BBC
- Nifer yr cyflogeion:
- 500+
- Lleoliadau:
- Lleoliadau amrywiol ledled y DU
- Sector:
Trosolwg o'r cwmni
Y BBC yw darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf blaenllaw’r byd. Rydym yn creu rhaglenni unigryw o safon gyda’r gorau yn y byd sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu miliynau o bobl yn y DU ac ym mhedwar ban byd.Cyfleoedd a gynigir
Mae 28 o brentisiaethau a chynlluniau hyfforddi ar gael, yn amrywio o 18 mis i 4 blynedd, ac yn darparu hyfforddiant a chymwysterau safon aur. Mae gennym gyfleoedd ym meysydd newyddiaduraeth, cynhyrchu, technoleg neu fusnes.
Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud
Newyddiadurwr, Peiriannydd Meddalwedd, Dadansoddwr Data, Rheolwr Cynhyrchu, Cynorthwyydd Camera, Gweithredwr Technegol, Gweithredwr Darlledu
Buddion sydd ar gael
Hyfforddiant safon aur yn y diwydiant gan arbenigwyr ac uwch staff y BBC. Mentor i’ch cefnogi a’ch tywys yn ystod eich hyfforddiant. Cynllun pensiwn â buddion diffiniedig a gostyngiad ar wasanaethau deintyddol, gofal iechyd a champfa a llawer mwy. Mynediad i rwydweithiau staff y BBC.
Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd
Mae hyn yn amrywio o gynllun i gynllun. Edrychwch ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.
Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid
£14,400 - £21,216 yn dibynnu ar y cynllun.
Prosesau ac amserlenni recriwtio
Adegau amrywiol gydol y flwyddyn.
Anabledd Cynhwysol
Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog
Ydyn, edrychwch ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.Lleoliad
Langham StreetW1A 1AA
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .