- Cyflogwr:
- Carmarthenshire County Council
- Lleoliad:
- County Hall, Castle Hill, SA31 1JP, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Arall
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Lefel:
- Prentisiaeth Uwch (Lefel 4 a 5)
- Sector:
- Busnes a Rheoli
- Llwybr:
- Dehongli a Chyfieithu
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 28 July 2025
- Dyddiad cau:
- 06 July 2025
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6462
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Cwblhau cymhwyster perthnasol o fewn amserlenni a thargedau y cytunwyd arnynt i gynyddu sgiliau a gwella datblygiad personol
Cynorthwyo gyda’r gwaith o gyfieithu testun ar gyfer holl adrannau’r awdurdod, gan weithio yn unol â gweithdrefnau cytunedig yr Uned Gyfieithu, o dan gyfarwyddyd y Prif Gyfieithwyr.
Cynorthwyo i ddychwelyd cyfieithiadau i gleientiaid yn y fformat gofynnol gan ddefnyddio adnoddau TG yr Uned Gyfieithu a defnyddio’r system cof cyfieithu i gyfrannu at systemau gwaith effeithlon yr Uned Gyfieithu.
Cynorthwyo i sicrhau bod ceisiadau am waith yn cael eu trin mewn modd effeithiol o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt fel y nodir yn amodau gwasanaeth yr Uned.
Ymateb i ymholiadau ffôn, cyflawni dyletswyddau swyddfa megis anfon a derbyn dogfennau trwy e-bost mewnol a’r fewnrwyd, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau’n gyflym.
Ennill dealltwriaeth o Safonau’r Gymraeg a’u gweithrediad yn gysylltiedig â chyfieithu, megis fformat a dyluniad dogfennau, cyhoeddiadau ac arwyddion dwyieithog, terminoleg, adnoddau geiriadur ac ati.
Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl yr angen fel rhan o’r swydd a rôl strategol yr Uned Gyfieithu wrth weithredu Safonau’r Gymraeg.
Gwybodaeth ychwanegol
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:
• Cymhwyster Prentisiaeth mewn Ymarfer Cyfieithu gyda darparwr cefnogol. Bydd angen i chi fod yn 18 oed o leiaf i wneud cais am y rôl hon.
• Cytundeb 24 mis o fewn y tîm cyfieithu.
• Yr hyfforddiant a'r cymorth cywir i gyflawni'r rôl, bydd hyn yn cynnwys e-ddysgu ar-lein, hyfforddiant wyneb yn wyneb a chysgodi.
• Rhaglen sefydlu llawn a chefnogaeth barhaus gan eich rheolwr llinell a'r tîm.
• Cyfraddau cyflog cystadleuol (Cyflog Byw Cenedlaethol).
• Ar ddiwedd y contract cyfnod penodol, efallai y bydd cyfleoedd i gael eich penodi i rôl yn amodol ar argaeledd, addasrwydd, a pherfformiad unigol.
Gofynion
Sgiliau
Yn gofalu am eich lles eich hun a lles eich cydweithwyr - Rydych chi'n gweithio'n dda fel rhan o dîm, gan ystyried eich lles eich hun ac eraill.
Sefydlu perthynas dda ag unigolion - Rydych chi'n sefydlu parch ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr yn gyflym yn seiliedig ar onestrwydd a dibynadwyedd, gan feithrin perthnasoedd parhaol ag eraill.
Dilyn cyfarwyddiadau priodol - Rydych chi’n dilyn prosesau, a chanllawiau, gan herio mewn ffordd gadarnhaol os bydd problemau yn codi.
Yn barod i ddysgu a datblygu - Rydych chi'n chwilio am bethau newydd i’w dysgu ac yn chwilio am ffyrdd newydd o ddatblygu'ch hun a'ch sgiliau Cymraeg.
Yn monitro eich gwaith eich hun ac yn cynnal ansawdd - Rydych chi’n sicrhau bod y gwaith yn gywir a heb wallau.
Cyfathrebu'n dda ag eraill - Rydych chi’n cyfleu eich barn a’ch syniadau’n glir fel y gall eraill ddeall ac yn eu dewis iaith.
Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth cyfrinachedd a diogelu data (GDPR).
Dealltwriaeth o gyfieithu da.
Profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office.
Rydych chi bob amser yn chwilio am ffyrdd cadarnhaol o ddelio â phroblemau a chwilio am atebion.
Sgiliau rheoli amser ardderchog.
Profiad o weithio i derfynau amser tynn.
Agwedd hyblyg at newid blaenoriaethau a pharodrwydd i groesawu newid.
Gwybodaeth o Safonau’r Gymraeg.
Cymraeg Llafar Lefel 5, Ysgrifenedig Lefel 5
Saesneg Llafar Lefel 5, Ysgrifenedig Lefel 5
Cymwysterau
Gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg (neu’r cyfwerth) neu wedi cael profiad addas dros gyfnod o amser.
Gradd C neu uwch mewn Safon Uwch Cymraeg (iaith gyntaf)
Cwblhau Prentisiaeth Ymarfer Cyfieithu (Iaith Gymraeg) Lefel 4 - Prentisiaeth o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Ie
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Ie
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Training provider course:
- Ymarfer Cyfieithu (Iaith Gymraeg)
Ynglŷn â'r cyflogwr
Carmarthenshire County CouncilCounty Hall
Castle Hill
Carmarthen
Carmarthenshire
SA31 1JP
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Wyneb yn wyneb; dyddiadau i’w trefnu.
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now