Skip to main content

Prentis Data a Pherfformiad

Cyflogwr:
Carmarthenshire County Council
Lleoliad:
County Hall, Castle Hill, SA31 1JP, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Arall
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Gower College Swansea
Lefel:
Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2)
Sector:
Technoleg Ddigidol
Llwybr:
Dadansoddeg Data
Dyddiad cychwyn posibl:
28 July 2025
Dyddiad cau:
06 July 2025
Safbwyntiau ar gael:
2
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
6456
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

Helpu gyda’r gwaith o fonitro, dadansoddi ac adrodd yn chwarterol ar ddata perfformiad y Cyngor a chynnig cymorth technegol i staff yn adrannau eraill y Cyngor sy’n defnyddio systemau gwybodaeth perfformiad.
Cefnogi, cynnal a diweddaru Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol.
Cynorthwyo i ymchwilio a dadansoddi data lleol a chenedlaethol o ffynonellau amrywiol i arwain gwaith cynllunio gwasanaethau a chorfforaethol y Cyngor.
Cefnogi, cyflwyno ac esbonio data a gwybodaeth perfformiad gan ddefnyddio meddalwedd delweddu data a deallusrwydd busnes.
Cyflawni tasgau cysylltiedig eraill yn ôl yr angen i gefnogi nodau'r Tîm Deallusrwydd Data a Pherfformiad.
Mynychu a chwblhau unrhyw gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus perthnasol.

Gwybodaeth ychwanegol

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:
• Byddwn yn sicrhau croeso cynnes i chi i'n tîm o'r funud y byddwch yn dechrau.
• Cytundeb 2 flynedd o fewn ein tîm.
• Rhaglen sefydlu llawn a chefnogaeth barhaus gan eich rheolwr llinell a'r tîm.
• Cyfraddau cyflog cystadleuol (Cyflog Byw Cenedlaethol).
• Ymgymryd â chymhwyster perthnasol gyda darparwr cefnogol.
• Yr hyfforddiant a'r cymorth cywir i gyflawni'r rôl, bydd hyn yn cynnwys e-ddysgu ar-lein, hyfforddiant wyneb yn wyneb a chysgodi.
• Ar ddiwedd y contract cyfnod penodol, efallai y bydd cyfleoedd i gael eich penodi i rôl yn amodol ar argaeledd, addasrwydd, a pherfformiad unigol.

Gofynion

Sgiliau

Un Tîm yn Addasu i newidiadau - Gallwch addasu i newidiadau yn y gwaith neu’r amgylchedd, gan barhau i fod yn effeithiol ac yn gadarnhaol.
Rhoi’r Cwsmer yn Gyntaf i sefydlu perthynas dda ag unigolion - Rydych chi'n sefydlu parch ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr yn gyflym yn seiliedig ar onestrwydd a dibynadwyedd, gan feithrin cysylltiadau parhaol ag eraill.
Uniondeb wrth ddilyn cyfarwyddiadau priodol - Rydych chi’n dilyn prosesau, a chanllawiau, gan herio mewn ffordd gadarnhaol os bydd problemau yn codi.
Rhagoriaeth i gynhyrchu amrywiaeth o atebion i broblemau - Rydych chi’n mabwysiadu ymagwedd gadarnhaol at ddelio â phroblemau a dod o hyd i ffyrdd o nodi atebion addas.
Cymryd cyfrifoldeb, monitro’ch gwaith eich hun a chynnal ansawdd - Rydych chi’n sicrhau bod y gwaith yn gywir a heb wallau.
Gwrando, cyfathrebu'n dda ag eraill - Rydych chi’n cyfleu eich barn a’ch syniadau’n glir fel y gall eraill ddeall ac yn eu dewis iaith.

Dealltwriaeth o offer a thechnegau delweddu data e.e. Excel, Power BI ac ati
Profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft.

Y gallu i ymateb yn gadarnhaol i amgylchiadau sy’n newid. Y gallu i weithio’n annibynnol ac yn hyblyg fel rhan o dîm. Sgiliau rheoli amser ardderchog

Gwybodaeth o Lywodraeth Leol. Dealltwriaeth o systemau gwybodaeth a meddalwedd mapio.

Cymraeg Llafar Lefel 3, Ysgrifenedig Lefel 3
Saesneg Llafar Lefel 4, Ysgrifenedig Lefel 4

Cymwysterau

Gradd C neu uwch ar lefel TGAU mewn Mathemateg, Saesneg a/neu Gymraeg.

I gwblhau prentisiaeth FfCCh Lefel 3 mewn cymwysterau perthnasol

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
Ie
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
Ie

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Gower College Swansea
Training provider course:
Dadansoddwr Data

Ynglŷn â'r cyflogwr

Carmarthenshire County Council
County Hall
Castle Hill
Carmarthen
Carmarthenshire
SA31 1JP

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Wyneb yn wyneb; dyddiadau i’w trefnu.

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now