- Framework:
- Gwasanaethau Ariannol
- Lefel:
- 2/3
Diben y fframwaith hwn yw hyfforddi tanysgrifenwyr, staff hawliadau a staff broceru yswiriant, arianwyr bancio/ymgynghorwyr canolfannau galwadau, gweinyddwyr gweithrediadau buddsoddi a phensiynau, staff cyngor ariannol a chymorth morgeisi a’r rhai sy’n rhan o gasglu dyledion.
Byddai’r fframwaith hwn yn addas os oes gennych:
- sgiliau cyfathrebu a gwrando da;
- sgiliau rhifedd, ymchwil, dadansoddi a TG da;
- hunanddisgyblaeth dda; a
- sgiliau cadw cofnodion da.
Byddai’r rhaglen hon hefyd yn addas i chi os oes gennych ddealltwriaeth dda am ddarparu datrysiadau i anghenion ariannol pobl ac os ydych yn gallu rhyngweithio â gwahanol fathau o bobl.
I fod yn llwyddiannus ar y rhaglen, gorau oll os yw’r rhai sy’n ymuno â hi’n meddu ar TGAU mewn Saesneg a Mathemateg graddau A i C; fodd bynnag, mae gan lawer o gyflogwyr ddiddordeb mewn sgiliau a phrofiad hefyd.
Gofynnir i chi ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol, methdaliad neu Ddyfarniadau Llys Sirol ar adeg cofrestru ar gyfer y cymwysterau.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Gwasanaethau Ariannol - Lefel 2
Llwybr 1: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Prosesu, Gweinyddwr Tanysgrifennu, Gweinyddwr Trin Hawliadau a Gweinyddwr Broceru.
Llwybr 2: Mae’n cefnogi rolau gwaith Ariannwr ac Ymgynghorydd Cwsmeriaid.
Llwybr 3: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Prosesu a Thriniwr Hawliadau.
Llwybr 4: Mae’n cefnogi rolau gwaith Ymgynghorydd Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gweinyddwr ac Ymgynghorydd.
Llwybr 5: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Cyngor Ariannol a Gweinyddwr Morgeisi.
Llwybr 6: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Gwybodaeth Buddsoddi, Prosesydd Masnach a Gweinyddwr Cysoni Cyfrifon.
Llwybr 7: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Ariannol a Gweinyddwr Cysoni.
Llwybr 8: Mae’n cefnogi rolau gwaith Cydlynydd Credyd a Chydlynydd Cyllid.
Gwasanaethau Ariannol - Lefel 3
Llwybr 1: Mae’n cefnogi rolau gwaith Brocer, Tanysgrifennwr a Swyddog Hawliadau.
Llwybr 2: Mae’n cefnogi rolau gwaith Uwch Arianwyr, Uwch Ymgynghorwyr Cwsmeriaid, Ymgynghorwyr Arian Tramor a Goruchwylwyr Gweinyddu.
Llwybr 3: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Achosion Corfforaethol, Gweinyddwr Setliadau, Gweinyddwr Perfformiad Buddsoddi a Goruchwylwyr.
Llwybr 4: Mae’n cefnogi rolau gwaith Tanysgrifennwr a Thriniwr Hawliadau.
Llwybr 5: Mae’n cefnogi rolau gwaith Gweinyddwr Cyngor Ariannol a Rheolwr Ariannol.
Llwybr 6: Mae’n cefnogi rolau gwaith Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid, Goruchwylydd, Ymgynghorydd.
Llwybr 7: Mae’n cefnogi rolau gwaith Arweinydd Tîm Pensiynau, Gweinyddwr Pensiynau a Rheolwr Pensiynau.
Llwybr 8: Mae’n cefnogi rolau gwaith Rheolwr Credyd, Rheolwr Credyd a Risg ac Arweinydd Tîm Rheoli Credyd.
Llwybr 9: Mae’n cefnogi rolau gwaith Ymgynghorydd Cwsmeriaid ac Uwch Ymgynghorydd.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 18 mis
Lefel 3: 18 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2: Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth Uwch
- Rhaglenni hyfforddi a datblygu mewnol
Cymwysterau proffesiynol lefel uwch, gan gynnwys:
- Tystysgrif Lefel 3, Diploma Lefel 4, Diploma Lefel 4 a Diploma Uwch Lefel 6 mewn Yswiriant y Sefydliad Yswiriant Siartredig (CII);
- Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Yswiriant;
- Graddau Sylfaen mewn Gwasanaethau Ariannol.
Lefel 3: Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Prentisiaeth Uwch Lefel 4
- Rhaglenni hyfforddi a datblygu mewnol.
Cymwysterau proffesiynol lefel uwch, gan gynnwys:
- Diploma Lefel 4 a Diploma Uwch Lefel 6 mewn Yswiriant y Sefydliad Yswiriant Siartredig (CII);
- Graddau Sylfaen mewn Gwasanaethau Ariannol
- BA/MSc mewn Gwasanaethau Ariannol
Cymwysterau
Lefel 2: Tystysgrif mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol
Lefel 3: Tystysgrif mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
2
Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Dylech allu dangos i gyflogwr a darparwr dysgu:
- bod gennych ymrwymiad profedig i weithio gyda phobl, efallai trwy gyrsiau cyswllt yn yr ysgol neu brofiad gwaith;
- eich bod wedi ennill TGAU neu gymwysterau cyfwerth;
- bod gennych ddiddordeb mewn gwasanaethau ariannol.
3
Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Gweld llwybr llawn