Skip to main content

J Randall Roofing Contractors Limited

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Rydym yn gweithio o Sir Benfro i Fryste ar hyn o bryd.
Sector:
Gwasanaethau Adeiladu

Trosolwg o'r cwmni

Mae J Randall Roofing Contractors Limited wedi datblygu dros gyfnod o 25 mlynedd, rydym yn Arbenigwyr Toeau Fflat ac yn gweithio gyda llawer o weithgynhyrchwyr i ddarparu systemau toeau gyda gwarantau sy’n para 25 i 30 mlynedd.

Cyfleoedd a gynigir

Rydym yn gweithio ar raglen ddwy flynedd gyda phrentisiaid gan ein bod ni’n hoffi datblygu ar gyflymder yr unigolyn. Mae’n hollbwysig i ni fod gan bob Prentis ddealltwriaeth glir o Iechyd a Diogelwch yn gyntaf.

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Bydd prentisiaid yn cael cyfle i gysgodi pobl mewn swyddi uwch. Gall hyn fod o feysydd Gweinyddu, Rheoli Prosiect a Gosod Toeau Allanol (h.y.) adeiladu toeau, gosod llechi a theils, cladio. Gall Prentisiaid Allanol ddisgwyl gweithio yn yr awyr agored a bydd gofyn cael hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch.

Buddion sydd ar gael

Gall prentisiaid dderbyn cymorth rhagorol gyda hyfforddwyr mewnol profiadol, rydym yn gweithio’n agos gydag unigolion i’w helpu i gyflawni eu nodau personol eu hunain a’u nodau gyrfa.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Gall hyn ddibynnu ar y swydd sydd ar gael, byddwch angen penderfyniad a brwdfrydedd i hyfforddi mewn maes datblygu sy’n benodol i’r unigolyn, byddwch yn gallu cadw amser yn dda ac yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored ac yn barod i gwblhau rhaglenni hyfforddi dwys.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Gall hyn amrywio yn dibynnu ar y swyddi. Mae J Randall yn Aelodau Lwfans Byw.

Lleoliad

Unit 6 Parc Amanwy
New Road
Carmarthenshire
SA18 3EZ

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .