- Framework:
- Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu
- Lefel:
- 3/4
This pathway is suitable for apprentices wishing to become a Telecoms Professional
Opsiynau a lefelau llwybrau
Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu
Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 3: 21 mis
Lefel 4: 24 mis
Llwybrau dilyniant
Llwybrau dilyniant i Brentisiaeth Lefel 3:
Gellid symud ymlaen i'r Brentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 3 yn syth o gymwysterau galwedigaethol neu brentisiaethau cysylltiedig. Fel arall gellid cael mynediad yn syth o'r ysgol ar ôl ennill cymwysterau TGAU / Safon UG (neu gyfwerth), neu Gymwysterau Bagloriaeth Cymru.
Efallai y bydd gan ymgeiswyr eraill brofiad perthnasol a'u bod yn ceisio cymhwyso drwy ddilyn rhaglen brentisiaeth.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 3:
Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 3, gall prentisiaid llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 4 – neu barhau i weithio ac ymgymryd ag ystod o gymwysterau a hyfforddiant proffesiynol penodol i'r swydd.
Efallai y bydd rhai prentisiaid yn dewis parhau â'u hastudiaethau technegol a chychwyn astudio cymwysterau proffesiynol/gwerthu swydd-benodol.
Llwybrau dilyniant i Brentisiaeth Lefel 4:
Gellid symud ymlaen i'r Brentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 4 yn syth o Brentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 3 neu gymwysterau galwedigaethol neu brentisiaethau eraill cysylltiedig. Fel arall gellid cael mynediad yn syth o'r ysgol ar ôl ennill cymwysterau TGAU / Safon Uwch (neu gyfwerth), neu Gymwysterau Bagloriaeth Cymru.
Efallai y bydd gan ymgeiswyr eraill brofiad perthnasol a'u bod yn ceisio cymhwyso drwy ddilyn rhaglen brentisiaeth.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 4:
Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 4, gall prentisiaid llwyddiannus symud ymlaen i brentisiaethau gradd technoleg ddigidol mewn maes perthnasol - neu barhau i weithio ac ymgymryd ag ystod o gymwysterau a hyfforddiant proffesiynol penodol i'r swydd.
Efallai y bydd rhai prentisiaid yn dewis parhau â'u hastudiaethau technegol a chychwyn astudio cymwysterau proffesiynol/gwerthu swydd-benodol.
Cymwysterau
Diploma Pearson BTEC Lefel 3 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Thelathrebu (Cymru)
Pearson BTEC Tystysgrif Lefel 3 mewn Systemau ac Egwyddorion TGCh
Diploma Pearson BTEC Lefel 4 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Thelathrebu (Cymru)
Level 4 Higher National Certificate in Computing
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 3
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y fframwaith hwn.
Fodd bynnag, er mwyn cael mynediad i'r Brentisiaeth Lefel 3, argymhellir bod gan yr ymgeisydd TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch (neu gymwysterau cyfatebol).
Lefel 4
Ar gyfer y Brentisiaeth Lefel 4, argymhellir bod gan yr ymgeisydd TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch o leiaf (neu gymwysterau cyfatebol) ynghyd â chymwysterau Lefel 3 perthnasol. Byddai'r rhain fel arfer yn cynnwys dau neu fwy o gymwysterau Safon Uwch, diplomâu cysylltiedig (neu NVQs) neu gymhwyster cyfwerth.
Fodd bynnag, nid yw'r argymhellion hyn yn hanfodol.
Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol ym maes technoleg ddigidol, ond nid yw hynny'n orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cyflenwi rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar gymwysterau cyfredol cymeradwy wedi'u teilwra i fodloni anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
Gweld llwybr llawn