- Cyflogwr:
- Carmarthenshire County Council
- Lleoliad:
- County Hall, Castle Hill, SA31 1JP, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Isafswm cyflog cenedlaethol
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Lefel:
- Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2)
- Sector:
- Technoleg Ddigidol
- Llwybr:
- Defnyddiwr Digidol
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 28 July 2025
- Dyddiad cau:
- 06 July 2025
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6455
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Cynorthwyo a chefnogi'r tîm uchod gyda thasgau gweinyddol cyffredinol, yn ôl yr angen.
Ymateb yn broffesiynol i ymholiadau gan y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol, drwy e-bost, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, gan benderfynu pryd i gynnwys swyddog uwch a chymryd/trosglwyddo negeseuon fel y bo’n briodol.
Helpu i ddelio â gohebiaeth fel y bo’n briodol.
Defnyddio systemau cyfrifiadurol yn gywir i fewnbynnu data a chynhyrchu adroddiadau sylfaenol, o fewn canllawiau penodol a gofynion amser; bydd hyn yn cynnwys mewnbynnu a thynnu data cywir o systemau gwybodaeth, a chewch hyforddiant i wneud hyn.
Cynhyrchu e-byst, llythyrau, cofnodion cyfarfodydd a gwybodaeth arall yn gywir yn ôl yr angen o fewn gofynion amser penodol.
Cyfathrebu'n dda o fewn y timau, rhannu gwybodaeth a gweithio ar y cyd ag eraill tuag at nodau cyffredin.
Gweithio i brotocolau cyfrinachedd y swyddfa.
Cwblhau cymhwyster FfCCh 2/3 mewn Gweinyddu Busnes o fewn amserlenni a thargedau y cytunwyd arnynt ac unrhyw hyfforddiant priodol arall.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n gysylltiedig â rhedeg yr adran yn effeithiol o ddydd i ddydd.
Gwybodaeth ychwanegol
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog gan gynnwys:
• Cyflog cystadleuol
• Cofrestru awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
• Hawl gwyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
• Mynediad i gymorth iechyd a lles staff
• Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
• Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e. cynllun beicio i’r gwaith
• Gweithio hyblyg a pholisïau cyfeillgar i deuluoedd
Gofynion
Sgiliau
Yn gofalu am eich lles eich hun a lles eich cydweithwyr - Rydych chi'n gweithio'n dda fel rhan o dîm, gan ystyried eich lles eich hun ac eraill.
Sefydlu perthynas dda ag unigolion - Rydych chi'n sefydlu parch ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr yn gyflym yn seiliedig ar onestrwydd a dibynadwyedd, gan feithrin perthnasoedd parhaol ag eraill.
Dilyn cyfarwyddiadau priodol - Rydych chi’n dilyn prosesau, a chanllawiau, gan herio mewn ffordd gadarnhaol os bydd problemau yn codi.
Yn barod i ddysgu a datblygu - Rydych chi'n chwilio am bethau newydd i’w dysgu ac yn chwilio am ffyrdd newydd o ddatblygu'ch hun a'ch sgiliau Cymraeg.
Yn monitro eich gwaith eich hun ac yn cynnal ansawdd - Rydych chi’n sicrhau bod y gwaith yn gywir a heb wallau.
Cyfathrebu'n dda ag eraill - Rydych chi’n cyfleu eich barn a’ch syniadau’n glir fel y gall eraill ddeall ac yn eu dewis iaith.
Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth cyfrinachedd a diogelu data (GDPR).
Meddu ar wybodaeth sylfaenol o becynnau Microsoft Office h.y. Word, Excel a PowerPoint.
Yn gallu darparu lefel uchel o wasanaeth cwsmeriaid.
Cymraeg Llafar Lefel 3, Ysgrifenedig Lefel 2
Saesneg Llafar Lefel 4, Ysgrifenedig Lefel 4
Cymwysterau
Gradd C neu uwch ar lefel TGAU mewn Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (neu’r cyfwerth).
I gwblhau Prentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 2 neu 3
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Ie
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Ie
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Gower College Swansea
- Training provider course:
- Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes
Ynglŷn â'r cyflogwr
Carmarthenshire County CouncilCounty Hall
Castle Hill
Carmarthen
Carmarthenshire
SA31 1JP
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Wyneb yn wyneb; dyddiadau i’w trefnu.
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now