J Randall Roofing Contractors Limited
- Nifer yr cyflogeion:
- Lleoliadau:
- Rydym yn gweithio o Sir Benfro i Fryste ar hyn o bryd.
- Sector:
- Gwasanaethau Adeiladu
Trosolwg o'r cwmni
Mae J Randall Roofing Contractors Limited wedi datblygu dros gyfnod o 25 mlynedd, rydym yn Arbenigwyr Toeau Fflat ac yn gweithio gyda llawer o weithgynhyrchwyr i ddarparu systemau toeau gyda gwarantau sy’n para 25 i 30 mlynedd.Cyfleoedd a gynigir
Rydym yn gweithio ar raglen ddwy flynedd gyda phrentisiaid gan ein bod ni’n hoffi datblygu ar gyflymder yr unigolyn. Mae’n hollbwysig i ni fod gan bob Prentis ddealltwriaeth glir o Iechyd a Diogelwch yn gyntaf.
Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud
Bydd prentisiaid yn cael cyfle i gysgodi pobl mewn swyddi uwch. Gall hyn fod o feysydd Gweinyddu, Rheoli Prosiect a Gosod Toeau Allanol (h.y.) adeiladu toeau, gosod llechi a theils, cladio. Gall Prentisiaid Allanol ddisgwyl gweithio yn yr awyr agored a bydd gofyn cael hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch.
Buddion sydd ar gael
Gall prentisiaid dderbyn cymorth rhagorol gyda hyfforddwyr mewnol profiadol, rydym yn gweithio’n agos gydag unigolion i’w helpu i gyflawni eu nodau personol eu hunain a’u nodau gyrfa.
Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd
Gall hyn ddibynnu ar y swydd sydd ar gael, byddwch angen penderfyniad a brwdfrydedd i hyfforddi mewn maes datblygu sy’n benodol i’r unigolyn, byddwch yn gallu cadw amser yn dda ac yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored ac yn barod i gwblhau rhaglenni hyfforddi dwys.
Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid
Gall hyn amrywio yn dibynnu ar y swyddi. Mae J Randall yn Aelodau Lwfans Byw.
Lleoliad
Unit 6 Parc AmanwyNew Road
SA18 3EZ
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .