Skip to main content

Prentis TGCh

Cyflogwr:
Bishopston Comprehensive School
Lleoliad:
The Glebe, Bishopston, SA3 3JP, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Cyfraddau prentisiaethau
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Catapwlt
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Sector:
Technoleg Ddigidol
Llwybr:
Peiriannydd Seilwaith Digidol
Dyddiad cychwyn posibl:
19 January 2026
Dyddiad cau:
05 January 2026
Safbwyntiau ar gael:
1
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
6736

Peidiwch â gwneud cais am y swydd os oes gennych Radd mewn TG neu ddisgyblaeth debyg gan na fyddwch yn gymwys ar gyfer y swydd Brentisiaeth. Gofyniad Arbennig Rhaid i ddysgwyr fynychu sesiynau Catapwlt yn ystod gwyliau’r ysgol yn eu hamser eu hun. Mae'r swydd hon yn gofyn am wiriad Lefel Uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus lenwi ffurflen gais DBS cyn dechrau yn y swydd. Mae rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gael yn www.dbs.gov.uk a www.disclosure.gov.uk neu gan yr Uned AD, Ystafell G,1,5, Neuadd y Ddinas, Abertawe.

demi@catapwlt.co.uk


Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

• Sicrhau bod unrhyw weithgareddau yn cael eu cyflawni yn unol â deddfwriaeth Cyfle Cyfartal a Pholisi Cyfle Cyfartal Dinas a Sir Abertawe.
• Trin data personol yn unol â deddfwriaeth GDPR y DU a pholisïau’r ysgol.
• Cyflawni’r cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch Personol a gynhwysir yn HASAWA 1974.
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn gymesur â gradd y swydd.
• Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i weithredu newidiadau mewn swydd-ddisgrifiadau i adlewyrchu newidiadau o ran gofynion y swydd a bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy ymgynghori â chi
Cymorth i Ddisgyblion:
• Darparu cymorth rheng-flaen ar gyfer staff a myfyrwyr ar draws dyfeisiau Windows, perifferolion a thechnolegau’r ystafell ddosbarth.
• Cynnal cofnodion cymorth cywir, uwchgyfeirio’n briodol a thracio tan adeg datrys.
• Cefnogi disgyblion wrth gael mynediad i weithgareddau dysgu yn unol â chyfarwyddiadau’r Rheolwr Rhwydweithiau.
• Cefnogi disgyblion sydd eisiau argraffu neu sganio dogfennau.
• Cyflwyno arfau newydd: Dangos disgyblion sut i ddefnyddio apiau addysgol neu blatfformau’n effeithiol.
• Sicrhau iechyd, diogelwch ac ymddygiad da disgyblion drwy’r amser yn y Ganolfan Ddysgu.
Cymorth i Athrawon:
• Paratoi cyfarpar/adnoddau a deunydd yn brydlon ac yn gywir yn unol â’r cyfarwyddiadau.
• Cadw cofnodion sylfaenol dan gyfarwyddyd.
• Cynorthwyo’r athro gyda gweithgareddau dysgu gan sicrhau iechyd a diogelwch disgyblion.

Gwybodaeth ychwanegol

Cymorth i'r Ysgol
• Bod yn ymwybodol a chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â diogelu plant, iechyd, diogelwch a chyfrinachedd, gan gyfeirio unrhyw bryderon at unigolyn perthnasol,
• Sicrhau eich bod yn cynnal amgylchedd glan a threfnus.
• Cynorthwyo gyda Phrofion Dyfeisiau Cludadwy (PAT).
• Bod yn ymwybodol a chefnogi gwahaniaeth a sicrhau bod gan yr holl ddisgyblion fynediad cyfartal i gyfleoedd i ddysgu a datblygu.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Gwerthfawrogi a chefnogi rôl gweithwyr proffesiynol eraill.
• Mynychu cyfarfodydd perthnasol yn ôl y gofyn.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a datblygu perfformiad yn ôl y galw.
• Darparu cymorth technegol a chyngor i staff a disgyblion wrth ddefnyddio meddalwedd a chaledwedd yn ystod arholiadau/asesiadau rheoledig.
• Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddisodli ac atgyweirio offer.
• Cynorthwyo gyda chofnodi’n ddigidol archebu adnoddau’r llyfrgell.

Gofynion

Sgiliau

Gwybodaeth/Sgiliau:
• Gallu i ddefnyddio technoleg berthnasol e.e. systemau gweithredu Windows a Mac.
• Cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi.
• Gallu i ymgysylltu â phlant ac oedolion.
• Gwybodaeth am gymorth cyntaf sylfaenol fel y bo’n briodol.
• Gwybodaeth am bolisïau/codau ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
• Gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm

Cymwysterau

TGAU (neu gyfwerth) mewn Mathemateg a Saesneg Gradd A*-C/Lefel 2
Byddai rhai cymwysterau neu ddealltwriaeth o TG o fantais.

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
Na
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
Na

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Catapwlt
Training provider course:
Prentisiaeth Lefel 3 Peiriannydd Seilwaith Digidol

Ynglŷn â'r cyflogwr

Bishopston Comprehensive School
The Glebe
Bishopston
Swansea
Swansea
SA3 3JP

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Os byddwch yn llwyddiannus, fe'ch gwahoddir yn y lle cyntaf i asesiad yn ‘Catapwlt’ (dros Teams) i gadarnhau cymhwyster - sicrhewch fod gennych brawf adnabod ac unrhyw dystysgrifau perthnasol ar gael. Bydd cais yn cael ei anfon atoch trwy Blatfform Digidol Smart Assessor Catapwlt ac mae’n ofyniad gorfodol i fynychu ein Sesiwn Ymwybyddiaeth i Brentisiaid.

Sut i wneud cais

E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon

Peidiwch â gwneud cais am y swydd os oes gennych Radd mewn TG neu ddisgyblaeth debyg gan na fyddwch yn gymwys ar gyfer y swydd Brentisiaeth. Gofyniad Arbennig Rhaid i ddysgwyr fynychu sesiynau Catapwlt yn ystod gwyliau’r ysgol yn eu hamser eu hun. Mae'r swydd hon yn gofyn am wiriad Lefel Uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus lenwi ffurflen gais DBS cyn dechrau yn y swydd. Mae rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gael yn www.dbs.gov.uk a www.disclosure.gov.uk neu gan yr Uned AD, Ystafell G,1,5, Neuadd y Ddinas, Abertawe.

demi@catapwlt.co.uk