- Framework:
- Rhagoriaeth Chwaraeon
- Lefel:
- 3
Nod y brentisiaeth hon yw diwallu anghenion pobl ifanc sydd â photensial realistig o gyflawni rhagoriaeth yn eu camp ac sy’n ceisio perfformio ar y lefel uchaf yn y gamp honno fel eu prif nod gyrfa. Mae’r fframwaith wedi’i lunio’n amcanol ac yn targedu athletwyr 16-19 oed ond gallai athletwyr hŷn gael eu hystyried hefyd.
Wrth ymuno â’r rhaglen byddwch wedi cael profiad sawl blwyddyn yn y gamp o’ch dewis.
Mae rolau’n cynnwys:
- Athletwyr a gyllidir a fydd yn hyfforddi a chystadlu i ennill teitlau/ pencampwriaethau a’u cyllido drwy raglenni UK Sport – Cyllid Loteri a mentrau Llywodraeth Cymru.
- Athletwyr Proffesiynol / Lled-broffesiynol sy’n cael eu talu i hyfforddi ac sy’n cystadlu’n llawn amser i ennill teitlau/ pencampwriaethau tra’n cynrychioli cenhadaeth eu cyflogwyr.
- Hyfforddwyr Chwaraeon sy’n sbarduno’r gallu i nodi anghenion a chynllunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant addas.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Rhagoriaeth Chwaraeon - Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Athletwyr (a Gyllidir), Athletwyr Proffesiynol/Lled-broffesiynol, Swyddogion Cymorth mewn Amgylcheddau Perfformio Uchel a Hyfforddwyr Chwaraeon.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Athletwyr (a Gyllidir), Athletwyr Proffesiynol/Lled-broffesiynol, Hyfforddwyr Chwaraeon a Swyddogion Cymorth mewn Amgylcheddau Perfformio Uchel.
Mwy o wybodaeth
Hyd
12 mis
Llwybrau dilyniant
Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Camu ymlaen yn y meysydd canlynol:
- Chwaraeon proffesiynol neu led-broffesiynol
- Hyfforddwr Chwaraeon athletau llawn amser
- Swyddog Cymorth mewn Amgylcheddau Perfformio Uchel
- Cyrsiau Addysg Bellach neu Addysg Uwch yn astudio ar gyfer eu hopsiynau gyrfaoedd uwchradd:
- Gradd Sylfaen mewn Hyfforddi Chwaraeon/ Gwyddorau Chwaraeon/ Gwyddorau Chwaraeon gyda Datblygu a Rheoli Chwaraeon;
- Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Chwaraeon a rhaglenni Israddedig Gwyddorau Ymarfer: BSc Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer/ Rheoli Chwaraeon.
Cymwysterau
Lefel 3: Diploma NVQ mewn Cyflawni Rhagoriaeth mewn Chwaraeon/Tystysgrif mewn Cyflawni Rhagoriaeth mewn Chwaraeon
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 3
Mae mynediad ar y fframwaith hwn yn gyfyngedig a dylai darparwyr preifat â diddordeb, colegau AB neu gyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon gysylltu â SkillsActive cyn ystyried darparu’r rhaglen hon.
Gweld llwybr llawn