Skip to main content

Gwneuthurwr ar Brentisiaeth

Cyflogwr:
Dudleys Aluminium Ltd
Lleoliad:
Dudleys Aluminium Ltd, Lamby Industrial Park, Wentloog Avenue, CF3 2EX, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Cyfraddau prentisiaethau
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Cardiff and Vale College
Lefel:
Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2)
Sector:
Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
Llwybr:
Gweithgynhyrchu Prosesau
Dyddiad cychwyn posibl:
01 May 2025
Dyddiad cau:
21 March 2025
Safbwyntiau ar gael:
5
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
6245

E-bostiwch CV at Pablo Shorney (pablo.shorney@dudleys.uk.com)

pablo.shorney@dudleys.uk.com


Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

Cynorthwyo gweithredwyr cynhyrchu gyda saernïo ffenestri, drysau a llenfuriau alwminiwm, gan gynnwys trefnu, labelu a dynodi deunyddiau. Cydosod fframiau, ynghyd â gosod eitemau metel ffenestri a drysau, gan gynnwys ategion, handlenni etc.


Paratoi a Chydosod

• Bydd prentisiaid yn dysgu derbyn deunyddiau o’r stoc ac yn gwirio rhestrau cydosod.
• Bydd prentisiaid yn dysgu darllen llawlyfrau Saernïo.
• Bydd prentisiaid yn dysgu marcio a labelu deunyddiau yn barod i’w paratoi.
• Bydd prentisiaid yn dysgu paratoi deunyddiau yn barod ar gyfer peiriannu.
• Bydd prentisiaid yn dysgu cydosod fframiau gan ddefnyddio peiriannau crimpio ffenestri, a gyda llaw gan ddefnyddio pinnau.
• Bydd prentisiaid yn dysgu ffitio eitemau metel ar fframiau gan ddefnyddio offer llaw a chwblhau’r cynnyrch gorffenedig.

Darllen Lluniadau a Thaflenni Cydosod

• Bydd prentisiaid yn dysgu darllen lluniadau manylion a gwedd.
• Bydd prentisiaid yn dysgu sut i ddarllen a defnyddio rhestrau cydosod.

Peiriannau ac Offer

Bydd prentisiaid yn dysgu sut i weithredu’r canlynol;
• Peiriant CNC.
• Llif pen dwbl.
• Plaen cafnu fertigol.
• Trawslif.
• Dril piler.
• Offer tyllu amrywiol.
• Crimpiwr Ffenest.
• Llif fylchu.
• Offer llaw amrywiol.

Gofynion

Sgiliau

Dealltwriaeth dda o gyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig
Yn gallu darllen/deall mesuriadau metrig. Sgiliau llaw da.

Cymwysterau

Cymwysterau TGAU sylfaenol - Gweithir tuag at gymwysterau yn ystod y brentisiaeth

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
Na
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
Na

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Cardiff and Vale College
Training provider course:
Diploma NVQ mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu

Ynglŷn â'r cyflogwr


Dudleys Aluminium Ltd, Lamby Industrial Park
Wentloog Avenue
Cardiff
Cardiff
CF3 2EX

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Cyfweliad ar y safle gyda’r Rheolwr Cynhyrchu, ynghyd â thaith o gwmpas y ffatri. Cynhelir cyfweliadau a theithiau o’r safle ar ddydd Mawrth 25ain Mawrth 2025.

Sut i wneud cais

E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon

E-bostiwch CV at Pablo Shorney (pablo.shorney@dudleys.uk.com)

pablo.shorney@dudleys.uk.com