- Framework:
- Rheoli Hamdden
- Lefel:
- 3
Mae'r fframwaith hwn ar gyfer unigolion sy'n dymuno gweithio mewn swyddi gweithredol mewn cyfleusterau hamdden sy'n amrywio o ganolfannau hamdden i barciau carafanau a pharciau gwyliau.
Os ydych chi'n cael eich cyflogi eisoes yn y sector, neu os ydych chi'n awyddus i fynd i mewn i'r sector a datblygu gwybodaeth a sgiliau i gamu ymlaen yn y sector, mae'n bosibl y bydd y fframwaith hwn yn addas i chi.
Dylech fod ag agwedd gadarnhaol, ysgogol a brwdfrydig, a bod yn barod i weithio fel rhan o dîm neu ar eich pen eich hun.
Dylech fod yn awyddus i lwyddo yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd a bod yn barod i weithio shifftiau, oriau anghymdeithasol a theithio rhwng safleoedd.
Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen i chi gwblhau gwiriadau'r heddlu wrth weithio gydag oedolion a phlant sy'n agored i niwed.
Ar Lefel Uwch, disgwylir i chi ddangos y gallu i ddatblygu sgiliau rheoli a gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Rheoli Hamdden - Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Rheolwr Clwb/Rheolwr Dyletswydd.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 3: 18 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 3:
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Cyrsiau Addysg Bellach neu Addysg Uwch yn astudio pynciau fel Rheoli Digwyddiadau, Marchnata, Busnes, Rheoli ac Arweinyddiaeth neu Reoli Adnoddau Dynol.
Cymwysterau
Lefel 3: Diploma NVQ mewn Rheoli Hamdden
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 3
Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Gweld llwybr llawn