- Cyflogwr:
- Rhondda Cynon Taf Council [RCT]
- Lleoliad:
- Ty Elai, Rhondda Cynon Taff CBC, Heol Dinas Isaf, East, Williamstown, CF40 1NY, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Isafswm cyflog cenedlaethol
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Coleg Y Cymoedd
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Gwasanaethau Adeiladu
- Llwybr:
- Surveying
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 01 September 2025
- Dyddiad cau:
- 29 May 2025
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6370
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Mae carfan Cynnal a Chadw Eiddo'r Cyngor am benodi unigolyn cryf ei gymhelliant a threfnus iawn sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu arbennig, sy'n rhoi sylw i'r manylion ac sy'n gweithio'n dda mewn tîm. A chithau'n Syrfëwr Adeiladu dan Brentisiaeth, byddwch chi'n cael y cyfle i gydweithio â charfan sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol.
Byddwch chi'n helpu i arolygu adeiladau i asesu cyflwr, mewnbynnu gwybodaeth i system meddalwedd Rheoli Asedau'r Cyngor, dylunio cynlluniau adeiladau gan ddefnyddio meddalwedd AutoCAD ac yn ymateb i ddiffygion adeiladu trwy ddysgu sut i benderfynu ar gamau gweithredu sydd eu hangen a chyfarwyddo contractwyr i wneud atgyweiriadau yn ôl yr angen.
Wrth i chi fynd trwy eich hyfforddiant byddwch chi'n cael y cyfrifoldeb i ymgymryd â phrosiectau gyda goruchwyliaeth a fydd yn gofyn am gyfathrebu â chleientiaid, arolygu safleoedd, dylunio, ysgrifennu manylebau, cynnal proses dendro gystadleuol, goruchwylio gwaith safle a rheoli cyllid prosiect.
Gofynion
Sgiliau
Bydd y swydd yn cynnig cyfle arbennig i weithio law yn llaw ag aelodau o staff profiadol, datblygu gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas ag adnewyddu/addasu adeiladau sy'n berthnasol i gynlluniau ymestyn/adnewyddu adeiladau, yn ogystal â darparu cyngor cynnal a chadw adweithiol i adrannau amrywiol y Cyngor. Bydd y prentis yn datblygu gwybodaeth a sgiliau a fydd yn mynd law yn llaw â datblygiad proffesiynol ac yn chwarae rhan bwysig mewn cefnogi gwaith darparu gwasanaeth o safon uchel ar gyfer adeiladau sawl cwsmer.
Cymwysterau
Rhaid i'r ymgeisydd feddu ar 5 TGAU gradd A i C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc gwyddonol, neu gymwysterau cyfatebol.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Coleg Y Cymoedd
- Training provider course:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (Arolygu Adeiladau)
Ynglŷn â'r cyflogwr
Ty Elai
Rhondda Cynon Taff CBC, Heol Dinas Isaf, East, Williamstown
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 1NY
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
TBC
Sut i wneud cais
Click the button below to apply for this vacancy
Apply now