Skip to main content

Llwybr

Rhagoriaeth mewn Chwaraeon

Mae SkillsActive wedi cytuno ar gynnwys y llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Teithio, Twristiaeth a Hamdden a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/04/2024 ACW Fframwaith Rhif. FR05109

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

136 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Rhagoriaeth Mewn Chwaraeon (1)

67 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Rhagoriaeth Mewn Chwaraeon (2)

Gofynion mynediad

Nod y Llwybr yw diwallu anghenion pobl ifanc sydd â'r potensial realistig o sicrhau rhagoriaeth yn eu camp a'u prif nod o ran gyrfa yw perfformio ar y lefel uchaf.

Bydd y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol yn cydweithredu â SkillsActive a Chwaraeon Cymru i ddatblygu gofynion mynediad penodol ar gyfer chwaraeon er mwyn sicrhau bod yr athletwyr mwyaf talentog yn cael eu dewis.

Mae tri chategori o ymwneud a nodwyd o ran recriwtio prentisiaid i'r rhaglen hon:

  • prentisiaid dan gontract mewn clybiau proffesiynol
  • athletwyr cyflogedig a nodwyd fel perfformwyr uchel posibl gan eu Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol
  • pobl ifanc talentog cyflogedig yn 'amgylchedd yr academi' sydd heb gal cynnig telerau amser llawn eto

Ar wahân i gael eu dewis a'u hargymell gan eu Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol, byddai SkillsActive yn argymell y dylai prentisiaid fod wedi ennill o leiaf 5 TGAU A* i C. Fodd bynnag, nid yw'r ffaith nad ydynt yn bodloni'r maen prawf hwn yn eithrio athletwyr talentog o'r rhaglen. Mae'r Llwybr hwn yn cydnabod y gallai prentisiaid allu cyflawni cymhwysedd galwedigaethol ond bod arnynt angen cymorth ychwanegol gyda'u cymhwysedd gwybodaeth.

Mae mynediad i'r Llwybr hwn wedi'i gyfyngu a dylai darparwyr preifat, colegau Addysg Bellach neu Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer chwaraeon sydd â diddordeb gysylltu â SkillsActive cyn ystyried cymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno'r rhaglen hon.

Mae SkillsActive yn cydweithio'n agos â Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol, UK Sport, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn penderfynu ar gymhwystra, ac maent yn cydweithio hefyd â Sefydliadau Dyfarnu i ddatblygu mecanwaith ar gyfer partïon sydd â diddordeb i symud tuag at statws Canolfan Gymeradwy a threfniadau contractio.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (1)

Lefel 3: Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (1) Cymwysterau

Rhaid i'r dysgwyr gwblhau un o’r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 3 BTEC Pearson Diploma Cenedlaethol - Rhagoriaeth mewn Chwaraeon a Pherfformiad
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/3942/8 603/4923/2 89 890 Cyfun Cymraeg-Saesneg
Lefel 3 BTEC Pearson - Diploma Cenedlaethol Estynedig - Rhagoriaeth mewn Chwaraeon a Pherfformiad
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/3942/9 603/4924/4 146 1460 Cyfun Cymraeg-Saesneg

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (1) Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (1) 378 350
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

86 credyd am Gymhwysedd a 89 credyd am Wybodaeth

Cyfanswm yr oriau ar gyfer y Llwybr hwn yw 908 awr sy'n cynnwys oriau hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, i'w cwblhau o fewn 18-24 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (2)

Lefel 3: Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (2) Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gwblhau un o’r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (2) Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (2) 210 275
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

26 credyd am Gymhwysedd a 29 credyd am Wybodaeth 

Cyfanswm yr oriau ar gyfer y Llwybr hwn yw 485 awr sy'n cynnwys oriau hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, i'w cwblhau o fewn 12-20 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Dim

Dilyniant

Dilyniant i'r Brentisiaeth hon

Bydd prentisiaid sy'n ymuno â'r rhaglen wedi cael blynyddoedd lawer o brofiad yn cymryd rhan yn y gamp o'u dewis.

Bydd yn parhau'n ofynnol i'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol nodi athletwyr talentog drwy feini prawf dethol penodol ar gyfer chwaraeon. Bydd y broses hon yn wahanol i bob Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Cydnabyddir yn eang y bydd athletwyr sy’n berfformwyr uchel eisoes wedi cael eu nodi erbyn eu bod yn 16 oed. Mae'n bwysig bod gan brentisiaid posibl y gallu i weithio ar lefel academaidd uwch.

Dilyniant o'r Brentisiaeth hon

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall prentisiaid symud ymlaen i'r meysydd canlynol:

  • Chwaraeon proffesiynol neu led-broffesiynol
  • Athletwr llawn amser
  • Hyfforddwr Chwaraeon
  • Swyddog Cymorth mewn Amgylcheddau Perfformiad Uchel

Gall prentisiaid symud ymlaen hefyd i Gyrsiau Addysg Bellach neu Addysg Uwch a dilyn cyrsiau ar gyfer eu dewisiadau gyrfa eilaidd:

  • Gradd Sylfaen mewn Hyfforddi Chwaraeon/ Gwyddor Chwaraeon/Gwyddor Chwaraeon gyda Datblygu a Rheoli mewn Chwaraeon, Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer
  • Rhaglenni israddedig: BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer/ Rheoli mewn Chwaraeon

Gall prentisiaid symud ymlaen hefyd i amrywiaeth o rolau swydd yn y sector hamdden egnïol a dysgu ar ôl cwblhau'r rhaglen uwch hon fel 'perfformwyr uchel'. Mae'n bwysig bod gan ddarpar brentisiaid y gallu i weithio ar lefel academaidd uwch.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Nod y Brentisiaeth Rhagoriaeth mewn Chwaraeon yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel.

Mae'n rhaid i'r rhaglen hon gael ei chyflwyno mewn lleoliad lle nad oes rhagfarn a gwahaniaethu a lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.

Mae'n rhaid i'r broses o ddewis a recriwtio prentisiaid i'r rhaglen fod yn gynhwysol ac ar gael i bawb. Mae Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol yn cydweithio â Sporting Equals er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud gwahaniaeth parhaus o ran cynnwys yr holl gymunedau nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

MATERION/RHWYSTRAU

- Nid yw pob camp yn cynnig y rhaglen brentisiaeth hon ar hyn o bryd

- Mae meini prawf mynediad clir o ran perfformiad 

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16 oed -18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparwr yr Hyfforddiant/Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 


Diwygiadau dogfennau

23 Medi 2021