Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu

Framework:
Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu
Lefel:
3/4

This pathway is suitable for apprentices wishing to become a Telecoms Professional

Opsiynau a lefelau llwybrau

Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu

Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu 

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 3: 21 mis

Lefel 4: 24 mis

Llwybrau dilyniant

Llwybrau dilyniant i Brentisiaeth Lefel 3: 

 

Gellid symud ymlaen i'r Brentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 3 yn syth o  gymwysterau galwedigaethol neu brentisiaethau cysylltiedig. Fel arall gellid cael mynediad yn syth o'r ysgol ar ôl ennill cymwysterau TGAU / Safon UG (neu gyfwerth), neu Gymwysterau Bagloriaeth Cymru.  

Efallai y bydd gan ymgeiswyr eraill brofiad perthnasol a'u bod yn ceisio cymhwyso drwy ddilyn rhaglen brentisiaeth.

Dilyniant o'r  Brentisiaeth Lefel 3: 

Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 3, gall prentisiaid llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 4 – neu barhau i weithio ac ymgymryd ag ystod o gymwysterau a hyfforddiant proffesiynol penodol i'r swydd. 

Efallai y bydd rhai prentisiaid yn dewis parhau â'u hastudiaethau technegol a chychwyn astudio cymwysterau proffesiynol/gwerthu swydd-benodol.

Llwybrau dilyniant i Brentisiaeth Lefel 4:

Gellid symud ymlaen i'r Brentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 4 yn syth o  Brentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 3 neu gymwysterau galwedigaethol neu brentisiaethau eraill cysylltiedig. Fel arall gellid cael mynediad yn syth o'r ysgol ar ôl ennill cymwysterau TGAU / Safon Uwch (neu gyfwerth), neu Gymwysterau Bagloriaeth Cymru.

Efallai y bydd gan ymgeiswyr eraill brofiad perthnasol a'u bod yn ceisio cymhwyso drwy ddilyn rhaglen brentisiaeth.

Dilyniant o'r  Brentisiaeth Lefel 4:

Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 4, gall prentisiaid llwyddiannus symud ymlaen i brentisiaethau gradd technoleg ddigidol mewn maes perthnasol - neu barhau i weithio ac ymgymryd ag ystod o gymwysterau a hyfforddiant proffesiynol penodol i'r swydd.

Efallai y bydd rhai prentisiaid yn dewis parhau â'u hastudiaethau technegol a chychwyn astudio cymwysterau proffesiynol/gwerthu swydd-benodol.

Cymwysterau

Diploma Pearson BTEC Lefel 3 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Thelathrebu (Cymru)

Pearson BTEC Tystysgrif Lefel 3 mewn Systemau ac Egwyddorion TGCh

Diploma Pearson BTEC Lefel 4 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Thelathrebu (Cymru)

Level 4 Higher National Certificate in Computing

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 3

Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y fframwaith hwn. 

Fodd bynnag, er mwyn cael mynediad i'r Brentisiaeth Lefel 3, argymhellir bod gan yr ymgeisydd TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch (neu gymwysterau cyfatebol).  

Lefel 4

Ar gyfer y Brentisiaeth Lefel 4, argymhellir bod gan yr ymgeisydd TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch o leiaf (neu gymwysterau cyfatebol) ynghyd â chymwysterau Lefel 3 perthnasol. Byddai'r rhain fel arfer yn cynnwys dau neu fwy o gymwysterau Safon Uwch, diplomâu cysylltiedig (neu NVQs) neu gymhwyster cyfwerth. 

Fodd bynnag, nid yw'r argymhellion hyn yn hanfodol. 

Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol ym maes technoleg ddigidol, ond nid yw hynny'n orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cyflenwi rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar gymwysterau cyfredol cymeradwy wedi'u teilwra i fodloni anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol. 

 

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

22 Medi 2025  
Next review due: 31 Rhagfyr 2028