Skip to main content

Pathway summary

Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad

Framework:
Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad
Lefel:
3/4

Mae'r fframwaith hwn wedi'i ddatblygu i gefnogi pobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yng Nghymru. Mae wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sy'n gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid ac asiantaethau, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i asiantaethau cymorth a sefydliadau cymorth cymdeithasol eraill.

Bydd y fframwaith yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a/neu arweiniad o ansawdd uchel (gan ddibynnu ar eich swydd), yn helpu i ddatblygu eich rôl, ac yn eich cefnogi i gamu ymlaen i swyddi goruchwylio, rheoli a/neu broffesiynol uwch.

Bydd y Brentisiaeth yn addas os ydych yn mwynhau cynorthwyo eraill i wireddu eu potensial, yn awyddus i berfformio'n dda yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt, ac yn dymuno cydweithio â chwsmeriaid a chyflogwyr i ddiwallu eu hanghenion.

Dyma'r priodweddau angenrheidiol i ymgymryd â'r fframwaith hwn:

- Cymhelliant i lwyddo i gwblhau'r Brentisiaeth

- Parodrwydd i ddysgu a chymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu yn y gweithle

- Parodrwydd a gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl;

- Ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Os yw'r Brentisiaeth yn cynnwys Gweithgarwch a Reoleiddir, bydd yn ofynnol i newydd-ddyfodiaid gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Pathway options and levels

Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad - Lefel 3

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Swyddog Cyswllt Cwsmeriaid, Swyddog Cyswllt Cyflogaeth, Swyddog Cymorth i Deuluoedd, Brocer Swyddi/Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr, Hyfforddwr Swyddi/Cyflogadwyedd, Gweithiwr Cymorth/Swyddog Prosiect a Thiwtor.

Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Swyddog Cyswllt Cwsmeriaid, Cynghorydd Personol/Hyfforddwr Swydd/Hyfforddwr Cyflogadwyedd, Brocer Swyddi/Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr a Thiwtor.

Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad - Lefel 4

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Swyddog Cyswllt Cwsmeriaid, Swyddog Cyswllt Cyflogaeth, Swyddog Cymorth i Deuluoedd, Brocer Swyddi/Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr, Hyfforddwr Swyddi, Gweithiwr Cymorth Uwch / Swyddog Prosiect a Thiwtor.

Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Cydgysylltydd Ymgysylltu â Chyflogwyr/Uwch Frocer Swyddi/Uwch Ymgynghorydd Ymgysylltu, Uwch Gynghorydd Personol/Uwch Hyfforddwr Swydd, Uwch Diwtor/Cydgysylltydd a Rhanddeiliad Tiwtoriaid / Cydgysylltydd Partneriaeth (Ymarferydd Uwch).

Llwybr 3: Addas ar gyfer swydd Cynorthwyydd Gyrfaoedd.

Further information

Duration

Lefel 3: 18 mis

Lefel 4: 18 mis

Progression routes

Lefel 3

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Cyflogaeth
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chymwysterau pellach
  • Cymwysterau Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad, Gwybodaeth a Chyngor ar Yrfaoedd, a Gwasanaethau sy'n Gysylltiedig â Chyflogaeth
  • Cymwysterau Lefel 3/4 mewn meysydd fel gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli, busnes a gweinyddu, hyfforddi a chwnsela.
  • Prentisiaethau Uwch mewn Gwybodaeth, Cyngor a Gwasanaethau sy'n Gysylltiedig ag Arweiniad; Rheoli ac Arweinyddiaeth (ar ôl ennill profiad ar lefel rheolwyr canol); Gwasanaeth Cwsmeriaid; Busnes a Gweinyddu.
  • Graddau sylfaen mewn meysydd galwedigaethol perthnasol.

Lefel 4 

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Cyflogaeth
  • Rhagor o hyfforddiant a chymwysterau
  • Prentisiaethau Uwch fel rheoli ac arweinyddiaeth (ar ôl ennill profiad ar lefel rheolwr canol)
  • Cymwysterau ar lefel 5 ac uwch mewn meysydd fel cyngor ac arweiniad, arweinyddiaeth ac astudiaethau busnes rheoli
  • Cymwysterau addysgu.

Cymwysterau

Lefel 3: Diploma yn y llwybr sy'n cael ei ddewis 

Lefel 4: Diploma yn y llwybr sy'n cael ei ddewis

What are the entry requirements for this pathway?

All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);

Lefel 3

No formal entry requirements.

Lefel 4

No formal entry requirements.

View full pathway

Document revisions

19 Tachwedd 2021