Mae Cogent wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
113 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 2, Gweithgynhyrchu Prosesau - Gweithrediadau Prosesu.
178 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 3, Gweithgynhyrchu Prosesau – Gweithiwr Prosesau/Technegydd Prosesu Metelau.
203 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 3, Gweithgynhyrchu Prosesau - Cynnal a Chadw Peirianneg Brosesu.
Entry requirements
Bydd disgwyl i ymgeiswyr prentisiaeth fynychu cyfweliad gyda'r cyflogwr / darparwr hyfforddiant i asesu eu haddasrwydd ar gyfer ymuno â'r fframwaith. Mae'r cyfweliad yn gyfle i siarad yn uniongyrchol â'r ymgeisydd a thrafod dysgu a phrofiadau blaenorol unigolyn. O'r cyfweliad hwn, bydd y cyflogwr yn gallu penderfynu a yw ymgeisydd yn addas gan ddefnyddio rhai o'r canllawiau canlynol.
Lefel 2
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen Gweithgynhyrchu Prosesau yn agored i bawb sy'n 16 oed neu'n hŷn. Oherwydd y gystadleuaeth am leoedd, gall y sgiliau a'r priodoleddau canlynol sy'n berthnasol i weithio o fewn y diwydiannau gweithgynhyrchu prosesau gael eu hystyried fel rhan o'r broses ymgeisio;
- cymhelliant i lwyddo mewn diwydiant
- ymwybyddiaeth o ofynion y Brentisiaeth Sylfaen
- parodrwydd i gydymffurfio â thelerau ac amodau cyflogaeth y cyflogwr/darparwr hyfforddiant
- yn meddu ar y gallu i gymhwyso dysgu yn y gweithle
- parodrwydd i weithio gan roi sylw priodol i Iechyd a Diogelwch eich hun ac eraill
- cyfathrebu effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
Gellir defnyddio'r enghreifftiau canlynol o dystiolaeth i gefnogi rhai o'r datganiadau uchod, megis;
- profiad gwaith neu gyflogaeth flaenorol neu
- gwaith gwirfoddol neu gymunedol neu
- cymwysterau TGAU (A*-E) neu gymwysterau cyfatebol mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth neu
- Cymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru (Diploma Sylfaen/ Canolradd) mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch neu
- Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomâu mewn diwydiant cysylltiedig megis Gwyddoniaeth neu Beirianneg; neu
- prawf o gwblhau cyrsiau heb eu hachredu.
Lefel 3
Mae'r Brentisiaeth Gweithgynhyrchu Prosesau yn agored i bawb sy'n 16 oed neu'n hŷn. Oherwydd y gystadleuaeth am leoedd, gall y sgiliau a'r priodoleddau canlynol sy'n berthnasol i weithio yn y diwydiannau gweithgynhyrchu prosesau gael eu hystyried fel rhan o'r broses ymgeisio;
- cymhelliant i lwyddo mewn diwydiant
- ymwybyddiaeth o ofynion y Brentisiaeth
- parodrwydd i gydymffurfio â thelerau ac amodau cyflogaeth y cyflogwr/darparwr hyfforddiant
- yn meddu ar y gallu i gymhwyso dysgu yn y gweithle
- parodrwydd i weithio gan roi sylw priodol i Iechyd a Diogelwch eich hun ac eraill
- cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
Gellir defnyddio'r enghreifftiau canlynol o dystiolaeth i gefnogi rhai o'r datganiadau uchod, megis;
- dilyniant o Brentisiaeth Sylfaen Gweithgynhyrchu Prosesau neu Brentisiaeth
- Sylfaen mewn disgyblaeth gysylltiedig neu
- profiad gwaith neu gyflogaeth flaenorol neu
- gwaith gwirfoddol neu gymunedol neu
- cymwysterau TGAU (A*-C) neu gymwysterau cyfatebol mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth neu
- Cymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru (Diploma Canolradd/Uwch) mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch neu Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomâu mewn diwydiant cysylltiedig megis Gwyddoniaeth neu Beirianneg; neu
- prawf o gwblhau cyrsiau heb eu hachredu.
Dylai pob ymgeisydd Prentisiaeth Sylfaen/ Prentisiaeth fod yn ymwybodol o'r amodau gwaith amrywiol yn y diwydiannau gweithgynhyrchu prosesau, a all gynnwys;
- gweithio ar uchder
- gwaith shifft (gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau)
- gweithrediadau 365 diwrnod y flwyddyn
- gweithio yn yr awyr agored
- gwisgo offer diogelwch arbenigol
- gweithio o fewn amgylchedd perygl uchel.
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 2: Gweithgynhyrchu Prosesau - Gweithrediadau Prosesu
Lefel 2: Gweithgynhyrchu Prosesau - Gweithrediadau Prosesu Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 2 Diploma NVQ mewn Gweithrediadau Diwydiannau Prosesu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
GQA PAA\VQ-SET | C00/1024/6 500/7759/4 | 41 | 410 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Diploma mewn Technoleg Prosesu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/0338/3 600/0820/9 | 54 | 540 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 2: Gweithgynhyrchu Prosesau - Gweithrediadau Prosesu | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 1 | 6 |
Application of number | 1 | 6 |
Digital literacy | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 2: Gweithgynhyrchu Prosesau - Gweithrediadau Prosesu | 256 | 615 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Llwybr gydag isafswm oriau dysgu = 871 o oriau hyfforddi
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) mewn Gweithgynhyrchu Prosesau yn cymryd 24 mis i'w chwblhau.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gweithgynhyrchu Prosesau - Gweithiwr Prosesau/Technegydd Prosesu Metelau
Lefel 3: Gweithgynhyrchu Prosesau - Gweithiwr Prosesau/Technegydd Prosesu Metelau Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 3 Diploma NVQ mewn Gweithrediadau Diwydiannau Prosesu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
GQA PAA\VQ-SET | C00/1024/6 500/7759/4 | 41 | 410 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Dyfarniad BTEC Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg Uwch (Datblygu Gwybodaeth Dechnegol) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Pearson | C00/2955/5 601/9053/X | 49 | 490 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 3: Gweithgynhyrchu Prosesau - Gweithiwr Prosesau/Technegydd Prosesu Metelau | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Digital literacy | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 3: Gweithgynhyrchu Prosesau - Gweithiwr Prosesau/Technegydd Prosesu Metelau | 246 | 935 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Llwybr gydag isafswm oriau dysgu = 1181 o oriau hyfforddi
Mae’r Brentisiaeth (Lefel 3) mewn Gweithgynhyrchu Prosesau fel arfer yn cymryd 24 i 36 mis i'w chwblhau
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gweithgynhyrchu Prosesau - Cynnal a Chadw Peirianneg Brosesu
Lefel 3: Gweithgynhyrchu Prosesau - Cynnal a Chadw Peirianneg Brosesu Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Dyfarniad BTEC Lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg Uwch (Datblygu Gwybodaeth Dechnegol) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Pearson | C00/2955/5 601/9053/X | 49 | 490 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 3: Gweithgynhyrchu Prosesau - Cynnal a Chadw Peirianneg Brosesu | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Digital literacy | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 3: Gweithgynhyrchu Prosesau - Cynnal a Chadw Peirianneg Brosesu | 246 | 935 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Llwybr gydag isafswm oriau dysgu = 1181 o oriau hyfforddi
Mae’r Brentisiaeth (Lefel 3) mewn Gweithgynhyrchu Prosesau fel arfer yn cymryd 24 i 36 mis i'w chwblhau
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Other additional requirements
Dim
Progression
Lefel 2
Dilyniant i mewn i'r llwybr:
Nid oes unrhyw lwybrau mynediad wedi'u diffinio ymlaen llaw ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Gweithgynhyrchu Prosesau, ond efallai y bydd newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant yn ystyried symud ymlaen o'r meysydd canlynol:
- Cymwysterau seiliedig ar waith megis NVQs/SVQs neu gymwysterau galwedigaethol cysylltiedig mewn pwnc sy'n ymwneud â Gweithgynhyrchu Prosesau. (Gall enghreifftiau gynnwys: BTEC, City & Guilds, Diplomâu/Tystysgrifau/Dyfarniadau PAA/VQ-SET)
- Mae TGAU mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg neu Beirianneg hefyd yn cynnig platfform cryf ar gyfer dilyniant.
- Mae Cymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru (Diploma Sylfaen/Canolradd) mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch hefyd yn gyfle gwych i symud ymlaen i Weithgynhyrchu Prosesau.
- Gall profiad blaenorol yn y diwydiannau gweithgynhyrchu proses neu ddisgyblaeth gysylltiedig hefyd fod yn llwybr mynediad priodol.
Dilyniant o'r llwybr hwn:
Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen hon, mae sawl opsiwn ar gael i'r ymgeisydd llwyddiannus sy'n dymuno parhau â'i ddatblygiad er mwyn camu ymlaen yn ei yrfa. Mae cyfleoedd i barhau i ymgymryd â hyfforddiant galwedigaethol neu gymwysterau academaidd pellach.
Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt):
- Prentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Prosesau neu ddisgyblaeth gysylltiedig
- Cymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru (Diploma Canolradd/ Uwch) mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch
- Datblygu eu gyrfa mewn hyfforddi drwy ymgymryd â Dyfarniadau Aseswyr a Dilyswyr
- Cymwysterau mewn maes cysylltiedig, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) Iechyd a Diogelwch, Hyfforddiant a Datblygu, Technegau Gwella Busnes a Rheoli Goruchwylio.
Gallai cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen yn llwyddiannus arwain at un o'r rolau swydd canlynol:
- Cemegion
- Gweithiwr Prosesau
- Fferyllol
- Gweithiwr Prosesau
- Derbyn ('Downstream')
- Gweithiwr Proses Buro
Lefel 3
Dilyniant i mewn i'r llwybr:
Nid oes unrhyw lwybrau mynediad wedi'u diffinio ymlaen llaw i'r Brentisiaeth Gweithgynhyrchu Proses, ond efallai y bydd newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant yn ceisio symud ymlaen o'r meysydd canlynol:
- Cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithgynhyrchu Prosesau neu ddisgyblaeth gysylltiedig
- Cymwysterau seiliedig ar waith megis NVQs/SVQs neu gymwysterau galwedigaethol mewn pwnc sy'n gysylltiedig â Gweithgynhyrchu Prosesau. (Gall enghreifftiau gynnwys: BTEC, City & Guilds, Diplomâu/ Tystysgrifau/ Dyfarniadau PAA/VQ-SET)
- Mae cymwysterau TGAU neu Safon Uwch mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg neu Beirianneg hefyd yn darparu platfform cryf ar gyfer symud ymlaen i'r fframwaith.
- Mae Cymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru (Diploma Canolradd / Uwch) mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch hefyd yn gyfle gwych i symud ymlaen i Weithgynhyrchu Prosesau.
- Gall profiad blaenorol yn y diwydiannau gweithgynhyrchu prosesau neu ddisgyblaeth gysylltiedig hefyd fod yn llwybr mynediad priodol.
Dilyniant o'r llwybr hwn:
Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth hon, mae sawl opsiwn ar gael i'r ymgeisydd llwyddiannus sy'n dymuno parhau â'i ddatblygiad er mwyn camu ymlaen yn ei yrfa. Mae cyfleoedd i barhau i ymgymryd â hyfforddiant galwedigaethol neu gymwysterau academaidd pellach. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt):
- Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Brosesu neu ddisgyblaeth gysylltiedig
- Tystysgrif/ Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Gemegol neu ddisgyblaeth gysylltiedig
- Cymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru (Diploma Uwch) mewn Peirianneg neu Weithgynhyrchu a Dylunio Cynnyrch
- Datblygu eu gyrfa mewn hyfforddi drwy ymgymryd â Dyfarniadau Aseswyr a Dilyswyr
- Cymwysterau mewn maes cysylltiedig, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) Iechyd a Diogelwch, Hyfforddiant a Datblygu, Technegau Gwella Busnes a Rheoli Goruchwylio
- Aelodaeth o sefydliad proffesiynol ar lefel Technegydd Peirianneg
Gallai cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus arwain at un o'r rolau swydd canlynol:
Cemegion
- Gweithwyr/Technegwyr Prosesau (aml-sgìl)
- Technegwyr Cynnal a Chadw Peirianneg Brosesu (Trydanol, Mecanyddol ac Offeryniaeth)
Fferyllol
- Gweithwyr/Technegwyr Prosesau (aml-sgìl)
- Technegwyr Cynnal a Chadw Peirianneg Brosesu (Trydanol, Mecanyddol ac Offeryniaeth)
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Nod y Brentisiaeth Gweithgynhyrchu Prosesau yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle a chynhwysiant yng Nghymru drwy gynnig cyfleoedd dysgu o safon uchel.
Rhaid i'r Brentisiaeth gael ei chyflwyno mewn amgylcheddau heb ragfarn a gwahaniaethu lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi. Ni ddylai fod unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddethol a recriwtio prentisiaid i'r rhaglen, sydd ar gael i bawb sy’n bodloni’r meini prawf dethol a nodwyd, waeth beth fo'u rhyw, tarddiad ethnig, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd.
Materion yng Nghymru
- Rhywedd: mae menywod wedi'u tangynrychioli yn y sector, 24%.
- Ethnigrwydd: mae gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cynrychioli tua 3% o'r gweithlu.
- Oedran: yn y diwydiannau gweithgynhyrchu prosesau, mae'r gweithlu'n heneiddio, gyda dim ond 9% o dan 25 oed.
Rhwystrau
Er bod y diwydiannau prosesau modern yn effeithlon, yn lân ac yn arddel safonau diogelwch da, mae camsyniad o hyd bod y gwaith yn fudr ac yn beryglus. Mae cyngor gyrfaoedd ynghylch mynediad i'r diwydiant yn aml yn wael. Mae trosiant staff yn gyfyngedig oherwydd cyfraddau cadw uchel.
Camau Gweithredu
Mae Cogent wedi cyflwyno cyfres o astudiaethau achos a Llwybrau Gyrfaoedd sy'n benodol i'r diwydiant ar wefan Cogent Careers i annog pobl o bob cefndir i ymuno â'r diwydiannau prosesau. Mae Cogent yn cyfrannu'n rheolaidd at ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau sgiliau yng Nghymru i hyrwyddo prentisiaethau, gan roi cyfle delfrydol i fynd i'r afael â materion sy'n wynebu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Cogent hefyd yn gweithio gyda grwpiau cynrychiadol megis Canolfan Adnoddau'r Deyrnas Unedig, gan ymgysylltu â'u rhaglenni gwaith Menywod mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Responsibilities
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru