Llewellyns Limited
- Nifer yr cyflogeion:
- 11-20
- Lleoliadau:
- Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
- Sector:
- Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol
Trosolwg o'r cwmni
Mae Llewellyns Chartered Certified Accountants yn bractis cyfrifyddiaeth ddigidol sydd wedi hen ennill ei blwyf yng Ngogledd Caerdydd. Rydym yn darparu cyngor arbenigol i fusnesau newydd a sefydledig ac yn prosesu cyfrifon, cadw llyfrau, cyflogres a gwasanaethau hanfodol eraill.Cyfleoedd a gynigir
Cymwysterau Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT)
Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud
- Dyletswyddau gweinyddu swyddfa cyffredinol
- Dyletswyddau mewnbynnu data fel prosesu datganiadau banc, cyfrifon sieciau ac ati
- Cysoni data cadw llyfr digidol gyda meddalwedd (e.e. Quickbooks, Xero)
- Darparu cymorth i gwsmeriaid gydag ymholiadau syml
- Gweithio gydag uwch gyfrifyddion profiadol i gefnogi eu dyletswyddau a’r cwmni yn ehangach
Buddion sydd ar gael
Mae Llewellyns ar reng flaen cyfrifyddiaeth ddigidol fodern. Byddwn yn darparu amgylchedd dysgu a gwaith cyfforddus a chefnogol gyda’r adnoddau gorau ar gyfer y swydd. Rydym yn sicrhau cydbwysedd bywyd a gwaith iach.
Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd
- Mae arnom angen sgiliau TG cadarn, gyda hyfedredd mewn cymwysiadau Microsoft Office
- Hyder mewn Mathemateg ar lefel sylfaenol
- Mae cydweithio gydag aelodau tîm eraill ar ymholiadau cymhleth neu dasgau hirach yn hanfodol
- Dyhead o gamu ymlaen a gyrfa hirdymor mewn cyfrifyddiaeth a chyllid
Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid
- Swyddi yn dechrau ar gyflog Prentisiaeth Genedlaethol
- Bydd tâl yn cynyddu yn unol â phrofiad a pherfformiad
Prosesau ac amserlenni recriwtio
Rydym yn gwmni sy’n tyfu ac yn recriwtio’n rheolaidd yn ôl yr angen
Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog
Er bod gennym rywfaint o ddarpariaeth Gymraeg, cynhelir y rhan fwyaf o’n gwaith yn Saesneg.Lleoliad
Brook House, Brook RoadCF14 1DU
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .