- Cyflogwr:
- Carmarthenshire County Council
- Lleoliad:
- County Hall, Castle Hill, SA31 1JP, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Arall
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Technoleg Ddigidol
- Llwybr:
- Dadansoddeg Data
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 28 July 2025
- Dyddiad cau:
- 06 July 2025
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6457
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Gweithio gyda'r tîm Dysgu a Datblygu i gyflwyno prosiectau dysgu digidol.
Helpu i ddylunio a threfnu deunyddiau dysgu digidol, fel modiwlau e-ddysgu ac ystafelloedd dosbarth rhithwir sy'n gwneud dysgu'n ddeniadol ac yn effeithiol.
Helpu i sicrhau bod y System Profiad Dysgu a Rheolaeth [LXP/LMS] yn rhedeg yn esmwyth a’i haddasu i fod yn hawdd ei defnyddio ac yn ddeniadol i staff.
Helpu gydag ymholiadau a materion LXP/LMS, rhoi arweiniad i ddefnyddwyr a chyfeirio problemau mwy cymhleth i staff uwch.
Cyfathrebu â staff ar draws y Cyngor i ddeall eu hanghenion dysgu a'u hatebion cymorth, mewn sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Coladu a dadansoddi data er mwyn gwella ein hatebion dysgu digidol a chreu adroddiadau ar y defnydd o systemau ac ymgysylltu â dysgwyr.
Cadw i fyny â thechnolegau newydd a thueddiadau dysgu digidol i wella gwasanaethau.
Cynorthwyo staff uwch i gynnal systemau, megis LXP/LMS, System Adnoddau Dynol/Cyflogres ac offer creu cynnwys e.e. Articulatel i sicrhau dibynadwyedd.
Dilyn protocolau cyfrinachedd yn y swyddfa.
Cyflawni dyletswyddau eraill i gefnogi gweithrediadau dyddiol y Tîm Digidol Gwasanaethau Dysgwyr a chefnogi egwyddorion gofal cwsmer da yn llawn.
Gwybodaeth ychwanegol
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:
• Byddwn yn sicrhau croeso cynnes i chi i'n tîm o'r funud y byddwch yn dechrau.
• Cytundeb 2 flynedd o fewn ein tîm.
• Rhaglen sefydlu llawn a chefnogaeth barhaus gan eich rheolwr llinell a'r tîm.
• Cyfraddau cyflog cystadleuol (Cyflog Byw Cenedlaethol).
• Ymgymryd â chymhwyster perthnasol gyda darparwr cefnogol.
• Yr hyfforddiant a'r cymorth cywir i gyflawni'r rôl, bydd hyn yn cynnwys e-ddysgu ar-lein, hyfforddiant wyneb yn wyneb a chysgodi.
• Ar ddiwedd y contract cyfnod penodol, efallai y bydd cyfleoedd i gael eich penodi i rôl yn amodol ar argaeledd, addasrwydd, a pherfformiad unigol.
Gofynion
Sgiliau
Un Tîm yn Addasu i newidiadau - Gallwch addasu i newidiadau yn y gwaith neu’r amgylchedd, gan barhau i fod yn effeithiol ac yn gadarnhaol.
Rhoi’r Cwsmer yn Gyntaf i sefydlu perthynas dda ag unigolion - Rydych chi'n sefydlu parch ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr yn gyflym yn seiliedig ar onestrwydd a dibynadwyedd, gan feithrin cysylltiadau parhaol ag eraill.
Uniondeb wrth ddilyn cyfarwyddiadau priodol - Rydych chi’n dilyn prosesau, a chanllawiau, gan herio mewn ffordd gadarnhaol os bydd problemau yn codi.
Rhagoriaeth i gynhyrchu amrywiaeth o atebion i broblemau - Rydych chi’n mabwysiadu ymagwedd gadarnhaol at ddelio â phroblemau a dod o hyd i ffyrdd o nodi atebion addas.
Cymryd cyfrifoldeb, monitro’ch gwaith eich hun a chynnal ansawdd - Rydych chi’n sicrhau bod y gwaith yn gywir a heb wallau.
Gwrando, cyfathrebu'n dda ag eraill - Rydych chi’n cyfleu eich barn a’ch syniadau’n glir fel y gall eraill ddeall ac yn eu dewis iaith.
Sgiliau TG gan gynnwys bod yn gyfarwydd â Microsoft Office a meddalwedd arall.
Profiad – gallu datrys problemau,
Rhinweddau personol – Diddordeb cyffredinol mewn adeiladu cynnwys digidol, cyrsiau ar-lein a dysgu rhithwir.
Meini Prawf Dymunol – Profiad gwaith mewn creu cynnwys ar-lein.
Cymwysterau
Gradd D ac uwch ar lefel TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg, neu’r cyfwerth.
I gwblhau prentisiaeth FfCCh Lefel 3 mewn cymhwyster perthnasol o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Ie
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Ie
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Training provider course:
- Dadansoddwr Data
Ynglŷn â'r cyflogwr
Carmarthenshire County CouncilCounty Hall
Castle Hill
Carmarthen
Carmarthenshire
SA31 1JP
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Wyneb yn wyneb; dyddiadau i’w trefnu.
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now