a
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/09/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR05087
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
• Cymwysterau,
• Sgiliau Hanfodol
• Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
124 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 - Dadansoddeg Data.
Gofynion mynediad
Lefel 4: Dadansoddeg Data
Nid oes unrhyw ofynion penodol er mwyn cael mynediad i'r llwybr hwn.
Yn gyffredinol, fodd bynnag, dylai dysgwyr feddu ar gymwysterau (neu brofiad cyfatebol) ar lefel is na'r dyfarniad. Er enghraifft, efallai y bydd gan ymgeiswyr gymhwyster FfCChC lefel 3. Fel arall, efallai y bydd yr ymgeisydd wedi llwyddo i gwblhau Prentisiaeth Uwch ar Lefel 3 FfCChC.
Nid yw'n ofyniad llym bod yn rhaid i ddysgwyr feddu ar gymwysterau Cyfrifiadura neu TG cyn dilyn y llwybr hwn, ond oherwydd gofynion gwybyddol y cymhwyster tanategol, mae'n annhebygol y bydd ymgeiswyr yn llwyddo i gwblhau'r llwybr heb rywfaint o wybodaeth am gyfrifiaduron a phrofiad ohonynt ac/neu brawf o sgiliau deallusol ar lefel briodol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 4: Dadansoddeg Data
Lefel 4: Dadansoddeg Data Cymwysterau
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Lefel 4 - Diploma mewn Dadansoddeg Data | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Agored Cymru | C00/0772/1 601/8456/5 | 124 | 1240 | Cymhwysedd | Cymraeg-Saesneg |
Yn Atodiad 1 esbonnir y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 4: Dadansoddeg Data | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 4: Dadansoddeg Data | 285 | 480 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
124 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Lefel 4 - Diploma mewn Dadansoddeg Data (Cyfun).
765 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Uwch Dadansoddeg Data, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol
Data Analyst
Transforming, validating or modeling data with the purpose of understanding or making conclusions from the data for decision making purposes
Data Engineer
Preparing data for analytical or operational uses. Designing and building data pipelines to bring together information from different source systems. Integrating, consolidating, cleansing and structuring data into easily accessible and usable formats.
Data Manager
Management of large, highly dynamic data sets, often referred to as ‘Big Data’. The data will be derived from a range of sources and can relate to contexts including business and scientific or social research.
Dilyniant
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 4 hon:
Ar ôl cwblhau llwybr Prentisiaeth Uwch Lefel 4, bydd prentisiaid yn gallu cwblhau astudiaethau gwybodaeth dilynol a symud ymlaen i gwblhau rhaglenni gradd Anrhydedd llawn.
Cymwysterau rôl-benodol eraill a gydnabyddir gan y diwydiant:
Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Prosiect (PRINCE2, MSP, PMI, APM ac Agile)
- Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Gwasanaeth (hyfforddiant ITIL, SDI ac ISO/IEC 2000)
- Hyfforddiant Rheoli a Datblygiad Personol
Amrywiaeth eang o hyfforddiant ar dechnoleg craidd a hyfforddiant gwerthwr - sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant.
Bydd rhai cymwysterau'n rhoi'r hawl i fod yn aelod o sefydliad proffesiynol, gan gynnig cyfleoedd i rwydweithio a datblygu gyrfa. Er enghraifft, dod yn aelod o'r sefydliadau proffesiynol a ganlyn.
- Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS)
- Y Sefydliad Peirianneg
- Technoleg (IET)
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Nid oes unrhyw rwystrau o ran mynediad i'r llwybr Dadansoddeg Data, a bwriedir iddo gynnwys pob dysgwr waeth beth fo'i ryw, ei oedran, ei anabledd neu ei darddiad ethnig. Er mwyn bodloni gofynion dysgwyr, gellir defnyddio nifer o wahanol arddulliau dysgu i gyflwyno'r cynnwys sy'n ofynnol ar gyfer dysgu i ffwrdd o'r gwaith. Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r sector, a dyrchafiad o fewn y sector, ar sail y nodweddion gwarchodedig. Mae'r adrannau canlynol wedi'u cynnwys i ddisgrifio demograffeg cyfredol y gweithlu (Mae data'n cyfeirio at y DU gyfan ac at y sector TG a Thelathrebu cyfan, y mae Diogelwch Gwybodaeth yn rhan ohono) CYDRADDOLDEB RHYW Mae diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn broblem sylweddol o fewn y sector TG a Thelathrebu. O edrych ar rolau swydd proffesiynol ym maes TG a Thelathrebu ar draws yr holl sectorau, gostyngodd y gynrychiolaeth o ferched o 22% yn 2001 i 18% yn 2011. Dylid cymharu hyn â'r gyfran o 48% o ferched a geir yng ngweithlu cyfan y DU. Fel sy'n wir mewn diwydiant, mae'r diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau i weld yn amlwg ar draws cyrsiau'n gysylltiedig â TG, ac mae'n gwaethygu dros amser drwy'r holl system addysg. Merched yw 15% o ymgeiswyr ar gyrsiau gradd Cyfrifiadura, a 6.5% yw cyfran y merched a wnaeth sefyll Safon Uwch Cyfrifiadura yn 2013, a oedd 1.3 pwynt canran yn is nag yn 2012. Ceir sawl rheswm pam bod merched wedi'u tangynrychioli ar draws y sector TG a Thelathrebu, gan gynnwys:
OED Y GWEITHLU Mae dadansoddiad o'r cyfnod 2001-2011 yn dangos tuedd newidiol ym mhroffil oedran gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu. Gostyngodd cyfran y bobl 16-29 oed o 33% yn 2001 i 19% yn 2011. Amcangyfrifir mai 39 yw oed cyfartalog gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu sy'n gweithio yn y DU, o gymharu â 41 oed ar gyfer gweithwyr yn fwy cyffredinol. Mae ychydig llai na hanner (47%) y gweithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu yn 40 oed neu'n hŷn ac mae llai nag un o bob pump (19%) yn y grŵp oedran 16-29. Ffactor allweddol sy'n cyfrannu at y ddeinameg newidiol ym maes TG a Thelathrebu yw effaith globaleiddio. Bydd cynnal rhaglenni prentisiaeth cryf yn y sector yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gellir rhoi terfyn ar y duedd hon, neu ei gwrthdroi yn y blynyddoedd nesaf, gan sicrhau drwy hynny fod gan y sector gyflenwad o'r gweithwyr proffesiynol medrus sydd eu hangen arno i symud i rolau swydd lefel uwch mewn 5-10 mlynedd. ETHNIGRWYDD AC ANABLEDD Mae'r diwydiant technolegau gwybodaeth a chyfathrebu ymhlith diwydiannau mwyaf amrywiol y DU o ran ethnigrwydd, gyda 13% o'r gweithlu (cynnydd o gymharu ag 8% o'r gweithlu yn 2002) yn bobl Ddu, Asiaidd neu Leiafrifol Ethnig o gymharu â 9% ar draws yr economi gyfan. Ceir darpariaeth sylweddol i unigolion ag anableddau drwy'r holl sector TG a Thelathrebu gyda llawer o gyfleoedd amrywiol am yrfaoedd boddhaus ar bob lefel. Mae hyn yn ei dro'n golygu bod prentisiaethau ar gael mewn ystod eang o feysydd i rai â lefelau amrywiol o anabledd.
|
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Annex 1 Level 4: Data Analyst
Agored Cymru Level 4 Diploma in Data Analytics
The mandatory units of the combined qualification contain a total of 72 credits of which 30 credits relate to competence and 42 credits relate to knowledge.
Mandatory and optional units
Unit Title |
Level |
Credits |
Mandatory units: Minimum credits required: 72 |
|
|
Develop Own Effectiveness and Professionalism |
Four |
12 |
Principles of Data Management Infrastructure |
Four |
18 |
Data Analysis Tools |
Four |
18 |
Data Analysis: Data Science |
Four |
24 |
Optional units: Minimum credits required: 52 |
|
|
Statistical Analysis of Data Sets |
Four |
15 |
Investigating and Defining Customer Requirements for ICT Systems |
Four |
15 |
Principles of Information Governance and Assurance |
Three |
15 |
Testing IT & Telecoms Systems |
Four |
15 |
Testing the Security of Information Systems |
Four |
15 |
Advanced Data Representation and Manipulation for IT |
Three |
7 |
Data Management Infrastructure |
Four |
18 |
Programming for Data Analysis |
Four |
15 |