trefnu da iawn a’r gallu i reoli nifer o dsagau yn effeithiol, gan gynnal cywirdeb trwy ddefnyddio llygad dda am fanylder.
• Y gallu i arddangos meddylfryd rhagweithiol, cymryd perchnogaeth o faterion, rhagweld problemau posibl, a chwblhau tasgau.
• Y gallu i weithio ar y cyd â'r tîm TG ehangach ac adrannau eraill gan barhau i fod yn hygyrch, yn gefnogol ac yn ymrwymedig i gyflawni nodau a rennir.
• Addasu'n gyflym i dechnolegau, prosesau a heriau newydd, gan ddangos chwilfrydedd, brwdfrydedd, a pharodrwydd i ddysgu a datblygu.
• Y gallu i ddatrys problemau mewn ffordd rhesymegol chreadigol, gan aros yn wydn pan fyddwch yn wynebu materion anghyfarwydd neu gymhleth.
• Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gan gynrychioli'r adran TG mewn ffordd gyson, ddefnyddiol, gyfeillgar a gwasanaethol.
Cymwysterau
TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth a TG.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar drwydded yrru lawn o’r DU.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Training provider course:
- Sgiliau Busnes i Fusnesau (I’w gadarnhau)
Ynglŷn â'r cyflogwr
Mon Motors GroupMon Motors, Newhouse Farm Ind Estate, NP16 6UD, Y Deyrnas Unedig
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Wyneb yn wyneb; dyddiadau i’w trefnu.
Sut i wneud cais
E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon
Anfonwch eich CV drwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost. Defnyddiwch deitl y swydd wag fel pwnc yr e-bost.