Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Gwasanaethau Ariannol

Framework:
Gwasanaethau Ariannol
Lefel:
2/3

Diben y fframwaith hwn yw hyfforddi tanysgrifenwyr, staff hawliadau a staff broceru yswiriant, arianwyr bancio/ymgynghorwyr canolfannau galwadau, gweinyddwyr gweithrediadau buddsoddi a phensiynau, staff cyngor ariannol a chymorth morgeisi a’r rhai sy’n rhan o gasglu dyledion.

Byddai’r fframwaith hwn yn addas os oes gennych:

  • sgiliau cyfathrebu a gwrando da;
  • sgiliau rhifedd, ymchwil, dadansoddi a TG da;
  • hunanddisgyblaeth dda; a
  • sgiliau cadw cofnodion da.

Byddai’r rhaglen hon hefyd yn addas i chi os oes gennych ddealltwriaeth dda am ddarparu datrysiadau i anghenion ariannol pobl ac os ydych yn gallu rhyngweithio â gwahanol fathau o bobl.

I fod yn llwyddiannus ar y rhaglen, gorau oll os yw’r rhai sy’n ymuno â hi’n meddu ar TGAU mewn Saesneg a Mathemateg graddau A i C; fodd bynnag, mae gan lawer o gyflogwyr ddiddordeb mewn sgiliau a phrofiad hefyd.

Gofynnir i chi ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol, methdaliad neu Ddyfarniadau Llys Sirol ar adeg cofrestru ar gyfer y cymwysterau.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Gwasanaethau Ariannol - Lefel 2

Llwybr 1: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Prosesu, Gweinyddwr Tanysgrifennu, Gweinyddwr Trin Hawliadau a Gweinyddwr Broceru.

Llwybr 2: Mae’n cefnogi rolau gwaith Ariannwr ac Ymgynghorydd Cwsmeriaid. 

Llwybr 3: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Prosesu a Thriniwr Hawliadau.

Llwybr 4:  Mae’n cefnogi rolau gwaith Ymgynghorydd Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweinyddwr ac Ymgynghorydd.

Llwybr 5: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Cyngor Ariannol a Gweinyddwr Morgeisi.

Llwybr 6: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Gwybodaeth Buddsoddi, Prosesydd Masnach a Gweinyddwr Cysoni Cyfrifon.

Llwybr 7: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Ariannol a Gweinyddwr Cysoni.

Llwybr 8: Mae’n cefnogi rolau gwaith Cydlynydd Credyd a Chydlynydd Cyllid.

Gwasanaethau Ariannol - Lefel 3

Llwybr 1:  Mae’n cefnogi rolau gwaith Brocer, Tanysgrifennwr a Swyddog Hawliadau.

Llwybr 2: Mae’n cefnogi rolau gwaith Uwch Arianwyr, Uwch Ymgynghorwyr Cwsmeriaid, Ymgynghorwyr Arian Tramor a Goruchwylwyr Gweinyddu.

Llwybr 3: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Achosion Corfforaethol, Gweinyddwr Setliadau, Gweinyddwr Perfformiad Buddsoddi a Goruchwylwyr.

Llwybr 4: Mae’n cefnogi rolau gwaith Tanysgrifennwr a Thriniwr Hawliadau.

Llwybr 5: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Cyngor Ariannol a Rheolwr Ariannol.

Llwybr 6: Mae’n cefnogi rolau gwaith Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid, Goruchwylydd, Ymgynghorydd.

Llwybr 7: Mae’n cefnogi rolau gwaith Arweinydd Tîm Pensiynau, Gweinyddwr Pensiynau a Rheolwr Pensiynau.

Llwybr 8: Mae’n cefnogi rolau gwaith Rheolwr Credyd, Rheolwr Credyd a Risg ac Arweinydd Tîm Rheoli Credyd. 

Llwybr 9: Mae’n cefnogi rolau gwaith Ymgynghorydd Cwsmeriaid ac Uwch Ymgynghorydd.

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 2:  18 mis

Lefel 3:  18 mis

Llwybrau dilyniant

Lefel 2: Mae’r llwybrau’n cynnwys:

  • Prentisiaeth Lefel 3
  • Cyflogaeth
  • Prentisiaeth Uwch
  • Rhaglenni hyfforddi a datblygu mewnol

Cymwysterau proffesiynol lefel uwch, gan gynnwys:

  • Tystysgrif Lefel 3, Diploma Lefel 4, Diploma Lefel 4 a Diploma Uwch Lefel 6 mewn Yswiriant y Sefydliad Yswiriant Siartredig (CII);
  •    Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Yswiriant;
  •     Graddau Sylfaen mewn Gwasanaethau Ariannol.

Lefel 3: Mae’r llwybrau’n cynnwys:

  • Cyflogaeth
  • Prentisiaeth Uwch Lefel 4  
  • Rhaglenni hyfforddi a datblygu mewnol.

Cymwysterau proffesiynol lefel uwch, gan gynnwys:

  • Diploma Lefel 4 a Diploma Uwch Lefel 6 mewn Yswiriant y Sefydliad Yswiriant Siartredig (CII);
  • Graddau Sylfaen mewn Gwasanaethau Ariannol
  • BA/MSc mewn Gwasanaethau Ariannol

Cymwysterau

Lefel 2:   Tystysgrif mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol

Lefel 3:   Tystysgrif mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

2

Dim gofynion mynediad ffurfiol.

Dylech allu dangos i gyflogwr a darparwr dysgu:

  • bod gennych ymrwymiad profedig i weithio gyda phobl, efallai trwy gyrsiau cyswllt yn yr ysgol neu brofiad gwaith;
  • eich bod wedi ennill TGAU neu gymwysterau cyfwerth;
  • bod gennych ddiddordeb mewn gwasanaethau ariannol.

3

Dim gofynion mynediad ffurfiol.

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

26 Tachwedd 2021  
Next review due: 31 Rhagfyr 2028