- Framework:
- Datblygu Chwaraeon
- Lefel:
- 3
Mae Swyddogion Datblygu Chwaraeon yn hyrwyddo chwaraeon yn gyffredinol, a gallent weithio i awdurdod lleol, neu ganolbwyntio ar chwaraeon penodol tra’n gweithio i gorff llywodraethu cenedlaethol fel swyddog datblygu chwaraeon.
Fel Swyddog Datblygu Chwaraeon, byddwch yn gweithio gyda chymunedau lleol i nodi’r angen a’r galw am weithgareddau newydd ac yn gwella mynediad at chwaraeon ar gyfer pobl ifanc, pobl ag anableddau a phobl o gymunedau difreintiedig, er enghraifft drwy:
- gefnogi clybiau chwaraeon amatur Cymunedol
- trefnu cyrsiau hyfforddiant cymwysterau Corff Llywodraethu Cenedlaethol gan drefnu digwyddiadau gweithgarwch corfforol a chwaraeon
- cefnogi mentrau i leihau troseddau ac adsefydlu troseddwyr.
Gall tasgau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â datblygu chwaraeon gynnwys:
- sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio a bod yr holl gyllid sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio gan roi polisïau lleol a chenedlaethol ar waith;
- nodi cyfleoedd ar gyfer cyllido, trefnu, hyrwyddo a chynnal prosiectau a monitro a gwerthuso prosiectau;
- mynychu cyfarfodydd, seminarau a chynadleddau; a
- chanfod a hyfforddi staff addas, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar gyfer prosiectau, gan reoli adnoddau a chyllidebau.
Bydd gennych agwedd bositif a hyderus, byddwch yn medru cymell eraill, ac yn barod i weithio fel rhan o dîm neu ar eich pen eich hun. Disgwylir i chi hefyd feddu ar y sgiliau i weithio gydag a chymell pob math o gleientiaid gwahanol. Efallai y bydd angen i chi hefyd gyflawni gwiriadau heddlu, er enghraifft os byddwch chi’n gweithio gydag oedolion a phlant agored i niwed.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Datblygu Chwaraeon - Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Swyddog Datblygu Chwaraeon Cymunedol/ Swyddog Datblygu Chwaraeon Penodol.
Mwy o wybodaeth
Llwybrau dilyniant
Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cyflogaeth fel Swyddogion Datblygu Chwaraeon yn cynnwys ystod eang o rolau.
- Cymwysterau Lefel 4 a swyddi fel uwch swyddog datblygu chwaraeon neu reolwr datblygu chwaraeon.
- Camu ar draws i swyddi rheoli ac arwain a chymwysterau pellach yn y maes hwn, fel Datblygu Chwaraeon, Marchnata, Busnes neu hyd yn oed i faes Gwyddorau Cymdeithasol neu Bolisi Cymdeithasol.
Cymwysterau
Lefel 3: Diploma NVQ mewn Datblygu Chwaraeon
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 3
Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, gallai dysgwyr sydd am symud ymlaen i’r rhaglen brentisiaeth hon ddod o gefndiroedd amrywiol a bod â chymwysterau amrywiol.
Gallai’r rhain gynnwys diplomâu, TGAU, cymwysterau Bagloriaeth Cymru, Safonau Uwch, llwybrau hyfforddiant galwedigaethol neu brentisiaethau sylfaen fel y Brentisiaeth Sylfaen mewn Arweinyddiaeth Gweithgareddau neu Hyfforddi ynghyd â rhaglenni Llwybrau at Brentisiaethau.
Gall y brentisiaeth hon gynnig cyfle i gamu ymlaen ar gyfer prentisiaid ar raglen lefel sylfaen ynghyd â chyfle i gamu ymlaen i’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector.
Gweld llwybr llawn