Skip to main content

Llwybr

Dehongli a Chyfieithu

Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Busnes a Rheoli a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 11/03/2015 ACW Fframwaith Rhif. FR03339

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

59 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Dehongli.

52 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Cyfieithu.

Gofynion mynediad

Oherwydd lefel a chymhlethdod y Llwybr Prentisiaeth hwn, mae'n hanfodol i ddysgwyr feddu ar isafswm o sgiliau iaith wrth gychwyn y Llwybr. Gellir dangos hyn drwy un o'r canlynol:

  • Safon Uwch gradd C o leiaf yn yr iaith a ddewisir neu gymhwyster cyfwerth (Diploma Estynedig BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol Iaith Uwch - isafswm o 5)
  • Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru (craidd plws prif ddysgu) gan lwyddo yn y Craidd ac mewn Safon Uwch iaith
  • ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Lefel 3 y FfCCh mewn ieithoedd modern
  • ennill Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Chymhwyster Prif Ddysgu, â themâu iaith sylfaenol

Anogir darparwyr a chyflogwyr i dderbyn tystiolaeth arall briodol yn lle Cymwysterau wrth gael mynediad i'r brentisiaeth hon, er mwyn sicrhau mynediad teg i rai ag arddulliau dysgu amrywiol. Mae'r rhain yn cynnwys gwirfoddoli, cyflogaeth, portffolios o dystiolaeth a chwblhau cyrsiau heb eu hachredu.

Bydd yn rhaid i ddarpar brentisiaid allu dangos bod ganddynt lefel briodol o sgiliau iaith yn eu hieithoedd ffynhonnell a tharged. Ar gyfer dehonglwyr, mae angen i'r sgiliau hyn fod yn sgiliau llafar, ac ar gyfer cyfieithwyr mae angen i'r sgiliau fod yn ysgrifenedig.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 4: Dehongli

Lefel 4: Dehongli Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.

Lefel 4 Diploma Ymarfer Dehongli
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/0708/8 601/5765/3 41 410 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4: Dehongli Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4: Dehongli 336 186
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Diploma Lefel 4 Ymarfer Dehongli - 41 credyd/201 o oriau

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer Llwybr hwn yw 522 o oriau.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Cyfieithu

Lefel 4: Cyfieithu Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.

Lefel 4 Tystysgrif mewn Ymarfer Cyfieithu
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/0708/7 601/5761/6 34 340 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4: Cyfieithu Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cyfathrebu 2 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4: Cyfieithu 303 170
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Diploma Lefel 4 Ymarfer Cyfieithu - 34 credyd/185 Awr

Cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Llwybr hwn yw 473 o oriau.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Amh.

Dilyniant

Lefel 4: Dehongli

Oherwydd yr amrywiaeth o ran cefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith blaenorol prentisiaid, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r brentisiaeth uwch Dehongli hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:

  • ennill Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh ar Lefel 3 mewn iaith a ddewisir
  • ennill cymwysterau Safon Uwch
  • ennill Diploma Estynedig
  • ennill cymhwyster Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys llwyddo yn yr elfen Graidd
  • gweithio mewn rolau cymorth dehongli

Bydd angen i ddysgwyr fodloni gofynion mynediad y Llwybr er mwyn symud ymlaen i'r Brentisiaeth Uwch Dehongli.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Uwch Dehongli

Gall prentisiaid sy'n dymuno datblygu eu gyrfa ddehongli ac ennill cydnabyddiaeth broffesiynol symud ymlaen i:

  • ystod o gymwysterau proffesiynol yn gysylltiedig â rheoli neu ddehongli ar lefel 5 ac uwch
  • cymwysterau dehongli neu iaith addysg uwch, gan gynnwys Graddau neu Raddau Meistr mewn prifysgol
  • cydnabyddiaeth broffesiynol drwy gymwysterau arbenigol, fel dehongli i'r Heddlu, mewn gwasanaethau cyhoeddus neu mewn cynadleddau

Gyda chymwysterau a phrofiad ychwanegol, bydd prentisiaid yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau uwch a mwy proffesiynol . Efallai y byddant hefyd yn ennill statws ac yn dod yn aelodau o gyrff dehongli proffesiynol ac yn ennill cydnabyddiaeth broffesiynol.

Lefel 4: Cyfieithu

Oherwydd yr amrywiaeth o ran cefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith, gellir defnyddio nifer o lwybrau i symud ymlaen i'r brentisiaeth uwch Cyfieithu hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:

  • ennill Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh ar Lefel 3 mewn iaith a ddewisir
  • ennill cymwysterau Safon Uwch
  • ennill Diploma Estynedig
  • ennill cymhwyster Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys llwyddo yn yr elfen Graidd
  • gweithio mewn rolau cymorth dehongli

Bydd angen i ddysgwyr fodloni gofynion mynediad y Llwybr er mwyn symud ymlaen i'r Brentisiaeth Uwch Cyfieithu.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Uwch Cyfieithu

Gall prentisiaid sy'n dymuno datblygu eu gyrfa yn y byd cyfieithu ac ennill cydnabyddiaeth broffesiynol symud ymlaen i:

  • amrywiaeth o gymwysterau cyfieithu proffesiynol, neu gymwysterau'n gysylltiedig â chyfieithu ar lefel 5 ac uwch
  • cymwysterau cyfieithu neu iaith addysg uwch, gan gynnwys Graddau neu Raddau Meistr mewn prifysgol
  • cydnabyddiaeth broffesiynol drwy feysydd arbenigol fel llenyddiaeth, y gyfraith, meddygaeth, gwyddoniaeth neu wleidyddiaeth

Gyda chymwysterau a phrofiad ychwanegol, bydd prentisiaid yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau uwch a mwy proffesiynol . Efallai y byddant hefyd yn ennill statws ac yn dod yn aelodau o gyrff cyfieithu proffesiynol ac yn ennill cydnabyddiaeth broffesiynol.

Bydd prentisiaid yn gweithio mewn rolau swydd fel is-ddehonglydd neu is-gyfieithydd.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny

Mae'n anodd canfod gwybodaeth ddibynadwy yn gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y galwedigaethau dehongli a chyfieithu. Fodd bynnag, gellir dod i rai casgliadau'n seiliedig ar natur y rolau swydd. Gan fod rolau swydd dehonglydd a chyfieithydd yn golygu defnyddio amryw o ieithoedd (gan amryw o ymarferwyr), mae'n naturiol y bydd yn denu unigolion a chanddynt ieithoedd brodorol gwahanol ac, yn sgil hynny, unigolion o gefndiroedd cenedlaethol, ethnig neu hiliol gwahanol.

Yn ogystal â hyn, gan fod tuedd i waith yn y maes hwn fod yn waith contract neu hunangyflogedig, neu'n waith wedi'i drefnu drwy asiantau - ychydig o ddehonglwyr a chyfieithwyr sy'n gweithio'n llawnamser - gellid galluogi cyflogaeth i ferched yn y maes hwn; gall amlygrwydd y math hwn o waith alluogi merched i daro cydbwysedd rhwng gofal plant a bywyd teulu a gyrfa.

Fodd bynnag, mae cyflogaeth yn y meysydd hyn yn y gorffennol wedi deillio'n bennaf o gyfnod yn astudio mewn Sefydliadau Addysg Uwch hyd at lefel ôl-radd. Gallai hyn achosi anfantais i rai unigolion, a allai ystyried bod y ddyled a ddaw yn sgil astudio mewn prifysgol yn anfforddiadwy. Gall y brentisiaeth hon ehangu mynediad i'r proffesiynau hyn, drwy gynnig llwybr lle gall prentisiaid ennill wrth ddysgu.

Bydd y brentisiaeth hon yn cefnogi datblygiad sgiliau dehongli a chyfieithu ar draws pob grŵp oedran a rhyw, drwy gynnig llwybr mynediad newydd a di-rwystr i rolau dehongli a chyfieithu.

Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol er mwyn annog a hwyluso talent mewn cyfres amrywiol o unigolion. Nid yw'r amodau er mwyn cael mynediad i'r brentisiaeth hon yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolion, ac mae'r brentisiaeth ar agor ac yn hygyrch i bob darpar brentis, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion mynediad cyffredinol.

Bydd mentora hefyd yn cael ei hyrwyddo o fewn y brentisiaeth, er mwyn cynnig cymorth ychwanegol a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn aros.

Bydd Instructus Skills yn monitro cyflawniad a'r defnydd o'r holl brentisiaethau, a bydd yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n atal defnydd a chyflawniad.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Ceir rhagor o wybodaeth gan: Medr

Atodiad 1 Dehongli - Lefel 4

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'r Diploma Lefel 4 Ymarfer Dehongli yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth.

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau isafswm o 41 credyd, pob un ohonynt o unedau gorfodol.

Bydd y gofyniad am o leiaf 10 credyd yn y FfCCh ar gyfer yr elfen wybodaeth a 10 credyd

 ar gyfer yr elfen cymhwysedd yn cael ei gwblhau drwy'r unedau gorfodol. Drwy gwblhau'r unedau gorfodol bydd y prentis yn cyflawni 15 credyd ar gyfer cymhwysedd a 26 credyd ar gyfer gwybodaeth:

  • Moeseg wrth ymarfer dehongli a chyfieithu (9 credyd gwybodaeth)
  • Egwyddorion defnyddio ac amrywio iaith (6 chredyd gwybodaeth)
  • Datblygu a chynnal sgiliau dehongli (2 gredyd cymhwysedd; 2 gredyd gwybodaeth)
  • Paratoi am gomisiynau dehongli (2 gredyd cymhwysedd; 2 gredyd gwybodaeth)
  • Dehongli un a dwyffordd (4 credyd cymhwysedd; 4 credyd gwybodaeth)
  • Gwella eich perfformiad eich hun fel dehonglydd (4 credyd cymhwysedd; 1 credyd gwybodaeth)
  • Gweithio mewn tîm o ddehonglwyr (3 chredyd cymhwysedd; 2 gredyd gwybodaeth)

Yn rhan o'r gofynion tystiolaeth ar gyfer ardystio Cwblhau Prentisiaeth, rhaid uwchlwytho copi o ffurflen Hawlio Tystysgrif Prentis gyfredol wedi'i llenwi i ACW.

(http://acwcerts.co.uk).

Sylwer: bod yn rhaid i'r rhai sydd eisoes wedi ennill cymwysterau cymhwysedd ac/neu wybodaeth cyn y Brentisiaeth hon ddewis opsiynau a fydd yn cynnig cyfleoedd dysgu a sgiliau newydd.

Atodiad 2 Cyfieithu - Lefel 4

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'r Diploma Lefel 4 Ymarfer Cyfieithu yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth.

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau isafswm o 34 credyd, bob un ohonynt o unedau gorfodol.

Bydd y gofyniad am o leiaf 10 credyd yn y FfCCh ar gyfer yr elfen wybodaeth a 10 credyd

 ar gyfer yr elfen cymhwysedd yn cael ei gwblhau drwy'r unedau gorfodol. Drwy gwblhau'r unedau gorfodol a ganlyn, bydd y prentis yn ennill 12 credyd ar gyfer cymhwysedd a 22 credyd ar gyfer gwybodaeth:

  • Moeseg wrth ymarfer dehongli a chyfieithu (9 credyd gwybodaeth)
  • Egwyddorion defnyddio ac amrywio iaith (6 chredyd gwybodaeth)
  • Datblygu a chynnal sgiliau cyfieithu (3 chredyd cymhwysedd; 2 gredyd gwybodaeth)
  • Rheoli comisiynau cyfieithu (3 chredyd cymhwysedd)
  • Cyfieithu testunau ysgrifenedig (4 credyd cymhwysedd; 3 chredyd gwybodaeth)
  • Gwella eich perfformiad eich hun fel cyfieithydd (2 gredyd cymhwysedd; 2 gredyd gwybodaeth)

Yn rhan o'r gofynion tystiolaeth ar gyfer ardystio Cwblhau Prentisiaeth, rhaid uwchlwytho copi o ffurflen Hawlio Tystysgrif Prentis gyfredol wedi'i llenwi i ACW.

(http://acwcerts.co.uk).

Sylwer: bod yn rhaid i'r rhai sydd eisoes wedi ennill cymwysterau cymhwysedd ac/neu wybodaeth cyn y Brentisiaeth hon ddewis opsiynau a fydd yn cynnig cyfleoedd dysgu a sgiliau newydd.


Diwygiadau dogfennau