Mae SkillsActive wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Teithio, Twristiaeth a Hamdden a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/10/2024 ACW Fframwaith Rhif. FR05112
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
96 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Lefel 3 - Llwybr Datblygu Chwaraeon.
Gofynion mynediad
Dylai darpar brentisiaid feddu ar agwedd gadarnhaol sy'n ysgogi eraill, yn ogystal â’r gallu i weithio’n hyderus a bod yn barod i weithio fel rhan o dîm neu ar eu pennau eu hunain. Dylent deimlo cymhelliad i lwyddo.
Disgwylir i ddarpar brentisiaid fod â’r sgiliau i weithio gydag amrywiaeth o wahanol gleientiaid a’u hysgogi.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Datblygu Chwaraeon
Lefel 3: Datblygu Chwaraeon Cymwysterau
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 3 Diploma NVQ mewn Datblygiad Chwaraeon | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
1st4sport | C00/1234/5 600/4301/5 | 64 | 640 | Gwybodaeth | Cymraeg-Saesneg |
Lefel 3 BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Chwaraeon | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Pearson | C00/1200/2 603/0460/1 | 90 | 900 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Tystysgrif Estynedig Genedlaethol mewn Hyfforddi Chwaraeon | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Pearson | C00/3943/4 603/4930/X | 48 | 480 | Cyfun | Cymraeg-Saesneg |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Datblygu Chwaraeon | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Datblygu Chwaraeon | 338 | 200 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cymhwyster cymhwysedd - 64 credyd a chymhwyster Gwybodaeth - 13 credyd
Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer y Llwybr hwn yw 538 awr
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Efallai y bydd angen i brentisiaid gael gwiriadau heddlu, er enghraifft pan fyddant yn gweithio gydag oedolion a phlant agored i niwed.
Dilyniant
Dilyniant i'r Brentisiaeth hon
Nid oes unrhyw lwybrau mynediad wedi'u diffinio ymlaen llaw, ond gallai dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i'r rhaglen brentisiaeth hon ddod o wahanol gefndiroedd gyda chymwysterau amrywiol.
Gallai'r rhain gynnwys diplomâu, TGAU, cymwysterau Bagloriaeth Cymru, Safon Uwch, llwybrau hyfforddiant galwedigaethol neu brentisiaethau sylfaen fel y Brentisiaeth Sylfaen mewn Arweinyddiaeth Gweithgarwch neu Hyfforddi yn ogystal â rhaglenni Llwybrau at Brentisiaethau.
Gall y brentisiaeth hon ddarparu cyfle dilyniant i brentisiaid ar raglen lefel sylfaen yn ogystal â dilyniant i'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector. Er mwyn cael dilyniant mae angen i ddarpar brentisiaid gael mynediad i weithio ar lefel sefydliadol / polisi (polisi lleol) ym maes chwaraeon gan mai dyna beth yw datblygu chwaraeon yn ei hanfod.
Mae'r rhaglen hon yn addas hefyd ar gyfer y rhai sy'n dymuno newid eu gyrfa ac ailhyfforddi i fynd i mewn i'r sector ar y lefel hon. Bydd disgwyl i lawer o bobl sy'n gweithio ym maes datblygu chwaraeon feddu ar gymhwyster lefel gradd.
Dilyniant o'r Brentisiaeth hon
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall prentisiaid weithio yn y sector fel Swyddogion Datblygu Chwaraeon sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o rolau, o weithio gyda chymunedau lleol i gefnogi clybiau chwaraeon amatur neu weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid yn trefnu a chefnogi mentrau i leihau troseddu ac adsefydlu troseddwyr.
Yn ogystal â hyn, gall prentisiaid fynd ymlaen hefyd i gymwysterau a rolau swyddi lefel 4, fel uwch-swyddog datblygu chwaraeon neu reolwr datblygu chwaraeon.
Byddai dilyniant llorweddol yn cynnwys dilyniant i rolau rheoli ac arwain a chymwysterau pellach yn y maes hwn, fel Datblygu Chwaraeon, Marchnata, Busnes neu hyd yn oed Gwyddorau Cymdeithasol neu Bolisi Cymdeithasol.
Mae'n bosibl i brentisiaid symud ymlaen hefyd i amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol sy'n eu galluogi i gynyddu eu portffolio o sgiliau; gallai'r rhain ddod o'r sector chwaraeon neu sectorau eraill sydd â chysylltiadau â datblygiad chwaraeon fel iechyd, gwaith ieuenctid neu gyfiawnder.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Nod y rhaglen brentisiaethau hon yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel. Mae'n rhaid i'r rhaglen hon gael ei chyflwyno mewn lleoliad lle nad oes rhagfarn a gwahaniaethu a lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.
Mae'r hinsawdd economaidd bresennol wedi effeithio ar bob agwedd ar chwaraeon a hamdden, gan gynnwys rolau sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Mae'r staff sy'n gweithio yn y meysydd hyn wedi gweld llai o gefnogaeth mewn hyfforddi a datblygu oherwydd y gost. Fodd bynnag, dyma ble gall rhaglen brentisiaeth gyfrannu, drwy sicrhau bod y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â'r sector neu'r rhai sydd eisoes wedi'u cyflogi yn y sector yn cael cyfle i ennill a datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau er gwaethaf yr anawsterau economaidd presennol er mwyn sicrhau eu bod yn sefyll allan ac yn llwyddo.
Mae cyfran sylweddol o'r gweithlu datblygu chwaraeon yn fenywod ac er bod ganddynt bresenoldeb ar draws pob rôl, mae hyn yn gostwng wrth i'r rolau ddod yn rhai uwch. Mae cynnig rhaglenni prentisiaeth yn ein sector yn ei gwneud hi'n bosibl i bob aelod staff ddatblygu sgiliau a gwybodaeth. Felly, gall y brentisiaeth gyfrannu at annog mwy o fenywod i ddatblygu eu sgiliau er mwyn eu galluogi i lenwi mwy o rolau uwch.
Drwy gael proses recriwtio mynediad agored heb ragfarn na gwahaniaethu ar gyfer ein rhaglenni prentisiaeth, rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb, o unrhyw hil, crefydd ac ethnigrwydd i fynd i mewn i'r sector, a thrwy fynd ati yn y dull hwn, gallwn wneud cyfraniad bach o ran ceisio sicrhau y bydd y cydbwysedd o ran ethnigrwydd yn gwella dros gyfnod o amser.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16 oed -18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparwr yr Hyfforddiant/Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr