- Cyflogwr:
- Cyngor Gwynedd
- Lleoliad:
- Shirehall St, LL551SH, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Isafswm cyflog cenedlaethol
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Grŵp Llandrillo Menai
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol
- Llwybr:
- Gwasanaethau Ariannol
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 15 October 2026
- Dyddiad cau:
- 28 August 2026
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 7163
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Prif Ddyletswyddau.
Prif bwrpas y gwasanaeth yw casglu trethi lleol yn effeithlon ac yn sensitif, prosesu ystod o fudd-daliadau’n gywir a phrydlon, darparu cymorth cymdeithasol i ddinasyddion, a chydweithio ag asiantaethau allanol i atal twyll ac adennill gordaliadau.
Mae’r rôl Prentis Trethi a Budd-daliadau yn gyfle i unigolyn trefnus ddysgu a datblygu sgiliau gweinyddol ac ariannol wrth weithio ar y rheng flaen i gefnogi gweinyddu a chasglu trethi lleol a budd-daliadau i drigolion Gwynedd.
Prif ddyletswyddau y rôl fydd i:
Derbyn hyfforddiant i lefel Swyddog Rheng Flaen Trethi a datblygu gwybodaeth o drethi lleol.
Gweithio ar wasanaeth rheng flaen i weinyddu a chasglu Treth Cyngor a Threthi Annomestig.
Ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd drwy lythyrau, ffôn, e-bost ac wyneb yn wyneb.
Prosesu ceisiadau i addasu cyfrifon, eithriadau, disgownts a chytundebau talu.
Cefnogi’r drefn adennill ôl-ddyledion a pharatoi dogfennau ar gyfer y llysoedd.
Cynorthwyo i asesu a gwirio ceisiadau Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor a budd-daliadau addysg.
Cefnogi’r gwaith o weinyddu ardoll Ardaloedd Gwella Busnes.
Cefnogi’r gwaith o gynnal systemau refeniw allweddol.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd y prentis yn derbyn cyflog sy’n unol â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes yma?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 12:00yp, DYDD GWENER 28/08/2026
Cofiwch ddilyn y canllawiau wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Cynnal cyflwyniadau ar 15/09/2026
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru
Am ragor o wybodaeth - https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships
Gofynion
Sgiliau
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Dangos yr ymddygiad ac agwedd cywir
Dangos ymrwymiad i'r gwaith
Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm
Cyfathrebu efo hyder
Yn barod i ddysgu pethau newydd ac i hunan wella
Yn barod i Herio.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf gan gyrraedd un ai:
4 TGAU gradd D neu uwch (gradd C neu uwch mewn mathemateg)
Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 cyfatebol (e.e. BTEC Cyntaf Lefel 2 Diploma).
DYMUNOL
-
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
-
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
-
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad – Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall – Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Cymwysterau
Wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf gan gyrraedd un ai:
4 TGAU gradd D neu uwch (gradd C neu uwch mewn mathemateg)
Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 cyfatebol (e.e. BTEC Cyntaf Lefel 2 Diploma).
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Ie
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Ie
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Grŵp Llandrillo Menai
- Training provider course:
- Gweinyddu Busnes Lefel 3
Ynglŷn â'r cyflogwr
Shirehall St, LL551SH, Y Deyrnas Unedig
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
I'w cynnal 15/09/26
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now