Skip to main content

Llwybr

Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad

Mae'r Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau (GGDaS) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Addysg a Gwasanaethau Gwybodaeth a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 15/03/2022 ACW Fframwaith Rhif. FR04209

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

56 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad.

55 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth.

55 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad.

55 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth.

63 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Cyngor a Gwybodaeth am Yrfaoedd.

Gofynion mynediad

Er mwyn hyrwyddo amrywiaeth yn y gweithlu ni cheir unrhyw amodau mynediad ffurfiol ar gyfer y llwybr hwn.

Fodd bynnag, dylid cynnal asesiad cychwynnol o addasrwydd pob dysgwr i gael mynediad i'r Brentisiaeth cyn ymrestru. Dylai hyn anelu i:

  • Bennu a dewis y llwybr mwyaf priodol o fewn y llwybr, sy'n cyd-fynd â'i rôl a'i ddyheadau gyrfa neilltuol.
  • Sicrhau eu bod yn gwybod am unrhyw ofynion mynediad neilltuol sydd wedi'u nodi ar gyfer pob un o'r llwybrau (fel bo'n briodol)
  • Sicrhau bod ganddynt sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol priodol i ymdopi â baich y Brentisiaeth, a'r potensial i feithrin a gwella'r sgiliau hyn yn rhan o raglen y Brentisiaeth.
  • Nodi unrhyw ddysgu a phrofiadau blaenorol perthnasol y dylid eu hystyried er mwyn teilwra Cynllun Dysgu Unigol y prentis - er enghraifft, dylid annog prentisiaid sydd eisoes wedi ennill cymwysterau neu gwblhau unedau perthnasol cyn cael mynediad i'r Brentisiaeth i ddewis opsiynau a fydd yn cynnig cyfle iddynt ddysgu gwybodaeth a meithrin sgiliau newydd;
  • Canfod a oes ganddynt y lefel briodol o aeddfedrwydd a'r rhinweddau a'r gwerthoedd personol sy'n gydnaws â'r rolau a gyflawnir ganddynt yn rhan o'r Brentisiaeth;
  • Sicrhau eu bod:
  • Wedi'u hysgogi i gwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus
  • Yn barod i ddysgu a chymhwyso'r hyn a ddysgwyd yn y gwaith
  • Yn barod ac yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl; -
  • Wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth

Asesu eu potensial i:

  • Sylweddoli pa mor bwysig yw hi i fod yn onest bob tro wrth ryngweithio'n bersonol ac yn gymdeithasol, a pharchu hawliau dynol pawb
  • Ymrwymo i ethos o ddatblygiad proffesiynol parhaus (y gweithiwr proffesiynol fel ymarferydd myfyriol), gan arwain at welliant mewn ymarfer proffesiynol -
  • Ymrwymo i gydweithio â chwsmeriaid a chleientiaid i fodloni eu hanghenion o ran darparu gwybodaeth, cyngor ac/neu arweiniad.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad

Lefel 3: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Cymwysterau

Mae'n rhaid gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 3 Diploma mewn Cyngor ac Arweiniad yng Nghymru
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/0532/5 600/7818/2 38 380 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad 194 244
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Diploma Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad yng Nghymru - Cymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth cyfun - 38 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys dysgu dan arweiniad yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yw 438 o oriau

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth

Lefel 3: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth Cymwysterau

Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun canlynol isod.

Lefel 3 Diploma mewn Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/0532/7 600/7819/4 37 370 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth 176 208
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru - Cymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth cyfun - 37 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys dysgu dan arweiniad yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yw 384 o oriau GLH

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad

Lefel 4: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:

Lefel 4 Diploma mewn Cyngor ac Arweiniad
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/0533/0 600/7876/5 39 390 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg
Lefel 4 Diploma NVQ mewn Cyngor ac Arweiniad
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0351/4 600/1632/2 37 370 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Edrychwch ar Atodiad 3 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 3 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad 171 221
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Diploma Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad -Cymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth cyfun - 37 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys dysgu dan arweiniad yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yw 398 o oriau GLH

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 3 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth

Lefel 4: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth Cymwysterau

Mae'n rhaid gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 4 Diploma mewn Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/0533/2 600/7821/2 37 370 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 4 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 3 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth 171 188
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Diploma Lefel 4 mewn Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth - Cymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth cyfun - 37 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys dysgu dan arweiniad yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yw 359 o oriau GLH

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 3 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Gwybodaeth am Yrfaoedd

Lefel 4: Gwybodaeth am Yrfaoedd Cymwysterau

Mae'n rhaid gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 4 Diploma mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfaoedd
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
OCR C00/4483/5 603/7560/7 45 450 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Edrychwch ar Atodiad 5 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4: Gwybodaeth am Yrfaoedd Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 3 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4: Gwybodaeth am Yrfaoedd 191 314
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Diploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfaoedd - Cymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth cyfun - 45 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys dysgu dan arweiniad yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yw 505 o oriau GLH

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 3 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Os yw'r Brentisiaeth yn cynnwys Gweithgarwch Rheoledig bydd yn ofynnol i newydd-ddyfodiad dderbyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Sylwer: rhaid i holl staff Gyrfa Cymru sy'n gweithio gyda chleientiaid neu ddata ar gleientiaid dderbyn gwiriad DBS.

Dilyniant

Gellir cael mynediad i'r llwybr hwn o amrywiaeth o lwybrau eraill, gan gynnwys:

Mynediad o addysg amser llawn / Rhai sy'ch dychwelyd i'r gwaith/Recriwtio uniongyrchol gan gyflogwr, gan gynnwys drwy'r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau/Prentisiaethau Sylfaen fel gwasanaethau cwsmeriaid, gweinyddu busnes, gweithrediadau canolfan gyswllt, gwerthu a thelewerthu ac ati/O rolau mewn gwasanaethau cwsmeriaid, busnes a gweinyddu, cynghori ac arwain, canolfannau cyswllt, gwerthu, dysgu a datblygu, recriwtio ac ati/Rhaglenni cyflogadwyedd eraill a ariennir gan y Llywodraeth.

Llwybrau dilyniant o'r llwybr hwn

Mae'r llwybr hwn yn galluogi prentisiaid i ddatblygu eu gyrfa i gyfeiriad sy'n gweddu iddyn nhw a'u cyflogwr. Oherwydd yr hyblygrwydd hwn mae nifer o opsiynau ar agor i brentisiaid ar ôl cwblhau'r llwybr. Disgrifir y rhain isod:

Rolau swydd yn y meysydd canlynol:

  • Cymorth cymdeithasol
  • Cyflogaeth o fewn y sector gwirfoddol
  • Gwasanaethau cysylltiedig â chyflogaeth
  • Gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd
  • Hyfforddiant
  • Rheoli ac arwain tîm

Lefel 4 Rolau datblygu strategol yn y meysydd a ganlyn:

  • Polisi, llywodraethu a rheoli gwasanaeth
  • Datblygu busnes
  • Ymgynghori
  • Rheoli/datblygu contractau.

Hyfforddiant a chymwysterau pellach gan gynnwys:

Lefel 3: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad / Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth;

  • Cymwysterau Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad, Gwybodaeth a Chyngor Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth
  • Cymwysterau lefel 3/4 eraill mewn meysydd fel gwasanaethau cwsmeriaid, rheoli, busnes a gweinyddu, hyfforddi a chwnsela.
  • Prentisiaethau Uwch mewn: Gwasanaethau Cysylltiedig â Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad; Rheoli ac Arwain (ar ôl ennill profiad ar lefel rheolaeth ganol); Gwasanaethau Cwsmeriaid; Busnes a Gweinyddu, ac ati
  • Graddau sylfaen mewn meysydd galwedigaethol perthnasol.

Lefel 4: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad/Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth

  • Prentisiaethau Uwch fel Rheoli ac Arwain (ar ôl ennill profiad ar lefel rheolaeth ganol);
  • Cymwysterau ar lefel 5 ac uwch mewn meysydd fel cyngor ac arweiniad, arweinyddiaeth a rheolaeth ac ati.
  • Cyrsiau gradd a graddau sylfaen, fel rheolaeth ac arweinyddiaeth, astudiaethau busnes ac ati; a
  • Chymwysterau cyfarwyddyd gyrfaoedd

Lefel 4: Gwybodaeth am Yrfaoedd

  • Diploma Lefel 6 mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfaoedd (a chymwysterau cyfarwyddyd gyrfaoedd eraill perthnasol)
  • Cymwysterau eraill ar lefel 5 ac uwch, fel cyngor ac arweiniad, arweinyddiaeth a rheolaeth ac ati.
  • Prentisiaethau Uwch mewn meysydd fel rheolaeth ac arweinyddiaeth
  • Cyrsiau gradd a graddau sylfaen, fel rheolaeth ac arweinyddiaeth, astudiaethau busnes ac ati a
  • Chymwysterau addysgu, fel TAR.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am weithio yn y sector gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd o'r Sefydliad Datblygu Gyrfaoedd: http://www.thecdi.net/

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i annog amrywiaeth ehangach o unigolion i ymuno â'r sector, felly mae'r llwybr wedi cael ei ddylunio i gefnogi hyn, fel a ganlyn:

Cynlluniwyd yr amodau mynediad i'r llwybr hwn fel eu bod yn hyblyg Mae mentora wedi'i gynnwys i gynnig cymorth ychwanegol a chynyddu cyfraddau cadw prentisiaidMae cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi'u hymwreiddio yn holl elfennau'r llwybr.

Lle nodir bod diffyg cymwysterau llythrennedd a rhifedd yn rhwystr i gyflogaeth, bydd cymorth i ennill cymwysterau drwy'r model hyfforddiant prentisiaeth hwn yn cael gwared â'r rhwystr hwnnw.

Cafodd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) a chymwysterau y mae'r llwybrau hyn yn seiliedig arnynt eu datblygu gyda'r sector i sicrhau mynediad i ddetholiad mor eang ag sy'n bosibl o ddysgwyr.

Mae egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn berthnasol i'r holl systemau hynny a chanddynt y potensial i wahaniaethu yn erbyn prentisiaid ar unrhyw bryd yn ystod y rhaglen - o recriwtio a dethol ac ymsefydlu, hyd at gwblhau'n llwyddiannus.

Dylid trin y Gymraeg a Saesneg yn gyfartal. Anogir darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn frwd i ddarparu ar gyfer y ddwy iaith lle bo angen, a lle bo'n ofynnol, wrth gyflwyno'r Brentisiaeth hon.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw CHC yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

Atodiad 1

Lefel 3: Cyngor ac Arweiniad yng Nghymru

Er mwyn cwblhau'r Diploma Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad yng Nghymru (B1), mae'n rhaid i brentisiaid gwblhau'r holl unedau yng Ngrŵp Gorfodol A (20 credyd), ac isafswm o 18 credyd o Grŵp Dewisol B, i greu cyfanswm terfynol o 38 credyd o leiaf.

Cyfunir cymhwysedd a gwybodaeth o fewn unedau'r cymhwyster hwn. Mae credydau ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth wedi cael eu dosrannu i bob uned yn dibynnu ar gyfran y deilliannau dysgu cymhwysedd a gwybodaeth yn yr unedau hynny.

Yn seiliedig ar y dosraniad hwn, mae'r 5 uned orfodol yn darparu 10 credyd cymhwysedd a 10 credyd gwybodaeth, a thrwy hynny'n bodloni gofynion sylfaenol prentisiaeth. Dyma ddosbarthiad y credydau o fewn yr unedau gorfodol:

  • Ymarfer Proffesiynol a Gofynion Deddfwriaethol ar gyfer Cyngor, Arweiniad a Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru (M/504/6149) - 0 credyd cymhwysedd a 6 chredyd gwybodaeth;
  • Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad: Sefydlu Cyfathrebu â Chleientiaid (H/504/6150) - 2 gredyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth
  • Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad: Rheoli Llwyth Achos Personol (K/504/6151) - 3 chredyd cymhwysedd a 0 credyd gwybodaeth
  • Rheoli'ch Datblygiad Proffesiynol eich Hun o fewn Sefydliad (L/600/9586) - 3 chredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth
  • Cynorthwyo Cleientiaid i Ddefnyddio'r Gwasanaeth Cyngor ac Arweiniad (L/602/5139) - 2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth

Cyflawnir gweddill y credydau cymhwysedd a gwybodaeth ar gyfer y cymhwyster hwn drwy gwblhau'r nifer a'r cyfuniad priodol o unedau o Grŵp Dewisol A. Rhaid asesu cymhwysedd a gwybodaeth ar wahân.

Atodiad 2

Lefel 3: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth

Er mwyn cwblhau'r Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth, mae'n rhaid i brentisiaid gwblhau'r holl unedau yng Ngrŵp Gorfodol A (16 credyd), ac isafswm o 9 credyd o Grŵp Dewisol B, ac isafswm o 12 credyd o Grŵp Dewisol C, i greu cyfanswm terfynol o 37 credyd o leiaf.

Yn y cymhwyster hwn, caiff elfennau cymhwysedd a gwybodaeth eu cyfuno o fewn yr unedau. Mae credydau ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth wedi cael eu dosrannu i bob uned yn dibynnu ar gyfran y deilliannau dysgu cymhwysedd a gwybodaeth yn yr unedau hynny. Yn seiliedig ar y dosraniad hwn, bydd prentisiaid yn cyflawni o leiaf 10 credyd cymhwysedd ac o leiaf 14 credyd gwybodaeth drwy gwblhau'r 3 uned orfodol a'r isafswm o unedau o Grŵp Dewisol A, a thrwy hynny'n bodloni'r gofyniad sylfaenol ar gyfer prentisiaeth. Dyma ddosraniad y credydau o fewn yr unedau gorfodol a'r unedau yng Ngrŵp Dewisol A:

  • Ymarfer Proffesiynol a Gofynion Deddfwriaethol ar gyfer Cyngor a Chanllawiau a Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru (M/504/6149) - 0 credyd cymhwysedd a 6 chredyd gwybodaeth
  • Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad: Cynorthwyo a Pharatoi Cleientiaid (M/504/6152) - 4 credyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth
  • Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth (K/504/6277) - 0 credyd cymhwysedd a 5 credyd gwybodaeth
  • Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad: Sefydlu Trefniadau Cyfathrebu â Chleientiaid (H/504/6150) - 2 gredyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth
  • Cynorthwyo Cleientiaid i Ddefnyddio'r Gwasanaeth Cyngor ac Arweiniad (L/602/5139) - 2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth
  • Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad: Rheoli Llwyth Achosion Personol (K/504/6151) - 3 chredyd cymhwysedd a 0 credyd gwybodaeth
  • Galluogi Cleientiaid Cyngor ac Arweiniad i Fanteisio ar Gyfleoedd Atgyfeirio (F/602/5185) – 2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth
  • Rheoli'ch Datblygiad Proffesiynol eich Hun o fewn Sefydliad (L/600/9586) – 3 chredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth.

Cyflawnir gweddill y credydau cymhwysedd a gwybodaeth ar gyfer y cymhwyster hwn drwy gwblhau'r nifer a'r cyfuniad priodol o unedau o Grŵp Dewisol B.

Rhaid asesu cymhwysedd a gwybodaeth ar wahân.

Atodiad 3

Lefel 4: Cyngor ac Arweiniad

Er mwyn cwblhau'r Diploma Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad yng Nghymru (B1), mae'n rhaid i brentisiaid gwblhau'r holl unedau o Grŵp Gorfodol A (23 credyd), ac isafswm o 16 credyd o Grŵp Dewisol B, i greu cyfanswm terfynol o 39 credyd o leiaf. Bydd yn rhaid ennill 22 credyd o leiaf ar lefel 4.

Cyfunir cymhwysedd a gwybodaeth o fewn unedau'r cymhwyster hwn. Mae credydau ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth wedi cael eu dosrannu i bob uned yn dibynnu ar gyfran y deilliannau dysgu cymhwysedd a gwybodaeth yn yr unedau hynny. Yn seiliedig ar y dosraniad hwn, bydd prentisiaid yn ennill 11 credyd cymhwysedd ac 12 credyd gwybodaeth drwy gwblhau'r 5 uned orfodol, a thrwy hynny'n bodloni'r gofyniad sylfaenol ar gyfer prentisiaeth. Dyma ddosbarthiad y credydau o fewn yr unedau gorfodol:

  • Ymarfer Proffesiynol a Gofynion Deddfwriaethol ar gyfer Cyngor, Arweiniad a Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru (M/504/6181) - 0 credyd cymhwysedd a 6 chredyd gwybodaeth
  • Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad: Darparu a Chynnal Gwybodaeth ar gyfer y Gwasanaeth (L/504/6157) - 2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth
  • Datblygu a Gwerthuso Cynlluniau Gweithredol ar gyfer Eich Maes Cyfrifoldeb Eich Hun (Y/600/9588) - 6 chredyd cymhwysedd a 0 credyd gwybodaeth Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad: Diwylliant, Gwerthoedd ac Ymddygiad Sefydliadol (Y/504/6159) - 1 credyd cymhwysedd a 3 chredyd gwybodaeth
  • Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad: Hunanarfarnu mewn Amgylchedd Busnes (T/504/6279) - 2 gredyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth

Cyflawnir gweddill y credydau cymhwysedd a gwybodaeth ar gyfer y cymhwyster hwn drwy gwblhau'r nifer a'r cyfuniad priodol o unedau o Grŵp Dewisol A. Rhaid asesu cymhwysedd a gwybodaeth ar wahân.

I gwblhau Diploma NVQ Lefel 4 City & Guilds mewn Cyngor ac Arweiniad (B2), mae'n rhaid i brentisiaid ennill yr holl unedau o Grŵp Gorfodol M1 (17 credyd). Mae'n rhaid dewis yr 20 credyd sy'n weddill o blith yr Unedau Dewisol yng Ngrŵp O1. Mae'n rhaid dewis isafswm o 19 credyd o blith unedau Lefel 4.

Bydd ymgeiswyr yn ennill 9 credyd cymhwysedd ac 8 credyd gwybodaeth yn cwblhau'r 5 uned orfodol. Mae'n rhaid ennill yr 1 credyd cymhwysedd a'r 1 credyd gwybodaeth sy'n ofynnol gan brentisiaid i fodloni gofynion SASW drwy gwblhau unedau dewisol. Dyma ddosraniad credyd o fewn yr unedau gorfodol:

  • (F/602/5140) Uned 003 Datblygu trefniadau i ryngweithio â chleientiaid cyngor ac arweiniad - 4 credyd: 3 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (Y/602/5189) uned 014 Rheoli llwyth achosion personol - 4 credyd: 3 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (H/602/5194) uned 016 Gwerthuso a datblygu eich cyfraniad eich hun i'r gwasanaeth - 3 chredyd: 1 cymhwysedd; 2 gwybodaeth
  • (F/602/59999) uned 018 Gweithredu o fewn rhwydweithiau - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (R/602/51010) uned 030 Deall pwysigrwydd deddfwriaeth a gweithdrefnau - 3 chredyd: 0 cymhwysedd; 3 gwybodaeth.

Mae'n ofynnol dewis isafswm o 20 credyd o blith yr unedau dewisol a restrir isod. Bydd unrhyw gyfuniad o unedau sy'n bodloni'r gofyniad sylfaenol hwn, o'u cyfuno â'r unedau gorfodol, yn bodloni'r isafswm o 10 credyd cymhwysedd a 10 credyd gwybodaeth ar gyfer y cymhwyster cyfan (hynny yw, unrhyw ddwy uned ddewisol o leiaf).

  • (L/602/5139) uned 002 Cefnogi cleientiaid i ddefnyddio'r gwasanaeth cyngor ac arweiniad - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (R/602/5143) uned 005 Cynorthwyo cleientiaid cyngor ac arweiniad i benderfynu ar gamau gweithredu - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (A/602/5153) uned 006 Paratoi cleientiaid i weithredu drwy gyngor ac arweiniad - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (J/602/5172) uned 007 Cynorthwyo cleientiaid drwy gyngor ac arweiniad i adolygu'r camau a gyflawnwyd ganddynt - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (R/602/5174) uned 008 Eiriolwr ar ran cleientiaid cyngor ac arweiniad - 6 chredyd: 4 cymhwysedd; 2 gwybodaeth (H/602/5177) uned 009 Paratoi i gynrychioli cleientiaid cyngor ac arweiniad mewn achos ffurfiol - 6 chredyd: 2 cymhwysedd; 4 gwybodaeth
  • (M/602/5179) uned 010 Cyflwyno achosion ar ran cleientiaid cyngor ac arweiniad mewn achos ffurfiol - 6 chredyd: 3 cymhwysedd; 3 gwybodaeth
  • (M/602/5182) uned 011 Negodi ar ran cleientiaid cyngor ac arweiniad - 5 credyd: 3 cymhwysedd; 2 gwybodaeth
  • (T/602/5183) uned 012 Cysylltu â gwasanaethau eraill - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (F/602/5185) uned 013 Galluogi cleientiaid cyngor ac arweiniad i gael mynediad at gyfleoedd atgyfeirio - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (K/602/5200) uned 019 Cyflawni ymchwil ar gyfer y gwasanaeth a'i gleientiaid - 5 credyd: 3 cymhwysedd: 2 gwybodaeth
  • (M/602/5201) uned 020 Dylunio deunyddiau gwybodaeth i'w defnyddio yn y gwasanaeth - 4 credyd: 2 cymhwysedd; 2 gwybodaeth
  • (T/602/5202) uned 021 Darparu a chynnal deunyddiau gwybodaeth i'w defnyddio yn y gwasanaeth - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (A/602/5203) uned 022 Adnabod a hyrwyddo cyfraniad Addysg a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd o fewn y sefydliad - 4 credyd: 3 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (F/602/5204) uned 024 Integreiddio Addysg a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd o fewn y cwricwlwm - 4 credyd: 3 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (J/602/5205) uned 025 Hyrwyddo Addysg a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (L/602/5206) uned 026 Negodi a chynnal cytundebau gwasanaeth - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (R/602/5207) uned 027 Hwyluso dysgu mewn grwpiau - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (Y/602/5208) uned 028 Paratoi a sefydlu trefniadau cyfryngu - 4 credyd: 2 cymhwysedd; 2 gwybodaeth (D/602/5209) uned 029 Llwyfannu a rheoli'r broses gyfryngu - 8 credyd: 5 cymhwysedd; 3 gwybodaeth
  • (M/600/9726) uned 033 Galluogi dysgu drwy arddangosiadau a chyfarwyddiadau - 3 chredyd: 2 cymhwysedd; 1 gwybodaeth
  • (A/602/5198) uned 034 Rhoi cymorth i ymarferwyr eraill - 5 credyd: 4 cymhwysedd; 1 gwybodaeth

Atodiad 4

Lefel 4: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth

Er mwyn cwblhau'r Diploma Lefel 4 mewn Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru (B1), mae'n rhaid i brentisiaid gwblhau'r holl unedau o Grŵp Gorfodol A (22 credyd), ac isafswm o 15 credyd o Grŵp Dewisol B, i greu cyfanswm terfynol o 37 credyd o leiaf.

Yn y cymhwyster hwn, caiff elfennau cymhwysedd a gwybodaeth eu cyfuno o fewn yr unedau. Mae credydau ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth wedi cael eu dosrannu i bob uned yn dibynnu ar gyfran y deilliannau dysgu cymhwysedd a gwybodaeth yn yr unedau hynny. Yn seiliedig ar y dosraniad hwn, bydd prentisiaid yn ennill 10 credyd cymhwysedd a 12 credyd gwybodaeth drwy gwblhau'r 4 uned orfodol, a thrwy hynny'n bodloni'r gofyniad sylfaenol ar gyfer prentisiaeth.

Dyma ddosbarthiad y credydau o fewn yr unedau gorfodol:

  • Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad: Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth (K/504/6277) - 0 credyd cymhwysedd a 5 credyd gwybodaeth;
  • Ymarfer Proffesiynol a Gofynion Deddfwriaethol ar gyfer Cyngor, Arweiniad a Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth yng Nghymru (M/504/6181) - 0 credyd cymhwysedd a 6 chredyd gwybodaeth;
  • Rheoli Cyfathrebu yn y Gwaith (F/602/1888) - 4 credyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth;
  • Datblygu a Gwerthuso Cynlluniau Gweithredol ar gyfer Eich Maes Cyfrifoldeb Eich Hun (Y/600/9588) - 6 chredyd cymhwysedd a 0 credyd gwybodaeth.

Cyflawnir gweddill y credydau cymhwysedd a gwybodaeth ar gyfer y cymhwyster hwn drwy gwblhau'r nifer a'r cyfuniad priodol o unedau o Grŵp Dewisol A.

Rhaid asesu cymhwysedd a gwybodaeth ar wahân.

Atodiad 5

Lefel 4: Gwybodaeth am Yrfaoedd

Er mwyn cwblhau'r Diploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfaoedd (B1), mae'n rhaid i brentisiaid gwblhau'r holl unedau yng Ngrŵp Gorfodol M1 (30 credyd), ac isafswm o 15 credyd o Grŵp Dewisol O1, i greu cyfanswm terfynol o 45 credyd o leiaf.

Ar gyfer y Brentisiaeth Uwch, mae'n rhaid i brentisiaid gwblhau'r uned ganlynol, naill ai'n rhan o'r 15 credyd a ddaw o'r unedau dewisol a ddewisir, neu'n ychwanegol at yr unedau hyn.

  • Cyrchu, Gwerthuso a Defnyddio Gwybodaeth am y Farchnad Lafur gyda Chleientiaid (Y/502/8440).

Cyfunir cymhwysedd a gwybodaeth o fewn unedau'r cymhwyster hwn. Mae credydau ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth wedi cael eu dosrannu i bob uned yn dibynnu ar gyfran y deilliannau dysgu cymhwysedd a gwybodaeth yn yr unedau hynny. Yn seiliedig ar y dosraniad hwn, mae'r 5 uned orfodol yn darparu 10 credyd cymhwysedd a 20 credyd gwybodaeth, a thrwy hynny'n bodloni gofynion sylfaenol prentisiaeth. Dyma ddosbarthiad y credydau o fewn yr unedau gorfodol:

  • Damcaniaethau a Chysyniadau Dewis Gyrfa i Gefnogi Cleientiaid (A/502/8401) - 0 credyd cymhwysedd a 6 chredyd gwybodaeth;
  • Cyfweld â Chleientiaid i ganfod a oes arnynt angen Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd (J/502/8417) - 3 chredyd cymhwysedd a 3 chredyd gwybodaeth;
  • Bodloni Anghenion Cleientiaid am Wybodaeth yn gysylltiedig â Gyrfaoedd (L/502/8418) - 4 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth;
  • Paratoi i Weithio yn y Sector Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd (F/601/4882) - 0 credyd cymhwysedd a 6 chredyd gwybodaeth; a
  • Myfyrio ar Arfer a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (R/601/4885) - 3 chredyd cymhwysedd a 3 chredyd gwybodaeth.

Cyflawnir gweddill y credydau cymhwysedd a gwybodaeth drwy gwblhau'r nifer a'r cyfuniad priodol o unedau dewisol.

Rhaid asesu cymhwysedd a gwybodaeth ar wahân.


Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021