- Framework:
- Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad
- Lefel:
- 3/4
Mae'r fframwaith hwn wedi'i ddatblygu i gefnogi pobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yng Nghymru. Mae wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sy'n gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid ac asiantaethau, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i asiantaethau cymorth a sefydliadau cymorth cymdeithasol eraill.
Bydd y fframwaith yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a/neu arweiniad o ansawdd uchel (gan ddibynnu ar eich swydd), yn helpu i ddatblygu eich rôl, ac yn eich cefnogi i gamu ymlaen i swyddi goruchwylio, rheoli a/neu broffesiynol uwch.
Bydd y Brentisiaeth yn addas os ydych yn mwynhau cynorthwyo eraill i wireddu eu potensial, yn awyddus i berfformio'n dda yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt, ac yn dymuno cydweithio â chwsmeriaid a chyflogwyr i ddiwallu eu hanghenion.
Dyma'r priodweddau angenrheidiol i ymgymryd â'r fframwaith hwn:
- Cymhelliant i lwyddo i gwblhau'r Brentisiaeth
- Parodrwydd i ddysgu a chymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu yn y gweithle
- Parodrwydd a gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl;
- Ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Os yw'r Brentisiaeth yn cynnwys Gweithgarwch a Reoleiddir, bydd yn ofynnol i newydd-ddyfodiaid gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Pathway options and levels
Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad - Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Swyddog Cyswllt Cwsmeriaid, Swyddog Cyswllt Cyflogaeth, Swyddog Cymorth i Deuluoedd, Brocer Swyddi/Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr, Hyfforddwr Swyddi/Cyflogadwyedd, Gweithiwr Cymorth/Swyddog Prosiect a Thiwtor.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Swyddog Cyswllt Cwsmeriaid, Cynghorydd Personol/Hyfforddwr Swydd/Hyfforddwr Cyflogadwyedd, Brocer Swyddi/Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr a Thiwtor.
Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad - Lefel 4
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Swyddog Cyswllt Cwsmeriaid, Swyddog Cyswllt Cyflogaeth, Swyddog Cymorth i Deuluoedd, Brocer Swyddi/Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr, Hyfforddwr Swyddi, Gweithiwr Cymorth Uwch / Swyddog Prosiect a Thiwtor.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Cydgysylltydd Ymgysylltu â Chyflogwyr/Uwch Frocer Swyddi/Uwch Ymgynghorydd Ymgysylltu, Uwch Gynghorydd Personol/Uwch Hyfforddwr Swydd, Uwch Diwtor/Cydgysylltydd a Rhanddeiliad Tiwtoriaid / Cydgysylltydd Partneriaeth (Ymarferydd Uwch).
Llwybr 3: Addas ar gyfer swydd Cynorthwyydd Gyrfaoedd.
Further information
Duration
Lefel 3: 18 mis
Lefel 4: 18 mis
Progression routes
Lefel 3
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chymwysterau pellach
- Cymwysterau Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad, Gwybodaeth a Chyngor ar Yrfaoedd, a Gwasanaethau sy'n Gysylltiedig â Chyflogaeth
- Cymwysterau Lefel 3/4 mewn meysydd fel gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli, busnes a gweinyddu, hyfforddi a chwnsela.
- Prentisiaethau Uwch mewn Gwybodaeth, Cyngor a Gwasanaethau sy'n Gysylltiedig ag Arweiniad; Rheoli ac Arweinyddiaeth (ar ôl ennill profiad ar lefel rheolwyr canol); Gwasanaeth Cwsmeriaid; Busnes a Gweinyddu.
- Graddau sylfaen mewn meysydd galwedigaethol perthnasol.
Lefel 4
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Rhagor o hyfforddiant a chymwysterau
- Prentisiaethau Uwch fel rheoli ac arweinyddiaeth (ar ôl ennill profiad ar lefel rheolwr canol)
- Cymwysterau ar lefel 5 ac uwch mewn meysydd fel cyngor ac arweiniad, arweinyddiaeth ac astudiaethau busnes rheoli
- Cymwysterau addysgu.
Cymwysterau
Lefel 3: Diploma yn y llwybr sy'n cael ei ddewis
Lefel 4: Diploma yn y llwybr sy'n cael ei ddewis
What are the entry requirements for this pathway?
All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);
Lefel 3
No formal entry requirements.
Lefel 4
No formal entry requirements.
View full pathway